Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Gweithio ar Safle Adeiladu

Gall safle adeiladu fod yn lle prysur a swnllyd iawn. Mae prosiect adeiladu yn cynnwys llawer o bobl yn gwneud gwahanol swyddi.

Os ydych yn gweithio ar safle adeiladu byddech yn gweithio yn y diwydiant Adeiladu.

Mae tua 130,000 o bobl yn gweithio yn y diwydiant adeiladu yng Nghymru"

Ffynhonnell: LightcastTM, 2023

Dyma rai o'r swyddi y gallai pobl eu gwneud ar safle adeiladu:

Dau berson yn gweithio ar do ty

Person yn gwisgo helmed a siaced gwelededd uchel yn defnyddio camera arolygu allan mewn cae.

Mae llawer o swyddi eraill ym maes Adeiladu. Dysgwch fwy am Adeiladu ac ewch i GoConstruct.

Sgiliau i weithio ar safle adeiladu

Mae angen bod yn dda am wneud y canlynol:

  • Gweithio gyda phobl eraill
  • Gweithio yn yr awyr agored
  • Dilyn cyfarwyddiadau
  • Defnyddio'ch dwylo
  • Gweithio ar eich pen eich hun
  • Gweithio mewn lle prysur ac weithiau swnllyd

Rhinweddau i weithio ar safle adeiladu

Mae angen i chi fod yn berson sydd:

  • Gyda lefel dda o ffitrwydd
  • Yn gallu gweithio i derfynau amser
  • Yn gweithio'n galed

Dod o hyd i swydd ar safle adeiladu

Ewch i:


Edrychwch ar y gwahanol swyddi sydd ar gael

Rhowch gynnig ar y Cwis Pwy Ydwi i