Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Gofyn i'ch cysylltiadau

I fod yn llwyddiannus a chael hyd i waith, mae angen gwneud mwy na chwilio ar-lein. Mae cael cysylltiadau yn golygu eich bod yn rhoi mwy o gyfleoedd i chi eich hun i ddod o hyd i waith. Darganfyddwch sut i ddefnyddio'ch cysylltiadau i gael y swydd.


Beth yw'r 'farchnad swyddi gudd'?

Nid yw rhai swyddi'n cael eu hysbysebu ond yn hytrach yn cael eu llenwi gan bobl y mae'r cyflogwr yn gwybod amdanynt. Felly, yn ogystal a chwilio am swyddi ar-lein neu mewn papur newydd, bydd angen i chi chwilio am swyddi gwag mewn ffyrdd gwahanol.


Mae cwmnïau yn recriwtio fel hyn oherwydd:

  • Mae'n rhatach - does dim rhaid talu i hysbysebu'r swydd ar hysbysfyrddau swyddi
  • Mae'n haws – does dim rhaid iddyn nhw dreulio llawer o amser yn pori drwy lwyth o CVs
  • Mae'n effeithiol – maen nhw'n adnabod ac yn ymddiried yn y person felly mae'n llai o risg iddyn nhw

Felly, holwch eich cysylltiadau i weld a ydyn nhw wedi clywed am unrhyw swyddi. Term arall am hyn yw rhwydweithio.

Meddyliwch am eich rhwydwaith fel y bobl yr ydych yn eu hadnabod, y bobl ar eich rhestr cysylltiadau. Mae'r rhain yn cynnwys ffrindiau, teulu, athrawon a thiwtoriaid, cyflogwyr a chydweithwyr, ac efallai cynghorydd gyrfa. Maen nhw i gyd yn adnabod pobl hefyd sydd efallai yn chwilio am gyflogai newydd.

Sut ydw i'n gwneud cyswllt newydd?

Gallwch chi rwydweithio ar-lein neu all-lein. Mae gwneud y mwyaf o’ch rhwydweithiau cymdeithasol ar-lein yr un mor bwysig. Darllenwch ein canllaw ar sut i reoli eich defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i chwilio am swyddi.

Dyma rai awgrymiadau rhwydweithio i'ch rhoi ar y trywydd iawn:

  • Lluniwch restr o'ch cysylltiadau - meddyliwch am yr holl bobl yr ydych yn eu hadnabod - cyn athrawon, cyflogwyr, teulu, ffrindiau ac yn y blaen a dywedwch wrthyn nhw eich bod yn chwilio am waith. Efallai y gallant eich helpu neu eu bod yn gwybod am rywun sy'n gallu eich helpu. Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod am beth rydych chi’n chwilio amdano
  • Ceisiwch gael rhywun i’ch cyflwyno – os oes rhywun yn gwybod am rywun sy'n gallu eich helpu, gofynnwch iddyn nhw eu cyflwyno i chi
  • Dod o hyd i ddigwyddiadau/digwyddiadau ar-lein – chwiliwch am ddigwyddiadau rhwydweithio, cynadleddau diwydiant, ffeiriau swyddi, sgyrsiau/gweminarau a gweithdai. Cyflwynwch eich hun i gynifer o bobl â phosib gan ofyn am gadw mewn cysylltiad. Efallai mai e-bost rhagarweiniol cwrtais yw'r cam cyntaf gorau
  • Chwilio am gysylltiadau ar y cyfryngau cymdeithasol – chwiliwch am rwydweithiau busnes ar safleoedd fel LinkedIn a Facebook ac ymuno â nhw. Darllenwch ein cyngor ar sut i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i chwilio am swyddi
  • Trefnu cyfarfod rhithiol - gallech anfon e-bost yn cyflwyno'ch hun a gwahodd eich cyswllt i sgwrs rithiol
  • Gofyn am gyfweliad gwybodaeth - Mae rhai pobl yn trefnu i gwrdd â chyswllt er mwyn cyflwyno eu hunain ac i ddarganfod mwy am gwmni neu ddiwydiant arbennig
  • Paratowch eich atebion – meddyliwch beth fyddech chi’n ei ddweud pe bai rhywun yn gofyn i chi "dwedwch wrthyf amdanoch chi eich hun”. Darllenwch fwy am hyn ar ein tudalen technegau cyfweld
  • Ceisiwch swnio'n bositif – dywedwch wrth bobl am eich sgiliau, eich cryfderau a'ch uchelgeisiau. A siaradwch gydag arddeliad
  • Byddwch yn bositif – ni fydd pob cyswllt yn arwain at swydd, y cyfan sydd ei angen yw un cyswllt llwyddiannus
  • Sicrhewch rywfaint o brofiad, os gallwch - gwirfoddolwch neu gwnewch rywfaint o brofiad gwaith. Byddwch yn gwneud cysylltiadau newydd a byddwch “yn y lle iawn ar yr adeg iawn”
  • Byddwch yn amyneddgar - mae cysylltiadau posibl yn debygol o fod yn brysur iawn

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Creu CV

Sicrhewch fod eich CV cystal ag y gall fod. Cewch wybod beth i'w gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CV, a lawrlwytho ein Canllaw i lunio CV.

Technegau cyfweld

Mynnwch help i baratoi ac ymarfer cwestiynau cyfweliad, a darganfod beth i'w ddisgwyl mewn cyfweliad.