Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Speakers for Schools - Gwybodaeth i gyflogwyr

Elusen yw Speakers for Schools a sefydlwyd yn 2010 gyda’r bwriad o roi mynediad i rwydweithiau o gysylltiadau cyflogwyr i bob person ifanc. Cynigir ei wasanaethau a'i gymorth yn rhad ac am ddim i ysgolion.

Mae Gyrfa Cymru wedi ffurfio partneriaeth â Speakers for Schools i gefnogi cyflogwyr yng Nghymru i gynnig cyfleoedd profiad gwaith rhithwir i bobl ifanc.

P'un a ydych yn gwmni rhanbarthol sydd am fod o fudd i'r gymuned leol neu gorfforaeth sy'n ceisio cyrraedd yn genedlaethol, gall Speakers for Schools eich cefnogi chi. Bydd cynnal cyfle profiad gwaith yn eich galluogi i roi cipolwg i bobl ifanc ar wahanol rolau yn eich sefydliad a'ch diwydiant. Mae profiad gwaith yn galluogi pobl ifanc i brofi byd gwaith yn uniongyrchol. Bydd yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu sgiliau a magu hyder.

Ewch i wefan Speakers for Schools (Saesneg yn unig) am fwy o wybodaeth ac i gofrestru.