Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Diogelu dy ddyfodol yn y coleg a'r chweched dosbarth

Person ifanc yn eistedd wrth ddesg, geiriau yn dweud diogelu dy ddyfodol, gadewch i ni droi dy uchelgais gyrfa yn realiti

Mae dechrau yn y coleg neu'r chweched dosbarth yn gyfle gwych i ddatblygu sgiliau newydd, archwilio syniadau gyrfa a pharatoi ar gyfer dy ddyfodol. Bydd ein hawgrymiadau yn dy helpu i gael y gorau o dy astudiaethau a gwneud pernderfyniadau gwybodus am dy gamau nesaf.

Os wyt ti eisiau gwneud yn dda, mae’n bwysig cyrraedd dy wersi yn brydlon, cwblhau dy aseiniadau ac yn adolygu'n rheolaidd. Ond mae pethau eraill y gelli eu gwneud hefyd i gael y gorau o dy amser yn y coleg a'r chweched dosbarth, a fydd yn dy helpu yn y dyfodol.

Awgrymiadau i geal y gorau o'r coleg a'r chweched dosbarth

Bydd yn chwilfrydig

Ceisia dreulio ychydig funudau bob wythnos yn:

  • Darllen newyddion am dy bwnc
  • Dilyn sefydliadau a chyflogwyr ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Gwrando ar bodlediadau neu wylio fideos sy'n gysylltiedig â dy gwrs
  • Trafod datblygiadau newydd gyda chyd-ddisgyblion

Bydd hyn yn dy helpu i ddysgu sut i ddod o hyd i wybodaeth yn annibynnol ac yn dangos bod gennyt ddiddordeb gwirioneddol yn yr hyn rwyt yn ei astudio.

Cadw cofnod o sgiliau newydd

Nid yn unig y byddi di'n datblygu sgiliau sydd gennyt yn barod, byddi di hefyd yn ennill rhai newydd wrth i ti fynd drwy'rcoleg neu'r chweched dosbarth.

Cadwa gofnod o:

  • Sgiliau newydd rwyt ti wedi'u dysgu
  • Prosiectau rwyt ti wedi'u cwblhau
  • Cyflawniadau a gwobrau
  • Profiad gwaith a gwirfoddoli

Mae diweddaru dy CV yn rheolaidd yn ei gwneud hi'n haws gwneud cais am swyddi, prentisiaethau a chyrsiau prifysgol.

Edrycha ar ein canllaw Creu CV a bydd yn ymwybodol o’th sgiliau a’th gryfderau.

Edrycha ar Making the most of Sixth Form and College (dolen Saesneg) ar wefan y Brifysgol Agored i glywed myfyrwyr yn trafod y sgiliau a ddatblygon nhw yn y brifysol.

Ennill profiad

Bydd dy astudiaethau (a'th fywyd cymdeithasol) yn dy gadw'n brysur, ond bydd profiad gwaith yn dy baratoi ar gyfer y dyfodol ac yn edrych yn dda ar dy CV neu dy gais prifysgol. Gelli ddod o hyd i waith rhan-amser neu ymgymryd â gwaith gwirfoddol.

Bydd gwaith yn rhoi:

  • Cyfle i ddechrau ennill cyflog ac i reoli arian
  • Sgiliau allweddol y mae cyflogwyr eu heisiau, fel sgiliau cydweithio, cadw amser, a chyfathrebu
  • Annibyniaeth
  • Hyder

Edrycha ar Cael Swydd i gael help gyda CV, ffurflenni cais, cyfweliadau a mwy.

Gall gwirfoddoli dy helpu i:

  • Ddatblygu dy sgiliau cyfathrebu
  • Gweithio mewn gwahanol amgylcheddau gyda phobl nad wyt ti yn eu hadnabod
  • Cynyddu dy hyder
  • Gwneud ffrindiau a chysylltiadau newydd a bod yn rhan o'th gymuned leol

Dysga ragor am fanteision gwirfoddoli.

Mae gweithio a gwirfoddoli ill dau yn cynnig cyfleoedd i adeiladu rhwydweithiau proffesiynol, sy'n sgil werthfawr ar gyfer y dyfodol.

Rhoi cynnig ar offer digidol

Defnyddia apiau i helpu gyda dy ddysgu:

  • Gall apiau astudio helpu i greu rhestrau tasgau, cofnodion astudio, anfon nodiadau atgoffa ar gyfer adolygu a rhoi cyfleoedd i ymarfer cwestiynau arholiad
  • Gall apiau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer myfyrwyr roi mynediad i ostyngiadau a bargeinion

Nid yn unig y mae defnyddio offer digidol yn cefnogi dy astudiaethau, gall hefyd helpu i ddatblygu dy sgiliau digidol.

Mae cymhwysedd digidol yn sgil y mae cyflogwyr yn aml yn chwilio amdani gan gynnwys:

  • Defnyddio AI yn gyfrifol
  • Offer cydweithio ar-lein
  • Creu a defnyddio portffolios digidol
  • Defnyddio Microsoft Office a Google Workspace
Cymryd rhan

Ymuna a rhoi cynnig ar bethau newydd. Dylet ti:

  • Wneud ffrindiau a rhoi cynnig ar brofiadau newydd
  • Ymuno â chlybiau, cymdeithasau neu weithgareddau
  • Datblygu sgiliau newydd ac ennill profiad
  • Cymryd rhan mewn trefnu digwyddiadau neu brosiectau

Mae'r rhain i gyd yn dangos dy ymrwymiad a dy fenter i gyflogwyr a phrifysgolion. Byddant hefyd yn dy helpu i adeiladu enghreifftiau ar gyfer dy CV a dy geisiadau.

Archwilio syniadau gyrfa

Ymchwilia dy syniadau gyrfa. Meddylia am yr hyn rwyt ti'n ei fwynhau fwyaf am dy bynciau a pha swyddi a allai fod yn addas i ti. Fe ddylet ti:
 

  • Rhoi gynnig ar y Cwis Paru Gyrfa i ddod o hyd i syniadau am swyddi sy'n gweddu â dy sgiliau a’th ddiddordebau
  • Rhoi gynnig ar y Cwis Buzz i weld pa fath o bersonoliaeth sydd gen ti a pha swyddi a allai fod yn addas
  • Chwilio am wybodaeth am gannoedd o swyddi gwahanol ar Gwybodaeth am Swyddi

Siarada am dy syniadau a dy ddewisiadau gyda Chynghorydd Gyrfa. Cysyllta â niCysyllta â ni.

Gofyn am gefnogaeth

Er y gall mynd i'r coleg neu'r chweched dosbarth fod yn gyffrous ac yn her newydd, gall hefyd achosi pryder neu orbryder i rai pobl. Cofia fod yna bobl a all dy gefnogi, felly paid ag oedi cyn gofyn am help pan fyddi di ei angen.

Gelli di gael help gan:

  • Pryderon ynghylch y cwrs - Tiwtor, Athro neu Wasanaethau Myfyrwyr
  • Iechyd meddwl - Gwasanaethau myfyrwyr neu'r tîm bugeiliol
  • Cynllunio gyrfa - Cynghorydd Gyrfa
  • Pryderon personol - Meic a'r Samaritans

Cysyllta â ni ar y ffôn, ar e-bost, neu sgwrs fyw i drafod dy syniadau a'th opsiynau gyrfa

Cysyllta â ni

Cyngor gan fyfyrwyr

Straeon go iawn

Darllenwch am bobl sydd wedi cael cyngor a chefnogaeth i ddod o hyd i'r cyfleoedd cywir iddyn nhw.

Dy opsiynau

Coleg a 6ed dosbarth

Dysgwch beth i’w ddisgwyl yn y coleg neu’r 6ed, pa gymorth ariannol y gallech ei gael a mwy.

Opsiynau yn 18

Cewch wybod pa ddewisiadau gyrfa sydd gennych ar ôl ichi adael yr ysgol neu'r coleg.

Cefnogaeth i rieni

Rhieni

Sicrhewch fod gwybodaeth, adnoddau ac awgrymiadau gyda chi i helpu'ch plentyn i wneud penderfyniadau gyrfa a dysgu mwy am y gefnogaeth a gynigir gennym wrth i'ch plentyn fynd o addysg i gyflogaeth.

Darpariaeth addysg a hyfforddiant ôl-16 Cymru

Os ydych yn 16 oed neu’n hŷn a’n awyddus i barhau â'ch addysg a'ch hyfforddiant, mae amrywiaeth o ddarpariaethau y gallech chi ddewis o’u plith, gan gynnwys colegau, ysgolion, darparwyr hyfforddiant, a phrifysgolion. 

Straeon go iawn

Stori Caitlyn

Gyda chymorth gyrfa, daeth Caitlyn o hyd i’w brwdfrydedd a chynlluniodd ei chamau nesaf i’r brifysgol.

Stori Grace

Helpodd cymorth gyrfa Grace i gymryd ei chamau cyntaf tuag at ddyfodol mewn ffiseg.

Stori Ben I

Gyda chymorth wedi’i deilwra, daeth Ben o hyd i’r cwrs coleg cywir ac mae’n teimlo’n fwy hyderus am ei ddyfodol.