Mae cymorth gan Gyrfa Cymru ar gael drwy gydol y flwyddyn. Ond, mae Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd yn gyfle i’ch helpu chi i ganolbwyntio ar gynllunio’ch gyrfa a gwireddu’ch potensial.
Er mwyn helpu i nodi Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd, rydym wedi crynhoi'r adnoddau sydd gennym i'ch helpu chi i wneud y penderfyniad nesaf o ran eich gyrfa. P'un ai ydych yn chwilio am eich swydd gyntaf, neu'n newid rolau ar ôl degawdau yn yr un maes, gallwn ni fod o gymorth i chi.
Cefnogaeth swydd
Mae eich CV yn hysbyseb o'ch sgiliau a'ch profiad chi. Dysgwch beth ddylech chi ei gynnwys ynghyd a rhai enghreifftiau defnyddiol.
Yr holl offer chwilio am swydd mewn un man. O lwyddiant yn y cyfweliad i gyngor ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i ddod o hyd i waith.
Gwybodaeth am wahanol opsiynau, o ddewisiadau ar ôl eich arholiadau TGAU i ddychwelyd i'r gwaith neu newid gyrfa.
Cyfleoedd
Cwisiau gyrfa
Swyddi yn y dyfodol a gwybodaeth swydd
Adnoddau Addysgu a Dysgu
Dysgwch am ein map a'n hanimeiddiadau i gyflwyno dysgwyr i wahanol swyddi a diwydiannau.
Dysgwch sut mae dysgwyr yn gallu datblygu sgiliau gyrfaoedd wrth iddyn nhw edrych ar dirnodau yng Nghymru yn Minecraft.
Straeon go iawn
Yn dilyn cymorth gan gynghorydd gyrfa, mae Olivia yn ffynnu mewn prentisiaeth peirianneg.
Daeth Connor o hyd i’w brentisiaeth ddelfrydol gyda chwmni lleol ar ôl mynychu digwyddiad yn ei ysgol.
Helpodd cymorth gyrfa Kim i ymgartrefu yn ei bywyd newydd yng ngorllewin Cymru. (Dolen allanol)
Ar ôl cael addysg yn anodd, cafodd Ffion lwyddiant pan wnaeth ei chynghorydd gyrfa ei helpu i ddod o hyd i leoliad gwaith.
Fe wnaeth cynghorydd gyrfaoedd Clare ei helpu i gyrchu cyllid ReAct+ i ariannu ei chwrs hyfforddi a rhoi hwb i'w busnes iechyd a lles. (Dolen allanol)
Cafodd Gabrielle ei hysbrydoli ar ôl i ddiagnosis prin atal ei chynlluniau gyrfa.
Cysylltu â Ni
Os byddai'n well gennych siarad â rhywun am eich dewisiadau gyrfa, mae sawl ffordd gwahanol o gysylltu â ni.
Ewch i'n tudalen Cysylltu â Ni i ddod o hyd i'r ffordd orau i chi. Gallwch siarad â ni dros y ffôn, gwneud apwyntiad mewn canolfan gyrfa, neu siarad â rhywun drwy sgwrs fyw.