Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Beth yw cyfweliad

Bydd cyflogwr yn gofyn i chi fynd am gyfweliad os yw'n meddwl efallai mai chi yw'r person iawn ar gyfer y swydd. Mae’r cyfweliad yn gyfle iddyn nhw ddysgu mwy amdanoch chi.

Beth yw cyfweliad?

Cyfweliad yw:

Eicon o ddau berson yn cwrdd

Cyfle i gyflogwr gwrdd â chi a gweld ai chi yw'r person iawn ar gyfer y swydd

2 graffeg swigan siarad efo eicon marc cwstiwn a dyfynodau

Mae'n rhoi'r cyfle i chi ddweud wrth y cyflogwr pam y byddech chi'n dda ar gyfer y swydd y mae nhw’n ei hysbysebu

Beth yw’r gwahanol fathau o gyfweliadau?

Mae cyflogwyr yn cynnal cyfweliadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallech chi  gael cyfweliad:

Eicon o berson

Yn y gweithle gydag un aelod o staff

Eicon o 3 person

Yn y gweithle ond gyda mwy nag un aelod o staff

Eicon o ffon a swigod siarad

Ar y ffôn. Bydd y cyflogwr yn eich ffonio chi am sgwrs ac yn gofyn cwestiynau i chi

Graffeg o sgrin cyfrifiadur efo eicon person ar y sgrin

Dros alwad fideo. Dyma lle rydych chi'n defnyddio cyfrifiadur, efallai gartref, ac mae'r cyflogwr yn eich ffonio chi dros alwad fideo i gynnal y cyfweliad

Beth sy’n digwydd mewn cyfweliad?

Bydd yr hyn sy'n digwydd yn dibynnu ar sut mae'r cyflogwr am gynnal y cyfweliad. Bydd y cyflogwr yn rhoi mwy o wybodaeth i chi pan gewch chi gynnig cyfweliad.

Efallai bydd eich cyfweliad yn:

  • Sgwrs anffurfiol i ddysgu mwy amdanoch chi a'ch sgiliau
  • Cyfweliad ffurfiol lle gofynnir cwestiynau i chi. Os yw'r cyflogwr yn cyfweld ag unrhyw un arall ar gyfer y swydd honno, bydd yn gofyn yr un cwestiynau iddyn nhw

Weithiau gall y cyflogwr ofyn i chi gymryd prawf neu siarad â grŵp o bobl fel rhan o'r cyfweliad. Er enghraifft, efallai y bydd yn rhaid i chi ddangos i’r cyflogwr y gallwch chi wneud rhan o’r swydd rydych chi’n gwneud cais amdani, fel:

Graffeg o llygoden cyfrifiadur

Teipio ar gyfrifiadur

Eicon o ffon a swigod siarad

Ateb y ffôn

Eicon swigen siarad

Sôn am bwnc

Beth sy'n digwydd ar ddiwedd cyfweliad?

Ar ddiwedd y cyfweliad bydd y cyflogwr yn diolch i chi am eich amser. Fe allwch chi ddiolch iddyn nhw hefyd.

Efallai y byddant yn rhoi gwybod i chi ar unwaith os oes gennych y swydd. Neu bydd y cyflogwr yn cysylltu â chi mewn ychydig ddyddiau i roi gwybod i chi os ydych wedi cael cynnig y swydd.

Cofiwch, hyd yn oed os nad ydych yn cael y swydd, bydd cael cyfweliad yn rhoi profiad i chi a fydd yn eich helpu i baratoi ar gyfer cyfweliad arall yn y dyfodol.
 


Efallai y byddech hefyd yn hoffi