Mae Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd yn gyfle i’ch helpu chi i ganolbwyntio ar gynllunio’ch gyrfa a chyflawni eich potensial.
Er mwyn helpu i nodi Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd, rydym wedi crynhoi ein gwybodaeth a'n hadnoddau sydd gennym i'ch helpu chi i wneud y cam nesaf o ran eich gyrfa. P'un ai ydych yn chwilio am eich swydd gyntaf, yn newid rolau ar ôl degawdau yn yr un maes, neu’n rhiant neu warcheidwad sydd eisiau cefnogi’ch plentyn, gallwn ni fod o gymorth i chi.
Cefnogaeth swydd
Mae eich CV yn hysbyseb o'ch sgiliau a'ch profiad chi. Dysgwch beth ddylech chi ei gynnwys ynghyd a rhai enghreifftiau defnyddiol.
Yr holl offer chwilio am swydd mewn un man. O lwyddiant yn y cyfweliad i gyngor ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i ddod o hyd i waith.
Gwybodaeth am wahanol opsiynau, o ddewisiadau ar ôl eich arholiadau TGAU i ddychwelyd i'r gwaith neu newid gyrfa.
Cyfleoedd
Cwisiau gyrfa
Swyddi yn y dyfodol a gwybodaeth swydd
Cysylltu â Ni
Os byddai'n well gennych siarad â rhywun am eich dewisiadau gyrfa, mae sawl ffordd gwahanol o gysylltu â ni.
Ewch i'n tudalen Cysylltu â Ni i ddod o hyd i'r ffordd orau i chi. Gallwch siarad â ni dros y ffôn, gwneud apwyntiad mewn canolfan gyrfa, neu siarad â rhywun drwy sgwrs fyw.
Adnoddau Addysgu a Dysgu
Dysgwch am ein map a'n hanimeiddiadau i gyflwyno dysgwyr i wahanol swyddi a diwydiannau.
Dysgwch sut mae dysgwyr yn gallu datblygu sgiliau gyrfaoedd wrth iddyn nhw edrych ar dirnodau yng Nghymru yn Minecraft.
Gwybodaeth i rieni
Straeon go iawn
Helpodd cymorth gyrfa Lowri i wneud dewis hyderus ynglŷn â'i chamau nesaf.
Arweiniodd hunanholi at newid gyrfa i Jei. (Dolen allanol)
Gyda chyfarwyddyd gyrfaoedd wedi’i deilwra, archwiliodd Daniel ei opsiynau, magodd hyder, a sicrhaodd y brentisiaeth ymarferol yr oedd wedi bod yn anelu ati.
Ar ôl colli ei swydd, helpodd Cymru’n Gweithio Josh i ddechrau ar lwybr gyrfa yr oedd yn angerddol amdano. (Dolen allanol)
Mae Beth wedi cymryd ei cham cyntaf tuag at ei gyrfa ddelfrydol fel cyfreithwraig.
Ar ôl cael cymorth wedi’i deilwra, daeth Anna o hyd i rôl derbynnydd rhan amser sy’n addas i’w hanghenion. (Dolen allanol)