Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Opsiynau ar gyfer newid gyrfa

Ydych chi'n ystyried newid gyrfa? Bydd pobl yn newid swydd ar wahanol adegau o’u gyrfa am wahanol resymau.

Gallai fod i:

  • Ennill mwy o arian
  • Gael telerau ac amodau gwell
  • Gael cydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith
  • Roi cynnig ar bethau newydd, neu
  • Am resymau sy’n eu gorfodi i wneud hynny megis problemau iechyd

Beth bynnag fo’ch rhesymau, ceisiwch fod yn bositif a chymryd y camau nesaf i ddechrau o’r newydd.


8 cam tuag at newid eich gyrfa

1. Adnabod eich sgiliau trosglwyddadwy

Sgiliau trosglwyddadwy yw’r sgiliau sydd gennych y gellir eu defnyddio mewn mathau eraill o swyddi, sef sgiliau y gallwch eu trosglwyddo i swydd arall.

Defnyddiwch y rhestr hon i adnabod eich sgiliau trosglwyddadwy:

a) Meddyliwch am ddiwrnod neu wythnos arferol yn y gwaith. Rhestrwch yr holl dasgau rydych yn eu gwneud bob dydd, y rhai mawr a bach. Gwnewch hyn ar gyfer eich swydd bresennol, swyddi blaenorol ac unrhyw waith gwirfoddol neu gyfrifoldebau y tu allan i’r gwaith hefyd.

b) Edrychwch ar eich swydd-ddisgrifiadau blaenorol a phresennol a gwnewch restr o’r holl dasgau a wnaethoch yn y swyddi hynny

c) Dylech adolygu eich tystysgrifau a’ch cymwysterau a rhestru’r pethau y gwnaethoch eu dysgu ohonynt, a’r sgiliau a gawsoch yn sgil gwneud yr hyfforddiant. Cofiwch, yn ogystal â dysgu sgil benodol, rydych wedi gwella eich sgiliau TG, ymchwil neu sgiliau eraill drwy wneud yr aseiniadau

d) Dylech ganfod a rhestru eich cryfderau - pethau megis cyfathrebu, sgiliau trefnu a gwaith tîm. Os nad ydych yn siŵr gofynnwch i bobl rydych yn ymddiried ynddynt i roi gwybod i chi beth rydych yn ei wneud yn dda yn eu barn hwy, neu ddarllen geirdaon a gawsoch yn y gorffennol.

Nawr mae gennych restr o sgiliau trosglwyddadwy y gallwch eu defnyddio i:

  • Baru eich sgiliau â gwahanol swyddi
  • Helpu i ysgrifennu eich CV neu wneud cais am wahanol swydd
  • Canfod unrhyw fylchau mewn sgiliau (efallai y bydd angen mwy o brofiad neu hyfforddiant arnoch)

2. Asesu’r risgiau a’r manteision cyn i chi wneud eich penderfyniad

Mae newid gyrfa yn gam mawr felly mae’n bwysig gwybod beth yw’r risgiau a’r manteision cyn i chi newid.

Ymysg y manteision posibl ceir:

  • Mwy o foddhad swydd
  • Cydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith
  • Posibilrwydd o gael dyrchafiad
  • Cyflog uwch
  • Oriau gwaith gwahanol (mwy neu lai o oriau)
  • Gwell sicrwydd/sefydlogrwydd swydd

Ymysg y risgiau posibl mae:

  • Cost ariannol ailhyfforddi, a/neu dderbyn cyflog is, neu swydd gyda llai o oriau
  • Argaeledd yn y math o swydd rydych yn chwilio amdani
  • Llai o ddiogelwch/sefydlogrwydd swydd
  • Llai o gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
  • Teithio ymhellach i’r gwaith

Dylech bwyso a mesur y risgiau a’r manteision yn ofalus.

Gweld ein taflenni Gwybodaeth am Swyddi i wybod mwy am gyflogau, oriau a'r hyfforddiant sydd ei angen cyn i chi wneud penderfyniad.


3.Canfod pa hyfforddiant a chymwysterau sydd eu hangen arnoch

Os oes gennych yrfa mewn golwg, defnyddiwch ein taflenni Gwybodaeth am Swyddi i ganfod pa gymwysterau neu hyfforddiant sydd eu hangen arnoch.

Chwiliwch am gyrsiau gwahanol yng Nghymru - Chwilio am Gwrs.

Dylech ystyried prentisiaethau, gan y gallai prentisiaethau fod ar gael ar gyfer y swydd rydych yn chwilio amdani. Gwybod mwy am Brentisiaethau.


4. Cael syniadau i newid gyrfa sy’n cyd-fynd â’ch sgiliau a’ch diddordebau

Rydych am ddod o hyd i swydd y byddwch yn ei fwynhau. Gall dod o hyd i swydd sy'n defnyddio eich sgiliau a'ch diddordebau olygu eich bod yn dod o hyd i swydd sy'n eich gweddu'n berffaith.

Rhowch gynnig ar ein Cwis Paru Gyrfa er mwyn paru eich atebion â swyddi addas.


5. Gwybod sut a ble i chwilio am swyddi a chyfleoedd

Mae'n bwysig cadw eich holl opsiynau ar agor i roi'r cyfle gorau i chi'ch hun i ddod o hyd i lawer o gyfleoedd gwaith.

Edrychwch ar Cael swydd i gael gwybodaeth am wefannau swyddi, dod o hyd i swyddi ar-lein, gwaith asiantaeth recriwtio a llawer mwy.

Dechrau feddwl am sut mae'r farchnad lafur yn effeithio ar swyddi a pha swyddi bydd mewn galw. Edrych ar Dyfodol gwaith yng Nghymru am fwy o wybodaeth.


6. Ysgrifennu neu ddiweddaru eich CV

Mae sicrhau bod eich CV yn gyfoes ac yn cynnwys gwybodaeth am eich cyflogaeth, sgiliau a phrofiadau diweddaraf yn allweddol. Mae'n golygu, Mae os ydych yn gweld swydd rydych eisiau, y byddwch yn barod i wneud cais amdani.

Edrychwch ar Creu CV am wybodaeth ar beth i'w gynnwys mewn CV ac i weld esiamplau.


7. Ymarfer eich sgiliau cyfweld

Ymarfer er mwyn perffeithio'r dechneg. Mae'n bwysig i baratoi o flaen cyfweliad er mwyn gwella eich siawns o gael y swydd.

Edrychwch ar ein cyngor Technegau cyfweld.


8. Cysylltu â ni am gefnogaeth

Gall ein cynghorwyr gyrfa hyfforddedig a'n staff eich cefnogi trwy'r broses o newid gyrfa. Gallwn eich helpu i nodi'ch sgiliau, dod o hyd i hyfforddiant a chyllid, a thrafod a chadarnhau eich syniadau gyrfa. Gallwn hefyd eich helpu i ysgrifennu CV neu i wella eich technegau cyfweld.

Cysylltwch â ni dros y ffôn, e-bost, sgwrs ar-lein neu gofynnwch am alwad yn ôl os yw'n well gennych. Rydym hefyd yn gweithio mewn canolfannau o amgylch Cymru felly defnyddiwch ein map rhyngweithiol i ddod o hyd i leoliad yn agos atoch chi i gael trafod wyneb yn wyneb.


Efallai y byddech hefyd yn hoffi