Os ydych chi dros 16, gallwch ddewis mynd i’r coleg lleol.
Yn y coleg gallech chi:
- Gyfarfod llawer o bobl newydd a gwneud ffrindiau newydd
- Ddysgu sgiliau newydd
- Roi cynnig ar wersi newydd
- Gario ymlaen gyda'ch darllen a mathemateg
- Ennill cymhwyster
Gwyliwch y fideo
O'r Ysgol i'r Coleg
Gwyliwch y fideo i weld beth mae rhai pobl ifanc yn ei feddwl am coleg.
Beth y gallaf ei wneud yn y coleg?
Yn y coleg, efallai y gallech astudio cwrs fel Sgiliau Byw'n Annibynnol. Ar y cwrs hwn, efallai y gallech chi:

Ddysgu mwy am ddefnyddio arian

Gael sgiliau ar gyfer gweithio

Ennill sgiliau cymdeithasol
Yn y coleg, efallai y gallech astudio cwrs ble byddwch yn dysgu mwy am math o waith fel:

Peintio ac addurno

Gofal plant

Coginio

Gofal anifeiliaid
Faint o amser y byddaf yn ei dreulio yn y coleg?
Mae cyrsiau amser llawn neu ran amser i’w cael mewn colegau.
Cwrs amser llawn – mae hyn yn golygu eich bod yn treulio hyd at 4 diwrnod yr wythnos yn y coleg.
Cwrs rhan amser – mae hyn yn golygu y gallech dreulio 1 neu 2 ddiwrnod yn y coleg.
A fydda i'n cael cymorth yn y coleg?
Os ydych chi wedi cael cymorth yn yr ysgol, yna dylech gael cymorth pan ewch chi i’r coleg.
Bydd eich Cynghorydd Gyrfa a staff yr ysgol yn gallu helpu gyda hyn.
Faint y byddaf yn cael fy nhalu?
Os ydych chi rhwng 16 a 18 oed, efallai y cewch chi Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA). Mae hyn yn hyd at £40 yr wythnos.
Siaradwch â’r coleg i gael gwybod mwy neu ewch i Cyllid Myfyrwyr Cymru i wybod mwy.
Sut y gallaf gael gwybod mwy am fynd i'r coleg?
Fe allwch:

Edrych ar wefan y coleg

Ymweld â’r coleg

Siarad â’ch Cynghorydd Gyrfa

Gofyn yn yr ysgol os y gallwch gael diwrnod blasu
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Edrychwch ar y camau y mae person ifanc yn eu cymryd i'w helpu gynllunio i fynd i'r coleg.

Dewch i wybod pa gamau i'w cymryd ar wahanol adegau o'r flwyddyn os ydych chi eisiau mynd i'r coleg.

Dewch o hyd i'ch coleg lleol, gweld lluniau a mynd ar daith rhithiol o amgylch y colegau.

Dewch i wybod am y gefnogaeth sydd ar gael i chi mewn coleg arbenigol.

Dewch i wybod am y bobl a'r sefydliadau a all eich helpu i gynllunio eich dyfodol.

Dewch i wybod beth ddylech chi feddwl amdano i'ch helpu chi i wneud penderfyniadau am eich dyfodol.