Gall newid gyrfa deimlo fel cam mawr, ond mae llawer o bobl yn llwyddo i symud i rolau newydd bob blwyddyn.
P'un ai ydych chi'n chwilio am yrfa hollol newydd, yn dychwelyd i'r gwaith, neu'n ansicr o'ch camau nesaf, mae yna lawer o opsiynau a chefnogaeth ar gael. Gall ein cynghorwyr gyrfa a'n hanogyddion cyflogadwyedd eich cefnogi trwy'r broses o newid gyrfa. Gallwn eich helpu i:
- Archwilio syniadau gyrfa newydd
- Dod o hyd i hyfforddiant a chyllid
- Adnabod eich sgiliau a'ch cryfderau
Rhesymau pam mae pobl eisiau newid gyrfa
Dyma rai enghreifftiau yn unig o pam mae pobl eisiau newid eu gyrfa.
Rwyf eisiau newid gyrfa
Efallai y byddwch yn gallu defnyddio'ch sgiliau presennol mewn swydd newydd neu hyfforddi ac ennill cymwysterau newydd ar gyfer gyrfa hollol wahanol. Dechreuwch drwy:
- Ddeall eich sgiliau a'ch cryfderau presennol â’u cyfateb i'r sgiliau y mae cyflogwr yn chwilio amdanyn nhw. Edrych ar Sgiliau a chryfderau
- Defnyddio Gwybodaeth am Swyddi i ddarganfod unrhyw hyfforddiant a chymhwyster y gallai fod eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa newydd
- Cymryd y Cwis Paru Gyrfa a'r Cwis Buzz i baru eich sgiliau a'ch diddordebau i swyddi addas
- Edrych ar Gyfrifon Dysgu Personol i weld a allwch gael cefnogaeth i ennill sgiliau newydd, hyfforddi ar gyfer sectorau blaenoriaeth a chael mynediad at fwy o gyfleoedd swyddi
- Chwilio am gyrsiau sydd ar gael yng Nghymru ar Chwilio am Gwrs
- Gweld pa swyddi sydd ar gael nawr. Defnyddiwch Chwilio am Swydd
Rwyf wedi colli fy swydd
Os ydych wedi colli eich swydd, gall ailhyfforddi eich helpu i feithrin sgiliau newydd, archwilio gwahanol opsiynau a symud i waith sy'n addas i chi.
Edrychwch ar Opsiynau ar ôl colli swydd am wybodaeth a chefnogaeth i wneud cais am gyllid ReAct+.
Mae rhaid i mi newid gyrfa oherwydd rhesymau iechyd
Os yw'ch iechyd yn golygu nad yw'ch swydd bresennol bellach yn addas i chi, efallai y bydd rolau, patrymau gweithio neu opsiynau hyfforddi eraill sy'n gweddu'n well i'ch anghenion.
Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gofal cyfreithiol i ddiogelu iechyd, diogelwch a lles gweithwyr. Rhaid iddyn nhw wneud addasiadau rhesymol i ganiatáu i weithwyr barhau i weithio iddyn nhw. Weithiau, nid yw hyn bob amser yn bosibl ond mae'n bwysig gwybod beth yw’ch eich hawliau a'ch opsiynau. Dylech:
- Siarad â Cyngor ar Bopeth i gael rhagor o wybodaeth a chefnogaeth
- Edrych ar Addasiadau rhesymol i weithwyr ag anableddau neu gyflyrau iechyd ar GOV.UK
Cysylltu â ni am help gyda chwilio am waith, hyfforddiant a chefnogaeth.
Rwyf eisiau ennill mwy o arian
Os ydych chi eisiau ennill mwy o arian, gallai newid gyrfa eich helpu i ddod o hyd i rolau gyda chyflog gwell, mwy o gynnydd neu gyfleoedd hyfforddi newydd. Gallech chi:
- Edrych ar Gyfrifon Dysgu Personol i weld a allwch gael cefnogaeth i ennill sgiliau newydd, hyfforddi ar gyfer sectorau blaenoriaeth a chael mwy o gyfleoedd gwaith
- Deall y galw am swyddi yng Nghymru drwy edrych ar Swyddi Dyfodol Cymru i archwilio rhanbarthau a diwydiannau a dysgu pa swyddi y gallech eu gwneud nawr ac yn y dyfodol
- Ennill cymwysterau newydd fel y gallwch wneud cais am fwy o swyddi, gan gynnwys rolau gyda chyflog uwch. Edrychwch ar Chwilio am gwrs a Canfod Cymorth
- Ystyried swyddi sydd ar gael yn ôl y cyflog yr hoffech ei ennill. Edrych ar Chwilio am Swydd a Gwefannau Swyddi a Prentisiaethau a all arwain at swyddi sy'n talu'n dda
Rydyn ni yma i helpu
Rwyf angen help i ddod o hyd i swydd
Gall gwybod ble i edrych eich helpu i ddod o hyd i swyddi sy'n cyfateb â'ch sgiliau, eich diddordebau a'ch nodau. Mae yna wahanol ffyrdd o chwilio am waith ac mae cefnogaeth ar gael os oes angen help arnoch. Dylech:
- Edrych ar Cael swydd i ddod o hyd i wybodaeth ar wefannau swyddi, dod o hyd i swyddi ar-lein, gwaith asiantaeth recriwtio a llawer mwy
- Chwilio am 'Swyddi yng Nghymru' gan ar ein tudalen Chwilio am Swydd
Meddyliwch am sut mae'r farchnad lafur yn newid ac ystyriwch swyddi y mae galw amdanyn nhw. Edrychwch ar Dyfodol Gwaith yng Nghymru i gael rhagor o wybodaeth.
Rwyf angen help gyda fy CV a thechnegau cyfweld
Mae cadw'ch CV yn gyfredol yn golygu y byddwch chi'n barod i wneud cais pan fyddwch chi'n dod o hyd i swydd rydych chi ei eisiau. Cofiwch gynnwys eich swydd, eich sgiliau a’ch profiad diweddaraf. Cymerwch olwg ar Creu CV i gael cyngor ar beth i'w gynnwys ac enghreifftiau i'ch helpu i ddechrau arni.
Gall paratoi ar gyfer cyfweliadau eich helpu i deimlo'n fwy hyderus a rhoi'r cyfle gorau i chi gael y swydd. Edrychwch ar ein cyngor ar Dechnegau cyfweld.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Awgrymiadau ar sut i lunio cais er mwyn cael cyfweliad.
Gwnewch argraff gyntaf dda yn eich e-bost neu lythyr eglurhaol gyda'n cymorth ni.
Darganfyddwch sut i wneud cyfweliad da gan ddefnyddio techneg STAR a chael cyngor cyfweliad ac awgrymiadau paratoi.