Os bydd eich plentyn yn penderfynu gadael yr ysgol neu'r coleg efallai y bydd angen help arnynt gyda'r cyfleoedd a'r heriau y mae'n eu hwynebu. Mae gennym wybodaeth a chefnogaeth i chi ac iddyn nhw.
Dewisiadau a phenderfyniadau
Efallai bod eich plentyn yn meddwl am:
- Ddod o hyd i swydd
- Hyfforddiant a chefnogaeth alwedigaethol, gan gynnwys profiad gwaith cyflogedig, drwy Twf Swyddi Cymru+
- Prentisiaeth
- Hunangyflogaeth
- Gwirfoddoli
Cewch fwy o wybodaeth am bob un o'r rhain ar lwybrau gyrfa.
Ffyrdd rydym ni’n cefnogi eich plentyn
Gallwn gefnogi eich plentyn i wneud penderfyniadau gwybodus ac effeithiol. Gallwn eu helpu i ddod o hyd i ddysgu, hyfforddiant neu gyflogaeth briodol.
Mae ein cymorth yn cynnwys amrywiaeth o opsiynau cymorth cyflogadwyedd, gan gynnwys:
- Derbyn bwletinau swyddi
- Cael eich paru â chyfleoedd priodol
- Cael cefnogaeth i ddod o hyd swyddi a gwneud cais am swyddi
- Cael eich rhoi mewn cysylltiad ag eraill a all helpu
Mae cymorth i bobl ifanc 16 oed a throsodd sy’n penderfynu cael swydd neu ddechrau hyfforddiant ar gael drwy ein gwasanaeth Cymru’n Gweithio.
Gall ein hyfforddwyr cyflogadwyedd a’n cynghorwyr gyrfa helpu eich plentyn i:
- Chwilio a cheisio am swyddi
- Ysgrifennu CV
- Paratoi ar gyfer cyfweliadau
- Gwneud cais am hyfforddiant galwedigaethol gydag amrywiaeth o gontractwyr Twf Swyddi Cymru+ sy’n addas i'ch lleoliad a'ch cynlluniau gyrfa
- Cysylltu ag asiantaethau a all eu helpu nhw i ddechrau eu busnesau eu hunain
Gallwch ddod gyda'ch plentyn i gyfarfod gyda chynghorydd gyrfa. Mae gennym awgrymiadau i help’ch plentyn i baratoi a chael y gorau o'r cyfarfod hwn.
Rydym yn cynnig cefnogaeth wyneb yn wyneb mewn canolfannau gyrfa, llyfrgelloedd, ysgolion, colegau a lleoliadau cymunedol.
Gallwn hefyd weithio gyda chi a'ch plentyn drwy sgwrs ar-lein, galwad fideo neu dros y ffôn.
Amser i Siarad
Archwiliwch syniadau eich plentyn nawr eu bod nhw wedi gadael yr ysgol neu'r coleg. Anogwch nhw i feddwl am y sgiliau a'r profiad sydd ganddyn nhw a sut mae nhw'n cyd-fynd â'r opsiwn mae nhw'n ei ystyried.
Mae yna wahanol bosibiliadau y gallant eu hystyried ar gyfer eu cam nesaf. Sgwrsiwch am yr holl ddewisiadau eraill a beth sy'n iawn iddyn nhw.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Archwilio opsiynau ariannu ar gyfer cyrsiau yng Nghymru.
Gwybod ble i chwilio am brentisiaethau, a sut i wneud y gorau o’ch cais.
Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi profiad. Cewch wybod sut mae ei gael, gan gynnwys drwy brofiad gwaith, gwirfoddoli ac interniaeth.
Canfod cyflogwyr sy’n recriwtio nawr. Dechreuwch ymchwilio am swydd yma.
Defnyddiwch ein rhestr o wefannau swyddi poblogaidd i'ch helpu i chwilio am swydd.