Mae gweithio dramor dros yr haf yn ffordd wych o ennill arian, ennill profiad gwaith ac archwilio gwlad arall. Fel arfer, mae cyflogwyr yn recriwtio ar gyfer rolau tymhorol o fis Mawrth hyd at yr haf, felly mae'n bwysig cadw llygad ar wefannau swyddi gan y gall swyddi gwag ymddangos, a chau, yn gyflym.
Os ydych chi'n bwriadu teithio, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwneud eich ymchwil. Gwiriwch reolau mynediad, gofynion fisa a gwybodaeth diogelwch cyn i chi fynd. Ewch i Cyngor teithio tramor ar - Foreign travel advice GOV.UK (www.gov.uk) (dolen Saesneg yn unig) am y canllawiau diweddaraf.
Dod o hyd i swyddi tymhorol dramor
(Mae llawer o'r dolenni ar y dudalen yma yn Saesneg yn unig)
Safleoedd swyddi cyffredinol ar gyfer swyddi tymhorol dramor
Dewch o hyd i ystod eang o swyddi dramor ar y gwefannau hyn:
Gwersylloedd haf dramor
Gwnewch gais i wersylloedd haf:
Cynrychiolwyr gwyliau a mwy
Mae gweithredwyr teithiau a chwmnïau teithio yn recriwtio cynrychiolwyr gwyliau tymhorol i weithio ledled y byd
Mae amrywiaeth eang o swyddi ar gael gyda gweithredwyr teithiau gan gynnwys cynrychiolwyr gwyliau, staff cegin, cynnal clybiau plant, nanis, gwaith sba a hyfforddwyr chwaraeon
Cymerwch olwg ar gwmnïau teithio a gweithredwyr teithiau ar gyfer swyddi cynrychiolwyr gwyliau a mwy:
Llongau mordeithio a fferïau
Llongau mordeithio
Y swyddi sydd ar gael ar longau mordeithio yw swyddi adloniant, manwerthu, gofal plant, cadw tŷ a glanhau, bwyd a diod, ffotograffiaeth, chwaraeon a ffitrwydd.
Dyma rai cwmnïau mordeithiau i gychwyn arni:
Chwiliwch am fwy o swyddi ar y wefan All Cruise Jobs.
Fferïau
Gall cwmnïau fferi hefyd hysbysebu am swyddi haf:
Chwilio am swyddi yn ddiogel
Mae mwy o bobl yn cael eu targedu gan sgamiau swyddi ar-lein felly cofiwch gadw golwg am sgamiau swyddi pan fyddwch yn chwilio am swyddi ar wefannau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i osgoi sgamiau swyddi ar y wefan JobsAware.
I gael rhagor o wybodaeth am ddod o hyd i waith gyda chwmnïau teithio cofrestredig ewch i:
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Dod o hyd i swyddi haf tymhorol yng Nghymru a’r DU.
Defnyddiwch ein rhestr o wefannau swyddi poblogaidd i'ch helpu i chwilio am swydd.
Darganfyddwch 7 ffordd i ddod o hyd i swyddi ar-lein.
Cewch wybod beth mae asiantaethau recriwtio yn ei wneud, ble mae dod o hyd iddynt, a pham mae'n werth cofrestru.
Dysgwch sut i greu eich CV, dysgwch beth i'w gynnwys yn eich CV, edrychwch ar ein templedi CV am ddim, a lawrlwythwch ein Canllaw i ysgrifennu CV.
Awgrymiadau ar sut i lunio cais er mwyn cael cyfweliad.
Darganfyddwch sut i wneud cyfweliad da gan ddefnyddio techneg STAR a chael cyngor cyfweliad ac awgrymiadau paratoi.
Gwnewch argraff gyntaf dda yn eich e-bost neu lythyr eglurhaol gyda'n cymorth ni.