Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Enghraifft o CV cronolegol

Enghraifft o CV - Hannah

Crëwch eich CV gan ddefnyddio ein templed CV cronolegol. Mae'r CV hwn yn amlygu hanes a sgiliau cyflogaeth, gan ddechrau gyda'r swydd ddiweddaraf.

Gellir defnyddio'r CV hwn pan:

  • Fod gennych rywfaint o hanes gwaith
  • Rydych yn bwriadu aros yn yr un gwaith neu'r un math o waith

Hannah Jones

Hannahjones999@yahoomail.com
07777555999
Hannah Jones ar LinkedIn

Proffil Personol

Rheolwr Arlwyo llwyddiannus gyda 17 mlynedd o brofiad yn y sector gwasanaethau bwyd. Arweinydd tîm profedig gyda hanes o droi siopau arlwyo llai proffidiol yn rhai llwyddiannus. Blynyddoedd lawer o brofiad o fentora cydweithwyr iau, gan sicrhau bod cefnogaeth, cymhelliant ac arweiniad ar gael.  Unigolyn hynod drefnus a brwdfrydig, sy'n awyddus i barhau i ffynnu a datblygu o fewn busnes llwyddiannus, aml-genedlaethol.

Hanes Cyflogaeth

Rheolwr Ardal, Bakehouse Co., Gogledd Cymru, 2016 – presennol

  • Rheoli grŵp o 12 o siopau arlwyo yn rhanbarth Gogledd Cymru
  • Cynnydd cyffredinol o 15% mewn cynhyrchiant rhwng 2017-2022 mewn canghennau lleol
  • Lleihau gwastraff bwyd 10% yn gyffredinol ar draws siopau trwy gyflwyno gostyngiadau diwedd dydd ar gynhyrchion trosiant uchel
  • Gwella cyfraddau cadw staff drwy gyflwyno amrywiaeth o gymhellion a gwobrau i staff
  • Cynllunio hyrwyddiadau gwerthu ac asesu eu heffeithiolrwydd
  • Asesu perfformiad yn erbyn targedau gwerthu
  • Dyrannu a monitro cyllidebau unigol
  • Rhoi cynlluniau gwella ar waith mewn cydweithrediad â rheolwyr a staff lleol
  • Hyfforddi a mentora darpar reolwyr o fewn y Cwmni

Rheolwr Siop, Bakehouse Co., Northtown, 2013 – 2016

  • Goruchwylio tîm o staff, gan gynnwys rheoli rota shifft
  • Asesu lefelau stoc ac archebu stoc newydd
  • Rheoli cyfrif stoc ac arian parod i mewn ac allan o'r siop
  • Hyfforddi staff newydd a staff presennol ar bob agwedd o waith yn y siop, gan gynnwys hylendid bwyd a iechyd a diogelwch

Goruchwyliwr Shifft, Jimmy's Bakery, Northtown, 2012 – 2013

  • Goruchwylio a hyfforddi staff ar bob agwedd o waith, gan gynnwys iechyd a diogelwch
  • Cyfrif arian yn ôl y galw
  • Paratoi bwyd
  • Gweini cwsmeriaid
  • Glanhau ardal y gegin a blaen y siop
  • Cadw at yr holl weithdrefnau iechyd a diogelwch a hylendid

Aelod o'r Tîm, Jimmy's Bakery, Northtown, 2005 – 2012

  • Paratoi amrywiaeth o fwyd, gan gynnwys peis, cacennau a bara
  • Gweini cwsmeriaid a chymryd taliadau
  • Glanhau ardal y gegin a blaen y siop
  • Cadw at yr holl weithdrefnau iechyd a diogelwch a hylendid

Addysg/Cymwysterau

Distance Training UK, 2020 - 2021

  • NVQ lefel 5 Arwain a Rheoli, rhagoriaeth, CMI, a gyflawnwyd yn 2021

Northtown High School, 2000 – 2007

  • Safon Uwch: Saesneg A, Gwleidyddiaeth B, Hanes C, a gyflawnwyd yn 2007
  • Naw TGAU gradd C ac uwch gan gynnwys Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth, a gyflawnwyd yn 2005

Gwobrau

  • Gwobr Rheolwr y flwyddyn yn Bakehouse Co. cyflawnwyd yn 2021

Hobïau/Diddordebau

  • Aelod o Ford Gron Bigtown

Geirdaon ar gael ar gais.


Dogfennau

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Lawrlwytho ein canllaw ysgrifennu CV Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..
Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Templed CV Cronolegol Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..

Gweld mwy

Enghraifft o CV ymadawyr ysgol

Mae'r CV hwn yn tynnu sylw at sgiliau, cryfderau a rhinweddau personol. Gwnewch CV gan ddefnyddio ein templed CV ymadawyr ysgol.

Enghraifft o CV seiliedig ar sgiliau

Mae'r CV hwn yn ddefnyddiol wrth bwysleisio sgiliau a chyflawniadau sy'n berthnasol i'r swydd. Gwnewch CV gan ddefnyddio ein templed CV sy’n seiliedig ar sgiliau.

Enghraifft o CV academaidd

Rydych chi’n defnyddio'r fformat CV hwn wrth wneud cais am swyddi academaidd ym maes addysg uwch neu debyg. Gwnewch CV gan ddefnyddio ein templed CV academaidd.

Enghraifft o CV addysgu

Rydych chi’n defnyddio'r CV hwn wrth wneud cais am swyddi addysgu. Gwnewch CV gan ddefnyddio ein templed CV addysgu.

Enghraifft o CV cyfreithiol

Rydych yn defnyddio'r CV hwn wrth wneud cais am swyddi yn y sector cyfreithiol. Gwnewch CV gan ddefnyddio ein templed CV cyfreithiol.

Enghraifft o CV technegol

Mae'r CV hwn yn pwysleisio sgiliau technegol sy'n berthnasol i'r swydd. Gwnewch CV gan ddefnyddio ein templed CV technegol.

Enghraifft o CV newid gyrfa

Byddai'r CV hwn yn ddefnyddiol wrth wneud cais am swydd mewn gyrfa newydd. Gwnewch CV gan ddefnyddio ein templed CV newid gyrfa.

Creu CV

Dysgwch sut i greu eich CV, dysgwch beth i'w gynnwys yn eich CV, edrychwch ar ein templedi CV am ddim, a lawrlwythwch ein Canllaw i ysgrifennu CV.