Gallwch wneud cyrsiau gartref heb orfod mynychu coleg neu brifysgol. Mae rhai cyrsiau o bell ac ar-lein yn rhad ac am ddim ac mae cost i rai eraill.
Mwy am ddysgu o bell ac ar-lein
Mae dysgu o bell yn ffordd o ddysgu lle nad ydych yn gorfforol yn yr un ystafell â'r athro, y tiwtor neu'r hyfforddwr. Mae dysgu o bell yn ffordd hyblyg o ddysgu a chael cymhwyster cydnabyddedig.
Mae dysgu ar-lein (a elwir hefyd yn e-ddysgu) yn fath o ddysgu o bell. Dysgu ar-lein yw addysg sy'n digwydd dros y rhyngrwyd.
Mae dysgu cyfunol yn gyfuniad o ddysgu o bell ac ar-lein gyda rhywfaint o addysgu wyneb yn wyneb. Er enghraifft, mewn cwrs, efallai y bydd gennych rywfaint o ddysgu ar-lein ond bydd gofyn i chi fynd i sesiynau ymarferol neu arholiadau hefyd.
Prif awgrymiadau - dewis y cwrs cywir
Dewiswch y cwrs cywir drwy ddilyn ein prif gynghorion:
- Ymchwiliwch y cwrs yn dda. Casglwch gymaint o wybodaeth ag y gallwch am y cwrs, y cynnwys a sut mae'n cael ei addysgu a'i asesu i sicrhau mai dyma'r cwrs cywir i chi
- Rhowch gynnig ar gwrs sy’n rhad ac am ddim. Cyn ymrwymo a thalu am gwrs, beth am roi cynnig ar gwrs am ddim i weld a yw dysgu ar-lein ac o bell yn addas i chi. Mae llawer o gyrsiau blasu am ddim ar gael. Edrychwch ar y rhestr o ddolenni defnyddiol isod sy'n cynnwys rhai cyrsiau am ddim
- Cysylltwch â ni. Siaradwch â chynghorydd am y cwrs ac i gadarnhau mai dyma'r cwrs iawn i chi cyn i chi ymrwymo. Efallai y bydd ein Cynghorwyr Gyrfa hefyd yn gwybod am unrhyw gyllid y gallech fod yn gymwys i gael
- Byddwch yn ymwybodol o'r costau.Oni bai ei fod yn dweud yn glir ei fod yn rhad ac am ddim, bydd disgwyl i chi dalu am eich cwrs. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth fydd yr union gost a beth sydd wedi'i gynnwys a chofiwch ddysgu mwy am yr opsiynau ar gyfer cyllido eich astudiaethau
- Ystyriwch eich camau nesaf. Meddyliwch am beth rydych chi eisiau'r cymhwyster. Mae’n werth gwneud yn siŵr bod y cwrs rydych chi’n ei wneud yn cael ei gydnabod ar gyfer eich gyrfa ddewisol. Edrychwch ar y cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer gwahanol swyddi yn Gwybodaeth am Swyddi
- Byddwch yn ofalus. Mae’n bwysig wrth dalu am gwrs eich bod yn sicr bod y cwrs yn bodoli ac mai nid sgam yw hyn. Gwiriwch y safle, y sefydliad a'r cefndir cyn ymrwymo
Sut alla i ddod o hyd i gyrsiau ar-lein am ddim?
Mae rhai cyrsiau dysgu ar-lein ac o bell yn rhad ac am ddim. Mae'n bwysig gwirio gyda darparwyr unigol cyn i chi gofrestru.
- Cyfrifon Dysgu Personol. Mae'r rhain yn gyrsiau ar-lein hyblyg, rhan-amser sy'n cael eu hariannu'n llawn. Rhaid i chi wirio i weld a ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwyster
- ReAct+. Rhaglen grant i'ch cefnogi os ydych wedi colli eich swydd yn ddiweddar neu o dan y rhybudd o golli eich swydd presennol. Mae cymorth hyd at £1,500 ar gael os ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd
Mae darparwyr fel y Brifysgol Agored, Cymru yn cynnig dysgu ar-lein am ddim drwy:
(Dolenni Saesneg yn unig)
- OpenLearn. Yn cynnwys adnoddau sydd â chynnwys rhyngweithiol, fideos a gemau
- YouTube - Yn cynnwys fideos byr ar amrywiaeth o bynciau
Gallwch chi hefyd:
- Edrych ar Chwilio am Gwrs a dewis 'ar-lein' fel dull astudio a nodi ‘am ddim’ yn yr allweddair i weld y cyrsiau ar-lein sydd ar gael yng Nghymru
- Cael y wybodaeth ddiweddaraf am rai o’r cyrsiau ar-lein am ddim a gynigir yng Nghymru ar Addysg Oedolion Cymru
- Edrych ar Google Coursera sy'n cynnig cyrsiau ar-lein am ddim
Cwestiynau cyffredin am ddysgu ar-lein
Gweld rhai o'r cwestiynau cyffredin:
A yw dysgu o bell neu ar-lein yn iawn i mi?
I benderfynu a yw dysgu o bell ac ar-lein yn addas i chi, dechreuwch drwy feddwl am:
- Sut ydych chi'n dysgu orau? Ydych chi'n gallu dysgu’n annibynnol neu a oes angen i chi weithio gydag eraill?
- Ydych chi’n gallu cymell eich hun a blaenoriaethu eich amser yn dda? Neu a oes angen i chi gael eich arweiniad a chael terfynau amser penodol gan eraill?
- Ydych chi’n gallu gweithio'n dda gartref a defnyddio cyfrifiadur. Neu a yw'n well gennych weithio mewn person, wyneb yn wyneb?
- Os gallwch fforddio mynychu cyrsiau mewn coleg neu brifysgol. Bydd costau ynghlwm â chyrsiau wyneb yn wyneb, er enghraifft, teithio neu lety
Pa gymwysterau alla i eu hennill?
Gallwch ennill yr un cymwysterau wrth astudio cwrs o bell ac ar-lein ag y byddech wrth fynd i goleg a phrifysgol.
Gallwch astudio cyrsiau ar wahanol lefelau cymhwyster ar-lein. Gallai'r cyrsiau hyn:
- Fod yn llawn amser neu'n rhan-amser
- Bod yn gyrsiau byr
- Bod yn fodiwlau unigol
Gallwch weithio tuag at gymwysterau o lefel mynediad i lefel uwch ar lefel 8. Mae'r lefel yn dangos pa mor heriol yw'r cwrs. Po uchaf yw'r lefel, y mwyaf heriol yw'r cymhwyster. Mae rhai o'r cymwysterau y gallech astudio tuag atynt yn cynnwys:
- Lefelau mynediad
- Diplomâu
- Graddau Sylfaen
- Graddau Baglor
- Graddau Meistr
- Doethuriaethau
A fyddaf yn gwneud gwaith cwrs ac yn sefyll arholiadau?
Mae pob cwrs yn wahanol, felly gall rhai cyrsiau fod yn seiliedig ar aseiniadau ac efallai y bydd gan eraill arholiadau.
Ar gyfer rhai cyrsiau, yn enwedig cyrsiau gyda chymwysterau achrededig, mae'n debyg y bydd yn rhaid i chi gwblhau aseiniadau a sefyll arholiadau.
Efallai na fydd gan rai cyrsiau unrhyw aseiniadau nac arholiadau. Ni fyddai'r mathau hyn o gyrsiau fel arfer yn cynnig cymhwyster achrededig ar y diwedd.
Pa gymorth fydd ar gael i mi wrth wneud cwrs ar-lein?
Bydd unrhyw wybodaeth a deunyddiau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer eich cwrs fel arfer yn cael eu darparu gan y darparwr addysg ac fel arfer bydd modd cael mynediad iddynt ar-lein. Efallai y byddwch hefyd yn derbyn llyfrau neu adnoddau yn y post.
Bydd gennych diwtor ymroddedig i'ch cefnogi gyda'ch gwaith. Efallai y byddwch yn cyfarfod bob hyn a hyn â'ch tiwtor neu fyfyrwyr eraill. Weithiau mae gan ddarparwyr dysgu o bell fforymau a grwpiau ar-lein lle gallwch ofyn cwestiynau a chael cymorth.
A fyddaf yn gallu cael help i ariannu cwrs ar-lein?
Mae cyllid ar gyfer cyrsiau dysgu o bell ac ar-lein yn dibynnu ar eich amgylchiadau ac ar y cwrs y mae angen cyllid ar ei gyfer. Edrychwch ar y canlynol i weld a allech fod yn gymwys i gael unrhyw gymorth ariannol:
- Ewch i Cyllid Myfyrwyr Cymru i wybod mwy am gyllid ar gyfer cyrsiau coleg a phrifysgol
- Edrychwch ar cyllido eich astudiaethau i wybod mwy am gyllid penodol
- Defnyddiwch ein Canfod cymorth i wybod mwy am gyllid a chefnogaeth sydd ar gael yng Nghymru
- Cysylltwch â ni i wybod a allai fod unrhyw gyllid ar gyfer hyfforddiant y gallech fod yn gymwys ar ei gyfer
Nodyn pwysig: Os ydych chi'n ceisio cyllid ar gyfer cwrs, yna gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darganfod yr opsiynau cyllido cyn i chi gychwyn ar eich cwrs a chyn i chi dalu unrhyw arian i'r darparwr.
Sut ydw i'n gwneud cais am gwrs ar-lein?
Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i'r cwrs i chi’n teimlo sy'n addas i chi, bydd angen i chi gysylltu â darparwr y cwrs yn uniongyrchol i gael gwybod sut i wneud cais. Efallai y bydd yn rhaid i chi gofrestru gyda nhw yn gyntaf a chwblhau proses ymgeisio.
Beth yw manteision ac anfanteision dysgu ar-lein?
Gallai manteision dysgu o bell ac ar-lein gynnwys:
- Rhai cyrsiau yn rhad ac am ddim
- Rhai cyrsiau'n cael eu hariannu. Er enghraifft, efallai y bydd y llywodraeth yn ariannu rhai cyrsiau i helpu pobl i uwchsgilio. Mae Cyfrif Dysgu Personol yn un enghraifft o hyn
- Dysgu hyblyg ar eich liwt eich hun. Chi sy'n dewis pryd rydych chi eisiau astudio ac o ble
- Gall astudio weithio o amgylch eich ffordd o fyw a'ch ymrwymiadau
- Cael cymhwyster heb orfod mynd i’r ystafell ddosbarth
- Cyfathrebu ag eraill ar draws y byd sy'n gwneud yr un cwrs
Gallai anfanteision dysgu o bell ac ar-lein gynnwys:
- Ei chael hi'n anodd neilltuo amser i astudio
- Teimlo'n ynysig heb unrhyw gyswllt uniongyrchol wyneb yn wyneb gyda dysgwyr eraill na'r athro (er y byddwch yn cael cymorth tiwtor)
- Materion gyda thechnoleg gwybodaeth a all achosi rhwystredigaeth
- Pethau’n tynnu sylw o ganlyniad i astudio gartref
Dolenni defnyddiol
Nid yw'r dolenni isod yn rhestr lawn o ddarparwyr dysgu o bell ac ar-lein ond byddant yn rhoi man cychwyn i chi. (Mae rhai o'r dolenni hyn yn Saesneg yn unig)
Y Brifysgol Agored yng Nghymru
UCAS (gallwch hidlo 'Dysgu o Bell' fel opsiwn astudio)
Oxford Open Learning (cynnig TGAU a Safon Uwch fel cyrsiau o bell)
Training Link (cyrsiau AAT ac ICB ar-lein)
Ymwadiad: Trwy'r dudalen we hon gallwch gysylltu â gwefannau eraill nad ydyn nhw o dan reolaeth Gyrfa Cymru. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros natur, cynnwys ac argaeledd y cyrsiau na'r cynnwys sydd ar gael ar y gwefannau hyn. Nid yw cynnwys unrhyw ddolenni o reidrwydd yn awgrymu argymhelliad nac yn cymeradwyo'r cynnwys neu'r safbwyntiau a fynegir ynddynt.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Archwilio opsiynau ariannu ar gyfer cyrsiau yng Nghymru.
Sut i wneud cais, yn cynnwys terfynau amser, mynychu diwrnodau agored, cyllid myfyrwyr a chlirio.
Dysgwch beth i’w ddisgwyl yn y coleg neu’r 6ed, pa gymorth ariannol y gallech ei gael a mwy.
Cewch wybod rhagor am yr hyn sydd ynghlwm wrth addysg gymunedol ac addysg i oedolion, a ble i ganfod cyrsiau.