Mae llawer o ffyrdd o chwilio am swydd. Beth am edrych ar rai o'r ffyrdd y gallwch chi ddechrau chwilio.
Gwefannau swyddi
Mae Gyrfa Cymru wedi rhoi rhestr o wefannau i chi ddechrau chwilio am swyddi. Edrychwch ar Gwefannau Swyddi.
Defnyddiwch Chwilio am Swydd i weld y swyddi sy'n fyw nawr yng Nghymru.
Edrychwch ar wefannau eraill

Bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr mawr yn dal i ddefnyddio eu gwefannau eu hunain i adael i bobl wybod am swyddi. Os ydych chi’n gwybod ble yr hoffech weithio, edrychwch ar wefan y cyflogwr. Edrychwch ar Cyflogwyr yn recriwtio nawr am restr o gyflogwyr sy'n hysbysebu swyddi.
Asiantaethau Recriwtio

Mae asiantaethau recriwtio yn gallu helpu pobl i ddod o hyd i swyddi. Gallech chi ymuno ag asiantaeth recriwtio. Byddan nhw’n dod i wybod amdanoch chi ac yn gweld pa swyddi sy’n addas i’ch sgiliau.
Edrychwch ar agency central i gael rhestr o asiantaethau recriwtio yng Nghymru. Gall eich Cynghorydd Gyrfa eich helpu hefyd i ddod o hyd i asiantaethau recriwtio.
Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol

Mae gan lawer o gyflogwyr dudalennau Facebook a Twitter eu hunain, ac maent yn eu defnyddio i ddweud wrth pobl pa swyddi sydd ganddynt. Edrychwch ar Defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i chwilio am swyddi.
Pethau i feddwl amdanynt pan rydych yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol:
- Edrychwch ar eich gosodiadau preifatrwydd. Ydych chi am i bawb weld eich proffil?
- Edrychwch dros eich hanes ffrydio, negeseuon, trydariadau a lluniau. A fyddech chi’n hapus i gyflogwr eu gweld?
- Gofynnwch i’ch rhieni neu athrawon edrych ar eich cyfrif os nad ydych yn siwr a yw’n iawn
Esiamplau o'r cyfryngau cymdeithasol - Facebook ac X
When using Facebook:
- Gallwch hoffi tudalen Facebook cyflogwr. Bydd hyn yn gadael i chi wybod a oes ganddynt swydd
- Gallwch ddefnyddio Facebook i ddweud wrth bobl eich bod yn chwilio am waith
- Cofiwch, os ydych yn defnyddio Facebook, efallai y bydd cyflogwyr yn edrych ar eich proffil Facebook
Pan yn defnyddio X:
- Gallwch ddilyn cyfrif X sydd gan gyflogwr. Bydd hyn yn ymddangos ar eich ffrwd a byddwch yn gweld os ydynt yn hysbysebu swyddi
- Gallwch chwilio drwy X hefyd gan ddefnyddio geiriau allweddol fel ‘swyddi’ neu 'jobs' i gael gwybod a oes swyddi
- Cofiwch, os ydych yn defnyddio X, efallai y bydd cyflogwyr yn edrych ar eich ffrwd X
Ffyrdd eraill o ddod o hyd i swydd

Edrych yn y papurau newydd lleol

Ewch i'r Ganolfan Byd Gwaith

Edrych mewn ffenestri siopau

Gofynnwch i bobl rydych chi'n eu hadnabod

Cysylltwch hefo cyflogwyr dros y ffôn neu mynd i'w gweld
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Dewch i wybod sut i wneud cais am swyddi a'r wybodaeth sydd angen i'w gynnwys mewn ffurflen gais.

Dewch i wybod beth mae prentisiaeth yn ei olygu a sut y gallwch ddod o hyd i brentisiaeth.