Mae cyflogwyr fel arfer yn recriwtio ar gyfer swyddi tymhorol o fis Medi ac i mewn i Ragfyr. Dechreuwch feddwl am syniadau swyddi dros gyfnod y Nadolig.
Mae swydd dros gyfnod y Nadolig yn ffordd ddelfrydol o gael profiad gwaith hollbwysig.
Gallai swydd Nadolig arwain at waith sy’n para’n hirach neu’n barhaol mewn rhai achosion.
Mae bod yn hyblyg ac yn barod i addasu'n allweddol. Mewn rhai swyddi Nadolig, mae shifftiau'n hir ac yn brysur. Efallai eich bod yn gweithio ar ddiwrnodau fel Noswyl Nadolig, Gŵyl San Steffan, Dydd Calan ac efallai hyd yn oed diwrnod Nadolig.
Ar y dudalen hon, gallwch ddod o hyd i ddolenni i rai syniadau gwych am swyddi Nadolig ar draws ystod eang o sectorau swyddi.
Wrth chwilio gwefan cyflogwr am swyddi, ceisiwch ychwanegu’r geiriau Nadolig neu’r Nadoligaidd i beiriant chwilio’r cyflogwr.
Gwiriwch wefannau swyddi yn rheolaidd oherwydd bydd swyddi gwag newydd yn cael eu hychwanegu yn ddyddiol. Mae rhai swyddi tymhorol y Nadolig yn cael eu hysbysebu am gyfnod byr.
Dyma rai gwefannau sector penodol i ddechrau chwilio am eich swydd Nadolig tymhorol
(Mae llawer o'r dolenni ar y dudalen yma yn Saesneg yn unig.)
Swyddi arlwyo
Mae gwestai, bwytai, tafarndai, parciau a chaffis yn aml yn recriwtio staff ychwanegol yn ystod y Nadolig.
- Mae’r cwmnïau mwy yn hysbysebu swyddi gwag ar eu gwefan, ac mae llawer o gyflogwyr yn defnyddio gwefannau arlwyo a gwefannau cyffredinol fel Caterer.com
- Mae mynd i fwytai a thafarndai lleol a rhoi eich CV hefyd yn ffordd dda o ddod o hyd i waith
- Yn aml, gall cwmnïau roi hysbyseb yn y ffenestr, felly cofiwch edrych pan fyddwch yn mynd heibio
Dyma rai o'r prif fwytai/cadwyni tafarndai i gychwyn arni:
- JD Wetherspoon
- KFC
- Marston's
- McDonalds
- Mitchells and Butlers (Toby Carvery, Harvester, Miller and Carter a rhagor)
- Pizza Hut
- Stonegate Pub Company
- Whitbread (Beefeater, Brewer's Fayre, Table Table)
Dyma rai o'r mannau arlwyo eraill:
Dosbarthu
Yn aml mae angen mwy o staff ar gwmnïau dosbarthu yn y cyfnod cyn y Nadolig i ymdopi â’r galw.
- Mae dosbarthu llythyrau a pharseli o amgylch y DU a thu draw yn gofyn am gymysg o staff llawn a rhan amser yn ogystal â gweithio gwahanol sifftiau
- Mae’r cwmnïau yn aml yn hysbysebu ar wefannau eu hunain
Gwestai
Mae gwestai yn recriwtio ar safleoedd swyddi cyffredinol megis Indeed, Reed a Dod o hyd i swydd.
Dyma rai ffyrdd o gael swydd Nadolig mewn gwesty:
- Mynd mewn i westai a gofyn am swyddi gwag
- Edrych ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol gwestai gan bod llawer yn recriwtio y ffyrdd hyn
Dyma restr o rai o’r gwestai yng Nghymru fel man cychwyn:
- Celtic Manor, Casnewydd
- Celtic Royal Hotel, Caernarfon
- Hilton
- Lake Vyrnwy Hotel and Spa
- Marriott
- Metropole, Llandrindod
- Premier Inn
- St Brides Spa Hotel, Sir Penfro
- Travelodge
- Vale Resort, Bro Morgannwg
Dyma rai o safleoedd swyddi gwestai:
Dewch o hyd i westai cyfagos drwy chwilio am restr o westai. Yna gallwch gysylltu â’r gwestai neu ddod o hyd i swyddi gwag ar eu gwefannau.
Dyma enghreifftiau o’r rhestrau:
Manwerthu
Bydd rhai siopau yn prysuro yn ystod y Nadolig. Enghreifftiau o siopau a allai brysuro ac fydd angen staff dros y Nadolig yw siopau teganau, archfarchnadoedd, siopau dillad, iechyd a harddwch.
Chwiliwch am swyddi gwag ar safleoedd swyddi ar-lein, neu ewch i’ch siopau lleol i gael rhagor o wybodaeth.
Dyma enghreifftiau o siopau:
- Aldi
- ASDA
- B and M
- Boots
- Card Factory
- Clintons Cards
- Currys
- Frasers Group (Including Sports Direct, Game, House of Fraser and more)
- Great Grottos Ltd
- H Samuel, Earnest Jones and more
- Home Bargains
- Iceland
- JD Careers (JD Sports, Go Outdoors, Millets and more)
- John Lewis/Waitrose
- Lidl
- Marks and Spencer
- Morrisons
- Next
- Poundland
- Primark
- Sainsbury’s and Argos
- Smyths Toys
- Superdrug
- T K Max
- Tesco
- The Entertainer
Asiantaethau recriwtio
Mae asiantaethau recriwtio yn hysbysebu amrywiaeth eang o swyddi tymhorol gan gynnwys casglu ffrwythau, llafurio, staff bar a llawer mwy.
Cysylltwch ag asiantaethau recriwtio yn eich ardal neu defnyddiwch Agency Central i ddod o hyd i asiantaeth recriwtio gyfagos.
Chwilio am swydd yn ddiogel
Cofiwch gadw golwg am sgamiau swyddi pan fyddwch yn chwilio am swyddi ar wefannau. Mae mwy o bobl yn cael eu targedu gan sgamiau swyddi ar-lein. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i osgoi sgamiau swyddi ar y wefan JobsAware.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Awgrymiadau ar sut i lunio cais er mwyn cael cyfweliad.

Sicrhewch fod eich CV cystal ag y gall fod. Cewch wybod beth i'w gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CV, a lawrlwytho ein Canllaw i lunio CV.

Gwnewch argraff gyntaf dda yn eich e-bost neu lythyr eglurhaol gyda'n cymorth ni.

Mynnwch help i baratoi ac ymarfer cwestiynau cyfweliad, a darganfod beth i'w ddisgwyl mewn cyfweliad.

Defnyddiwch ein rhestr o wefannau swyddi poblogaidd i'ch helpu i chwilio am swydd.

Darganfyddwch 10 ffordd wych o ddod o hyd i gwmni i weithio iddo.

Cewch wybod beth mae asiantaethau recriwtio yn ei wneud, ble mae dod o hyd iddynt, a pham mae'n werth cofrestru.