Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Cefnogi eich plentyn adeg dechrau yn y coleg neu’r chweched dosbarth

Gall dechrau coleg neu chweched dosbarth fod yn brofiad mawr i’r plentyn a’r rhiant fel ei gilydd. Gallwch roi cefnogaeth i’ch plentyn wrth iddo ddechrau ar bennod newydd yn ei fywyd.

Edrychwch ar ein 5 cyngor doeth ar gyfer cefnogi eich plentyn i gymryd y camau nesaf.

1. Gwrando a bod yn gefnogol

Fe all dechrau yn y coleg neu’r chweched dosbarth fod yn gam mawr i’ch plentyn. Bydd yn dod wyneb yn wyneb â phrofiadau a chyfrifoldebau nad ydynt wedi dod ar eu traws o’r blaen, efallai, fel:

  • Dal bws i ardal newydd a champws newydd
  • Cymryd mwy o gyfrifoldeb dros gynllunio’u gwaith
  • Astudio pynciau nad ydynt wedi’u hastudio o’r blaen
  • Addasu i amserlen newydd
  • Cwrdd â phobl newydd o bob math ac ymdopi â nhw
  • Gadael eu grwpiau ffrindiau a gwneud ffrindiau newydd

I helpu eich plentyn i drosglwyddo, gallech:

  • Sgwrsio â’ch plentyn am unrhyw ofid neu bryder sydd ganddo ar ôl yr wythnos gyntaf.
  • Annog eich plentyn i ddefnyddio’r holl gymorth sydd ar gael iddo yn yr ysgol, y coleg ac oddi wrth Gyrfa Cymru.
  • Gwybod am unrhyw ddyddiadau cau allweddol bydd angen gweithio tuag atynt a chynnig prawfddarllen y gwaith
  • Helpu eich plentyn i gynllunio sut i gwrdd â therfynau amser gwaith. Bydd rhai cyrsiau coleg a chweched dosbarth yn rhan amser, felly gallwch gynorthwyo gyda chynllunio gwaith aseiniadau a phrosiectau o gwmpas darlithoedd / gwersi
  • Rhoi anogaeth i ddatblygu sgiliau a gwneud y fawr o bob cyfle yn y coleg neu’r chweched dosbarth, fel gwirfoddoli neu gymryd rhan mewn clwb
  • Rhoi anogaeth i beidio â rhoi’r gorau’n rhy gyflym. Bydd yn cymryd cryn amser i addasu i amgylchfyd astudio newydd. Efallai y bydd rhai’n anghyffyrddus a dihyder am sawl wythnos. Gallwch roi cysur drwy ddweud fod hyn yn normal ac i’w ddisgwyl

Serch hynny, os yw eich plentyn yn teimlo ei fod wedi gwneud y dewis anghywir, yna gallwch chi a’ch plentyn ofyn am gymorth drwy:


2. Helpu eich plentyn i ddod o hyd i leoliad profiad gwaith 

Mae cael profiad gwaith yn gallu bod yn elfen orfodol o’r cwrs yn cynnwys y Bagloriaeth Cymru. Mae hefyd yn arfer dda i fynd ar brofiad gwaith yn ystod cwrs coleg neu’r chweched dosbarth.

Mae profiad gwaith yn gallu helpu dysgwyr i gael golwg ar fyd y farchnad waith ac i ennill sgiliau a phrofiadau newydd a fydd o gymorth iddyn nhw wrth iddyn nhw chwilio am swydd neu ymgeisio am le yn y brifysgol yn y dyfodol. Mae hefyd yn ffordd ardderchog o wneud cysylltiadau newydd, a allai arwain at gael prentisiaeth neu swydd yn y dyfodol. Gallwch:

  • Ofyn i’ch plentyn holi’r Tiwtor / Athro ynghylch ble mae dysgwyr y gorffennol wedi mynd ar brofiad gwaith
  • Ddefnyddio chwilotwr ar y cyfrifiadur i ddod o hyd i gyflogwyr lleol addas yn yr ardal
  • Gofyn i'ch cysylltiadau
  • Ofyn i'ch plentyn ffonio cwmnïau, neu alw mewn i siopau, swyddfeydd, busnesau gyda’i CV a llythyr cyflwyno er mwyn holi am brofiad gwaith
     

3. Siarad am eich profiadau chi a’r gwersi a ddysgodd bywyd i chi

Fel rhieni, rydych chi’n ddylanwad allweddol. Bydd gennych yn ogystal brofiad cadarnhaol a negyddol o fyd addysg, gweithio gydag eraill a chamu y tu hwnt i’ch parth cysur, a sut mae’r ffordd orau o ymdrin â sefyllfaoedd felly. Anogwch eich plentyn i weld mai peth da yw camu allan o’r parth cysur a chael profiadau newydd. Cofiwch siarad am:

  • Gweithio neu fod mewn dosbarth gyda phobl nad ydyn nhw’n eu hadnabod neu nad ydyn nhw o reidrwydd yn eu hoffi. Mae’r sgiliau a’r nodweddion sy’n deillio o hynny, fel profiad o weithio gydag eraill, magu amynedd, gwrando ar eraill, gweithio mewn tîm, yn bethau gwerthfawr i’w rhoi ar CV neu ffurflen gais.
  • Cymryd cyfrifoldeb dros fynychu a chyrraedd gwersi / darlithoedd yn brydlon, a gorffen gwaith yn unol â therfynau amser. Cyfrifoldeb y plentyn yw gofyn am gymorth, a cheisio cymorth os yw’n cael trafferth gyda darn o waith. Dyma sgiliau allweddol y gellir eu crybwyll wrth gyflogwr
  • Pwysigrwydd ymchwilio a chynllunio ar gyfer aseiniadau, dod o hyd i brofiad gwaith ac ymgeisio am y camau nesaf 

4. Cynorthwyo eich plentyn i ddechrau cynllunio’r camau nesaf 

Bydd rhoi ffocws i’ch plentyn weithio tuag ato yn ei helpu i gadw brwdfrydedd yn y coleg neu’r chweched dosbarth. Gallai hyn fod drwy gynllunio’r dewisiadau nesaf, fel:

Anogwch eich plentyn i roi cynnig ar:

  • Cwis Buzz i’w helpu i wybod mwy am ba fath o bersonoliaeth sydd ganddo a pha swyddi allai fod yn addas
  • Cwis Paru Gyrfa i ddod o hyd i swyddi sy'n cyfateb i'w sgiliau a'u diddordebau

5. Tawelu meddwl eich plentyn (a chi eich hun)

Wrth i bandemig Covid-19 newid y modd y gall pobl ifanc fod yn cael darlithoedd / gwersi ac yn byw bywyd coleg a chweched dosbarth i’r dyfodol, mae’n bwysig cofio peidio â gadael i ofid a straen eich llethu. Cofiwch:

  • Mae’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo rhyw fath o ofid am y ‘normal newydd’ – mae hynny i’w ddisgwyl
  • Gall yr heriau a’r profiadau newydd hyn gael ochr gadarnhaol, er enghraifft wrth ddatblygu sgiliau dysgu annibynnol a bod yn wydn yn wyneb unrhyw rwystrau yn y dyfodol

Mae pobl ar gael sy’n gallu helpu. Gall eich plentyn siarad â:


Archwilio syniadau gyrfa


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Cael gwybodaeth am gymwysterau

Deallwch lefelau cymhwyster a pham maen nhw'n bwysig. Dysgwch am gymwysterau, gan gynnwys NVQ, TGAU, BTEC, Safon Uwch, graddau a HND.