Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Defnyddio profiadau bywyd i ateb cwestiynau cyfweliad

Mae llawer o ffurflenni cais a chyfweliadau yn gofyn cwestiynau am sefyllfaoedd go iawn ac mae’r rhain yn cael eu galw’n gwestiynau cymhwysedd.

Bydd eich atebion yn profi bod gennych y sgiliau a’r profiad y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw. 

Sut i ateb cwestiynau cymhwysedd

Defnyddiwch y strwythur D.G.C i ateb cwestiynau cymhwysedd:

  • D am Digwyddiad: Beth oedd y digwyddiad? Rhowch ddisgrifiad. (Byddwch yn gryno yma)
  • G am Gweithred: Pa weithred a gymeroch chi? Rhowch eglurhad. (Defnyddiwch ‘fy’ nid ‘ein’). Hwn ddylai fod y darn hiraf
  • C am Canlyniad: Beth oedd y canlyniad llwyddiannus? Nodwch ef. (Defnyddiwch ganlyniad da fel esiampl)

Meddyliwch am enghreifftiau o’ch bywyd a gwaith:

  • Beth yw eich diwrnod gwaith arferol, wrth wirfoddoli, ar brofiad gwaith, cwrs hyfforddi neu ddiddordebau?
  • Sut ydych chi’n helpu eich cydweithwyr neu’r bobl yn eich bywyd?

Mae’r cwestiynau a’r atebion canlynol yn seiliedig ar swydd gwasanaeth cwsmeriaid i roi syniadau i chi......

Cwestiynau bywyd a gwaith (cymhwysedd) ac enghreifftiau o atebion

Disgrifiwch adeg pan fu rhaid i chi ddelio â chwsmer anodd

D. Digwyddiad – 

Roeddwn i’n gweithio yn siop Smith’s, a daeth cwsmer ataf pan roeddwn ger y til. Dywedodd wrthaf i fod wedi chwilio am blanhigyn a oedd yn y siop y diwrnod blaenorol, a’i fod wedi dod yn ôl i’w brynu ond nid oedd yn gallu dod o hyd iddo.  Roedd yn eithaf blin gan ei fod wedi chwilio trwy'r siop i gyd. 

G. Gweithred –  

Cynigiais i wirio a oedd y planhigyn mewn stoc ac egluro y gallwn wirio’r stoc ar y cyfrifiadur, yn ogystal â mynd i edrych ar y silffoedd. Gofynnais a fyddai’n hoffi aros neu fynd i edrych o gwmpas y siop tra ei fod yn aros. Penderfynodd y cwsmer aros. Edrychais  ar y cyfrifiadur ac esboniais i’r cwsmer bod y planhigyn roedd o eisiau mewn stoc, ond ei fod wedi cael ei symud. Gwiriais i ble roedd y planhigyn wedi cael ei symud a chynigiais i fynd â’r cwsmer i’r eil gywir.

C. Canlyniad  – 

Roedd y cwsmer yn hapus iawn a diolchodd i mi am gymryd yr amser i ddod o hyd i’r planhigyn roedd eisiau. Prynodd blanhigion eraill yn ogystal â’r un roeddwn i wedi ei helpu i ddod o hyd iddo. Hefyd, parhaodd y cwsmer i siopa yn y siop ar ôl yr adeg honno.

Rhowch enghraifft o adeg pan wnaethoch chi wasanaeth ardderchog i gwsmer

D. Digwyddiad – 

Roeddwn i’n gweithio mewn siop sy’n gwerthu ffonau symudol. Daeth cwsmer i mewn i’r siop oherwydd ei fod yn cael trafferth gyda’i ffôn symudol. 

G. Gweithred – 

Gofynnais i’r cwsmer esbonio’r broblem a gwrandawais yn ofalus arno wrth iddo ddweud wrthaf i beth oedd o’i le gyda’i ffôn. Gofynnais iddo a gawn i edrych ar y ffôn a rhoddodd ef i mi. Wrth i mi wirio’r ffôn, esboniais iddo beth roeddwn i’n ei wneud. Mi ddois i o hyd i’r broblem a dangosais iddo beth oedd wedi digwydd. Wrth i mi drwsio’r broblem, sylwais i ar rywbeth arall ar ei ffôn roedd yn bosibl y byddai’r cwsmer yn cael trafferthion gydag ef, felly gofynnais iddo amdano. Dywedodd y byddai’n hoffi mwy o help i ddefnyddio’r swyddogaethau ar ei ffôn, felly esboniais iddo a hefyd rhoddais i gyfeiriad gwefan ddefnyddiol er mwyn iddo gael tiwtorial ar-lein..

C. Canlyniad –

Diolchodd y cwsmer i mi am ddatrys y broblem a dangos iddo sut i ddefnyddio’r ffôn yn well. Yn ogystal, diolchodd i mi am y cymorth ychwanegol roeddwn i wedi’i roi iddo. Dywedodd y cwsmer y byddai’n argymell y siop i’w ffrindiau a’i deulu oherwydd y gwasanaeth gwych roedd e wedi’i gael.

Disgrifiwch sefyllfa lle’r oedd yn rhaid i chi weithio’n hyblyg

D. Digwyddiad – 

Ro’n i’n dod i ddiwedd fy sifft yn y gwaith yn siop Smith’s pan ofynnodd fy ngoruchwyliwr i mi weithio’n hirach. Dywedodd bod rhywun wedi ffonio i ddweud eu bod yn sâl ac roedd angen rhywun i weithio, felly gofynnodd i mi a allwn i weithio sifft hirach.

G. Gweithred  – 

Dywedais fy mod yn fodlon gweithio’n hwyrach er mwyn helpu, a gweithiais ar y sifft hwyrach. Oherwydd ei bod yn Nadolig, roedd y siop yn brysur iawn a bu i mi weithio nes bod y siop yn cau. Yn ogystal, cynigiais i weithio ar ddiwrnodau ychwanegol petai angen ar gyfer sêl Flwyddyn Newydd. 

C. Canlyniad –

Cafodd y cwsmeriaid eu gwasanaethu’n gyflymach oherwydd bod mwy o staff ar y sifft. Diolchodd fy ngoruchwyliwr i mi am weithio ar fyr rybudd.

Rhowch enghraifft o pan fu’n rhaid i chi weithio fel tîm i gyrraedd nod

D. Digwyddiad – 

Cymerais ran yn ddiweddar mewn gweithgaredd codi arian ar gyfer fy nghlwb rygbi lleol. Roeddwn i’n rhan o dîm i gynllunio a threfnu Diwrnod o Hwyl yn y clwb rygbi

G. Gweithred – 

Awgrymais syniadau ar gyfer y diwrnod o hwyl wrth i ni gynllunio’r digwyddiad. Yn ogystal, gwrandewais yn ofalus ar syniadau pobl eraill ac yn y ffordd honno, penderfynon ar ba weithgareddau y byddem ni’n eu cynnal ar y diwrnod. Yn y tîm, trafodom a phenderfynu pwy fyddai’n ymgymryd â’r tasgau gwahanol. Penderfynon ni hyn ar sail pwy oedd yn dda yn y tasgau, felly esboniais fy nghryfderau a gwrandewais i’n ofalus wrth i bobl eraill esbonio pa bethau roedden nhw’n dda yn eu gwneud ac yma mha bethau roedd ganddynt ddiddordeb.  Cafodd un o'm syniadau ei ddewis ac fe’i rhoddwyd i mi i’w gynllunio a’i gynnal fel rhan o dîm llai.  Sylweddolais fod un o’r bobl eraill hefyd â diddordeb, felly awgrymais y byddent o bosibl yn hoffi bod yn rhan o gynllunio a rhedeg stondin cacennau. Roedden nhw’n awyddus i gymryd rhan.  Yn ogystal, penderfynon ni ar derfynau amser i’w cyrraedd. Cyn i’r terfynau amser ddod i ben, sylweddolais nad oedd un o’r tîm yn mynd i gwblhau ei dasg a gofynnais i iddo a oedd angen unrhyw gymorth arno. Roedd angen help arno, felly treuliais amser yn ei helpu i ffonio busnesau lleol ar gyfer gwobrau.

C. Canlyniad – 

Aeth y Diwrnod o Hwyl yn dda iawn a bu i ni gasglu arian yn llwyddiannus ar gyfer y clwb rygbi.  Cymaint oedd llwyddiant y Diwrnod o Hwyl, penderfynwyd ar gynnal un arall y flwyddyn nesaf.

Eglurwch am weithio tuag at a llwyddo i gyrraedd terfynau amser

D. Digwyddiad – 

Roeddwn i’n gweithio’n rhan amser yng Nghanolfan Gyswllt Castleton a hefyd yn y coleg yn astudio’r Gymraeg. Rhoddodd y tiwtor Cymraeg aseiniad a dyddiad cau i ni, a dywedodd y byddai’n cyfrif tuag at y marc terfynol.  Roeddwn i newydd gytuno i weithio mwy o oriau yn y ganolfan gyswllt.

G. Gweithred – 

Oherwydd fy mod yn gwybod bod amser yn mynd i fod yn dynn gyda’r oriau ychwanegol roeddwn i’n mynd i fod yn eu gweithio yn y ganolfan gyswllt, yn gyntaf lluniais calendr o’r holl ymrwymiadau gwaith a’r holl ddosbarthiadau. Wedyn, darllenais dros yr aseiniad ac ysgrifennais restr o’r holl bethau roedd rhaid i mi eu gwneud a rhoddais dyddiad cau ar gyfer popeth ar fy rhestr.  Rhoddais hyn ar y calendr fel bod gen i gynllun clir i weithio tuag ato. Bob dydd, ticiais beth roeddwn wedi’i gyflawni, a chymhellodd hyn i mi barhau i gyflawni’r dyddiadau cau roeddwn i wedi'u gosod i mi fy hun.

C. Canlyniad – 

Cyflwynais yr aseiniad yn brydlon. Gweithiais yr holl sifftiau y gofynnwyd i mi eu gwneud ac ni chollais i ddosbarth Cymraeg. Derbyniais radd rhagoriaeth ar gyfer fy ngwaith cwrs ac es i ymlaen i gyflawni rhagoriaeth yn gyffredinol ar gyfer fy nghwrs.
 

 


Pethau i'w gwneud a pheidio ei gwneud

Dilynwch yr awgrymiadau hyn wrth ateb cwestiynau cymhwysedd:

  • Byddwch yn onest a defnyddiwch sefyllfaoedd o’ch gwaith a’ch bywyd eich hun
  • Peidiwch â chopïo gwaith pobl eraill, na chreu enghreifftiau ffug
  • Trafodwch eich cyflawniadau ymysg cydweithwyr, teulu a ffrindiau, os gallwch chi. Efallai y byddan nhw’n cofio pethau yr ydych chi wedi eu hanghofio
Os ydych chi dal yn ansicr ac os hoffech chi siarad â ni, cysylltwch â ni am ragor o help a chymorth.