Math o brofiad gwaith i fyfyrwyr prifysgol neu raddedigion yw interniaethau.
Os ydych yn astudio ar gyfer gradd, neu wedi graddio’n ddiweddar, mae interniaeth yn ffordd wych o ennill profiad sy’n berthnasol i’ch gradd.
Cafodd tua 50% o gyn interniaid a myfyrwyr lleoliad eu recriwtio i swyddi i raddedigion yn yr un sefydliad yn 2022."
(Institute of Student Employers, Tachwedd 2022)
Pa mor hir mae interniaethau yn para?
Gall interniaethau bara rhwng wythnos a 12 mis, yn dibynnu ar y diwydiant a’r cyflogwr.
Fel rhywun sydd wedi graddio, efallai y bydd gennych fwy o hyblygrwydd i dderbyn interniaeth am gyfnod hirach na phe baech yn dal i astudio.
A fydda i’n cael cyflog yn ystod interniaeth?
Yn ôl Llywodraeth y DU, os ydych yn cael eich ystyried fel gweithiwr, dylech fod yn cael eich talu o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Edrychwch ar hawliau cyflog interniaethau ar gov.uk. (dolen Saesneg yn unig)
Nid oes gennych hawl i dderbyn tâl os:
- Yw’r lleoliad yn rhan o'ch cwrs prifysgol
- Rydych chi ond yn cysgodi rhywun ac nid ydych chi'n gwneud gwaith eich hun
- Yw eich interniaeth yn cael ei hystyried yn rôl wirfoddol
Pa ddiwydiannau sy’n cynnig interniaethau?
Mae unrhyw ddiwydiant yn gallu cynnig interniaeth, ond dyma rai o’r prif ddiwydiannau sy’n recriwtio interniaid:
- Gwasanaethau bancio ac ariannol
- Cyfrifiaeth a gwasanaethau proffesiynol
- Y gyfraith
- Peirianneg a gweithgynhyrchu
- Manwerthu
- Y sector cyhoeddus
- Adeiladu
Lle gallaf i ddod o hyd i interniaeth?
Gallwch chi ddod o hyd i interniaethau ar wefannau arbennigol, drwy ddefnyddio peiriant chwilio, ar wefannau swyddi neu’r cyfryngau cymdeithasol, neu ewch i wefannau cwmnïau mwy o faint. Efallai bydd gofynion y cais yn amrywio yn dibynnu ar y cyfle a’r cwmni.
Mae llawer o'r dolenni ar y dudalen yma yn Saesneg yn unig.
Cyfleoedd interniaeth
Leonard Cheshire (Cyfleoedd i fyfyrwyr prifysgol a graddedigion diweddar sydd ag anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor)
10000 Interns Foundation (Cyfleoedd i’r rheini sydd â thalent wedi ei than-gynrychioli)
Beyond Academy (Interniaethau dramor a chyfleoedd yn y DU)
CRCC Asia (Interniaethau yn Asia)
Gradcracker (Interniaethau STEM - gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg)
Interniaethau mewn cwmnïau penodol
Mae rhai cwmnïau wedi sefydlu rhaglenni interniaeth. Cymerwch olwg ar wefannau cwmnïau sydd gennych ddiddordeb ynddyn nhw am interniaethau. Isod, mae enghreifftiau o’r mathau o gwmnïau sy’n cynnig interniaethau.
World Health Organisation (WHO)
International Monetary Fund (IMF)
Civil Service (Fast Stream)
World Intellectual Property Organisation (WIPO)
Interniaethau rhithwir
Bright Network (Rhaglen interniaeth rithwir am bedwar diwrnod)
Rhagor o wybodaeth am interniaethau
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Gweld sut y gall gwirfoddoli gynyddu eich sgiliau, profiad a chyfleoedd gwaith tra rydych chi’n helpu eraill.
Profiad gwaith yw ennill profiad o fywyd gwaith. Cewch wybod sut mae cael y profiad gwaith sydd ei angen arnoch i gael y swydd rydych am ei chael.
Dysgwch am brentisiaethau gradd yng Nghymru ac archwiliwch y cyfleoedd sydd ar gael.
Cymorth a chyngor ar wneud cais
Dysgwch sut i greu eich CV, dysgwch beth i'w gynnwys yn eich CV, edrychwch ar ein templedi CV am ddim, a lawrlwythwch ein Canllaw i ysgrifennu CV.
Gwnewch argraff gyntaf dda yn eich e-bost neu lythyr eglurhaol gyda'n cymorth ni.
Darganfyddwch sut i wneud cyfweliad da gan ddefnyddio techneg STAR a chael cyngor cyfweliad ac awgrymiadau paratoi.
Awgrymiadau i gwblhau datganiad personol ar eich cais am swydd. Darllenwch enghraifft o ddatganiad personol i gael syniadau.
Archwilio'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw. Dod o hyd i ffyrdd o adnabod a datblygu eich sgiliau a'ch cryfderau.