Mae dechrau cwrs newydd yn gallu bod yn gyffrous, yn heriol a gall deimlo'n llethol. Efallai dy fod yn poeni am wneud ffrindiau, rheoli dy lwyth gwaith, cael cymorth neu os wyt ti wedi dewis y cwrs iawn.
Os wyt ti'n ei chael hi’n anodd setlo, yn ystyried newid cwrs, neu’n chwilio am gyngor i dy helpu i deimlo’n fwy cyfforddus, nid wyt ti ar ben dy hun. Edrycha ar y cwestiynau isod am awgrymiadau ymarferol a chymorth defnyddiol.
Cwestiynau cyffredin ar ôl dechrau yn y coleg neu'r chweched dosbarth
Sut alla i ymdopi gyda fy llwyth gwaith?
Mae’n naturiol teimlo ychydig yn llethol wrth addasu i dasgau newydd a ffyrdd newydd o astudio. Ond mae camau y galle ti eu cymryd i'th helpu i drefnu dy waith a rheoli dy amser yn effeithiol. Fe allet ti:
- Gofnodi dyddiadau cau aseiniadau mewn cynllunydd neu galendr
- Rhannu tasgau mawr yn rhai llai er mwyn eu gwneud yn haws i’w rheoli
- Dechrau gwaith cwrs yn gynnar fel nad wyt ti dan bwysau yn nes ymlaen yn y flwyddyn
- Creu trefn astudio reolaidd a neilltuo amser i adolygu dy waith
Edrycha ar Awgrymiadau defnyddiol ar gyfer gwneud y gorau o'r coleg.
Pa gymorth ariannol sydd ar gael?
Gall dechrau cwrs newydd ddod â chostau ychwanegol, fel teithio, offer, prydau bwyd neu ddeunyddiau astudio. Yn dibynnu ar dy amgylchiadau, efallai y bydd cymorth ariannol ar gael i’th helpu i barhau mewn addysg. Efallai y bydd modd i ti gael cymorth gyda:
- Costau sy’n gysylltiedig â’th gwrs, fel llyfrau neu ddeunyddiau
- Costau gofal plant os oes gennych ddibynyddion
- Costau teithio i’r coleg ac oddi yno
- Cymorth os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor
- Costau byw wrth i chi astudio
Bydd y cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar dy amgylchiadau personol. Fe allet ti:
- Siarad gydag adran Gwasanaeth Myfyrwyr dy goleg neu dy Bennaeth Chweched Dosbarth. Gallant roi’r wybodaeth sydd ei hangen am unrhyw grantiau neu gymorth sydd ar gael
- Edrych ar Cyllid myfyrwyr Cymru i ddysgu pa gymorth sydd ar gael i fyfyrwyr llawn amser a rhan amser
- Edrych ar Gov.uk am wybodaeth ar Daliad Annibyniaeth Personol (PIP) os oes gennyt gyflwr iechyd corfforol neu gyflwr iechyd meddwl hirdymor neu anabledd
- Edrych ar Cyllido eich astudiaethau i ddysgu am y gwahanol opsiynau ariannu sydd ar gael i dy gefnogi gydag addysg
Ydy fy nghwrs/pwnc yn dal yn addas nawr fy mod i wedi newid fy syniad am yrfa?
Mae syniadau gyrfa yn newid yn seiliedig ar bethau gwahanol, fel:
- Sylweddoli nad yw'r cwrs yr wyt ti arno yr hyn yr oeddet ti'n gobeithio y byddai, felly nid wyt ti am ddilyn gyrfa yn y llwybr yma mwyach
- Dy fod wedi darganfod hobi neu ddiddordeb newydd sydd wedi gwneud i ti ystyried syniadau gyrfa eraill
Cyn gwneud unrhyw benderfyniadau am eich cwrs/pwnc fe ddylech:
- Archwilio eich syniad gyrfa newydd ar Gwybodaeth Swyddi i ddarganfod y cymwysterau y bydd eu hangen. Efallai y bydd y cwrs yr wyt yn ei wneud nawr yn dal yn addas
- Siarad â'th athro neu diwtor am dy syniadau i weld os allet ti gymryd pwnc neu gwrs arall
- Os wyt ti'n bwriadu mynd i'r brifysgol, edrych ar UCAS i weld gofynion gwahanol raddau
Cofiwch. Gall Gyrfa Cymru gynnig cyngor ac arweiniad diduedd am ddim i chi. Cysylltwch â ni i ddarganfod sut i siarad â Chynghorydd Gyrfa am eich syniadau a'ch opsiynau gyrfa.
Sut mae dod i arfer ag athrawon a thiwtoriaid newydd?
Mae'n cymryd amser i addasu i diwtor neu athro newydd. Efallai bod ganddyn nhw ffordd wahanol o esbonio pethau. Dylet ti:
- Rhoi amser i dy hun i setlo a dod i arfer â’r ffordd newydd o ddysgu
- Parhau i ganolbwyntio ar y rheswm pam y gwnes di ddewis y cwrs a’r nodau rwyt ti am eu cyflawni
- Cymryd nodiadau yn ystod gwersi ac ysgrifennu unrhyw gwestiynau sydd gen ti
- Gofyn am help os oes rhywbeth nad wyt ti'n ei ddeall. Mae dy athro a'th tiwtor yno i gefnogi dy ddysgu
- Manteisia ar unrhyw sesiynau cymorth ychwanegol, gweithdai astudio neu wasanaethau cymorth sydd ar gael yn y coleg neu'r chweched dosbarth
Os wyt ti'n dal yn anhapus yna fe ddylet ti siarad â rhywun am y peth. Siarada gyda:
- Dy diwtor dosbarth neu bennaeth blwyddyn
- Gwasanaethau myfyrwyr, lles myfyrwyr neu bennaeth adran yn y coleg
- Gyrfa Cymru i siarad â Chynghorydd Gyrfa am dy opsiynau. Cysylltu â ni
- Dy ffrindiau a theulu dibynadwy
Sut alla i wneud y gorau o'm hamser yn y coleg a'r chweched dosbarth?
Mae’n wych dy fod yn mwynhau’r hyn rwyt ti’n ei astudio ac yn gallu gweld manteision gwneud mwy er mwyn gwneud y gorau dy amser. Bydd popeth ychwanegol a wnei di yn dy baratoi ar gyfer dy ddyfodol. Edrych ar 7 ffordd o wneud y gorau o'r coleg a'r chweched dosbarth.
Beth os ydw i’n cael trafferth gyda fy lles meddyliol?
Mae llawer o sefydliadau sy’n gallu cynnig cymorth lles. Cysyllta â sefydliadau fel:
- Meic – llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc
- Samariaid – yn darparu cymorth emosiynol i unrhyw un sydd mewn trallod emosiynol (dolen Saesneg)
- Mind Cymru - yr elusen iechyd meddwl
Trefna apwyntiad gyda chynghorydd gyrfa am gymorth gyda dy opsiynau.
Yn dibynnu ar y math o gefnogaeth sydd ei angen, gallet siarad â:
- Adran gwasanaeth myfyrwyr
- Cynghorydd Anabledd
Dywed wrthyn nhw:
- Pa gefnogaeth y cefais ti yn yr ysgol
- Am unrhyw anghenion dysgu ychwanegol sydd gen ti
- Am yr anawsterau rwyt ti'n eu hwynebu ar hyn o bryd
- Sut yr hoffet gael cefnogaeth yn y coleg
Byddwch yn onest. Maen nhw yno i dy helpu, ond i wneud hyn mae'n rhaid i ti fod yn onest gyda nhw ac egluro'r gefnogaeth rwyt ei angen.
Sut ydw i'n gwneud ffrindiau newydd?
Mae’n arferol teimlo’n nerfus am gwrdd â phobl newydd pan wyt ti'n dechrau yn y coleg neu'r chweched dosbarth. Cofia y bydd llawer o fyfyrwyr eraill yn teimlo’r un fath. Gall gymryd amser i feithrin cyfeillgarwch, felly paid â rhoi gormod o bwysau ar dy hun yn ystod yr wythnosau cyntaf.
Ceisia:
- Ddechrau sgyrsiau gyda phobl yn dy ddosbarthiadau, hyd yn oed os mai dim ond gofyn am aseiniad neu wers yw hynny
- Ymuno â chlybiau, timau chwaraeon neu gymdeithasau sydd o ddiddordeb i ti
- Cymryd rhan mewn digwyddiadau, teithiau neu weithgareddau cymdeithasol y coleg
- Treulio amser mewn mannau cymunedol fel y llyfrgell, yr ystafell gyffredin neu’r caffi
Mae pawb yn setlo ar eu cyflymder eu hunain. Bydd chdi dy hun, aros yn bositif, a rho amser i chdi dy hun.
Edrych ar Awgrymiadau defnyddiol ar gyfer gwneud y gorau o'r coleg.
Beth os nad ydw i’n mwynhau fy nghwrs?
Gall fod yn siomedig os nad yw dy gwrs yr hyn yr oeddet wedi’i ddisgwyl. Cyn gwneud unrhyw benderfyniadau mawr, ceisia nodi beth yn union sy’n dy wneud yn anhapus. Ai’r pwnc ei hun, y llwyth gwaith, y ffordd mae’r cwrs yn cael ei addysgu, neu rywbeth arall ydyw?
Fe ddylet ti:
- Rhoi amser i dy hun setlo. Gall gymryd ychydig wythnosau i addasu i gwrs newydd ac amgylchedd dysgu newydd
- Feddwl am yr hyn rwyt ti'n ei fwynhau a’r hyn nad wyt ti'n ei fwynhau am y cwrs
- Siarad â’r tiwtor neu athro am dy bryderon
- Ymchwilio dy syniadau gyrfa i ddeall pa gymwysterau a chyrsiau all dy helpu i gyrraedd dy nodau. Edrych ar dudalen Gwybodaeth am Swyddi
- Ystyried a oes pynciau, modiwlau neu gyrsiau eraill a allai weddu'n well i dy ddiddordebau
Edrych ar Meddwl am adael cwrs? Tri chwestiwn allweddol i'w gofyn ac Aros. Paid rhoi'r gorau iddi yn y coleg a'r chweched dosbarth.
Cofia, mae llawer o fyfyrwyr yn cael amheuon pan fyddant yn dechrau cwrs am y tro cyntaf. Gall cymryd amser i feddwl am dy bryderon a cheisio cyngor dy helpu i benderfynu ar y cam nesaf gorau i ti.
Efallai i chi hefyd hoffi
Cewch wybod pa ddewisiadau gyrfa sydd gennych ar ôl ichi adael yr ysgol neu'r coleg.
Dewisiadau cyllid ar gyfer y chweched dosbarth a'r coleg, gan gynnwys Lwfans Cynhaliaeth Addysg, Grant Dysgu Llywodraeth Cymru a'r Gronfa Ariannol wrth Gefn.
Edrychwch ar y rhesymau mwyaf cyffredin sydd gan bobl dros deimlo'n ansicr am eu cwrs, a chewch gyngor ar beth i'w wneud.
Cefnogaeth i rieni
Ein 5 cyngor doeth ar gyfer cefnogi eich plentyn yn y coleg neu'r chweched dosbarth.
Edrychwch ar ein 3 prif awgrym i gefnogi eich plentyn os ydynt yn ystyried gadael y coleg.
Cyfle i gael awgrymiadau i gefnogi'ch plentyn i wneud penderfyniadau gyrfa da.