Os byddwch chi’n paratoi cyn i chi fynd am gyfweliad bydd hyn yn eich helpu i deimlo'n fwy hyderus ar y diwrnod.
Os ydych i chi wedi cael cynnig cyfweliad, mae'n bwysig gadael i'r cyflogwr wybod eich bod chi am ddod i'r cyfweliad. Gallwch ffonio neu e-bostio'r cyflogwr i roi gwybod iddynt eich bod am ddod i'r cyfweliad.
Dyma rai ffyrdd y gallech baratoi ar gyfer cyfweliad:

Darllenwch y disgrifiad swydd i ddysgu am y sgiliau y mae'r cyflogwr yn chwilio amdanynt. Yna, meddyliwch am sut y gallwch chi ddangos bod y sgiliau hynny gyda chi. Edrych ar Sgiliau a beth maen nhw'n ei olygu

Dysgwch am y cwmni. Bydd hyn yn dangos i'r cyflogwr eich bod wedi gwneud ymdrech i ddysgu amdanyn nhw. Bydd gan y rhan fwyaf o gwmnïau adran o’r enw ‘Amdanom ni’ neu ‘Cwrdd â’r Tîm’ ar eu gwefannau. Bydd eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol hefyd yn rhoi syniad i chi o'r hyn y mae nhw’n ei wneud

Meddyliwch pam y byddech chi'n dda am wneud y swydd. Gallech chi ymarfer dweud wrth rywun pam rydych chi eisiau'r swydd a pham y byddech chi'n dda yn ei gwneud. Edrychwch ar rai enghreifftiau o gwestiynau cyfweliad

Cynlluniwch ar gyfer y diwrnod. Meddyliwch am:
- Sut fyddwch chi’n cyrraedd
- Beth fyddwch chi’n gwisgo
- Beth i chi am ofyn iddyn nhw

Ffoniwch neu e-bostiwch y cyflogwr cyn y cyfweliad i ddweud wrthynt os oes angen cymorth ychwanegol arnoch. Gall cyflogwyr wneud newidiadau i gyfweliad er mwyn sicrhau ei fod yn deg i berson ag anabledd. Bydd llawer o gyflogwyr yn gofyn a oes angen unrhyw help ychwanegol arnoch chi ar y ffurflen gais. Edrychwch ar Pa gymorth sydd ar gael i mi mewn gwaith? i wybod mwy am yr help sydd ar gael.
Gwyliwch y fideos
Paratoi ar gyfer cyfweliad
Gwrandewch ar gyngor gan Alun Griffiths Contractors Ltd ar sut i baratoi ar gyfer cyweliad.
Cyfweliadau
Gwyliwch y fideo i wybod beth mae cyflogwyr yn ei ddisgwyl gennych mewn cyfweliad.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Edrychwch ar ein hawgrymiadau da i'ch helpu ar ddiwrnod eich cyfweliad

Dysgwch fwy am y gwahaniaeth rhwng cyfweliadau ffôn a fideo

Edrychwch ar rai enghreifftiau o gwestiynau cyfweliad