Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Swyddi tymhorol dros yr haf - Cymru a'r DU

Mae cyflogwyr fel arfer yn recriwtio ar gyfer swyddi tymhorol dros yr haf rhwng mis Mawrth a chanol yr haf.

Mae swydd dros gyfnod yr haf yn ffordd ddelfrydol o gael profiad gwaith hollbwysig. Ar y dudalen hon, gallwch ddod o hyd i ddolenni i rai syniadau gwych am swyddi haf ar draws ystod eang o sectorau swyddi.

Gwiriwch wefannau swyddi yn rheolaidd oherwydd bydd swyddi gwag newydd yn cael eu hychwanegu yn ddyddiol gyda rhai swyddi tymhorol yr haf yn cael eu hysbysebu am gyfnod byr.

Gwefannau sector penodol i gychwyn eich chwiliad

(Mae llawer o'r dolenni ar y dudalen yma yn Saesneg yn unig.)

Meysydd awyr

Meysydd awyr o fewn pellter cymudo i rai rhannau o Gymru:


Swyddi arlwyo

Mae gwestai, bwytai, tafarndai, parciau a chaffis yn aml yn recriwtio staff ychwanegol yn ystod yr haf.

  • Mae’r cwmnïau mwy yn hysbysebu swyddi gwag ar eu gwefan, ac mae llawer o gyflogwyr yn defnyddio gwefannau arlwyo a rhai chyffredinol fel Caterer.com
  • Yn aml, gall cwmnïau roi hysbyseb yn y ffenestr, felly cofiwch edrych pan fyddwch yn mynd heibio
  • Mae mynd i fwytai a thafarndai lleol a rhoi eich CV hefyd yn ffordd dda o ddod o hyd i waith

Dyma rai o'r prif fwytai/cadwyni tafarndai i gychwyn arni:

Mannau arlwyo eraill yn cynnwys:


Swyddi gofal plant

  • Mae cynghorau lleol a sefydliadau eraill yn cynnal Cynlluniau Chwarae’r Haf yn aml. I ddod o hyd i gyngor, ewch i Llyw.cymru
  • Weithiau bydd swyddi fel Nani neu Au Pair ar gael dros yr haf

Ambell i asiantaethau i’ch rhoi ar ben ffordd:


Sinemâu

Cymerwch olwg ar y sinemâu adnabyddus ond peidiwch ag anghofio bod yna sinemâu annibynnol bach allan yno hefyd.

Rhai o'r sinemâu mwy:


Adeiladu, llafurio a thirlunio

  • Chwiliwch am swyddi adeiladu, llafurio a thirlunio ar safleoedd swyddi ar-lein megis Totaljobs, Indeed, Reed a Dod o hyd i swydd
  • Mae cwmnïau adeiladu hefyd yn defnyddio asiantaethau recriwtio i hysbysebu gwaith tymhorol. Cysylltwch ag asiantaethau recriwtio yn eich ardal neu defnyddiwch Agency Central i ddod o hyd i asiantaeth recriwtio gyfagos.

Fel arfer, bydd angen i chi fod â Cherdyn Iechyd a Diogelwch CSCS i weithio ar safleoedd adeiladu. I gael gwybod ble y gallwch gael cymorth gyda hyn cysylltwch â ni neu cysylltwch â’ch Canolfan Waith leol.

 


Swyddi tymhorol y cyngor

Mae gan gynghorau amrywiaeth o swyddi tymhorol a allai gynnwys torri glaswellt, cynnal a chadw parciau a thir, cynlluniau chwarae, achubwr bywydau a mwy. I ddod o hyd i gyngor, ewch i Llyw.cymru.


Gwyliau

Gwefannau swyddi i ddod o hyd i waith mewn gwyliau:


Sefydliadau celfyddydau a hanesyddol

Dechreuwch arni gyda’r gwefannau canlynol:


Parciau a chyrchfannau gwyliau

Gallech weithio ym maes arlwyo, yn glanhau neu'n trefnu adloniant i westeion, gan gynnwys clybiau i blant. Isod mae rhestr o rai o’r parciau a’r cyrchfannau gwyliau sydd ar gael ledled y Deyrnas Unedig:

I gael rhagor o wybodaeth am barciau gwyliau ewch i Safle Swyddi Cymdeithas Parciau Gwyliau a Chartrefi Prydain


Gwestai

Mae gwestai yn recriwtio ar safleoedd swyddi cyffredinol megis Indeed, Reed a Dod o hyd i swydd.

Dyma rai ffyrdd o gael swydd haf mewn gwesty:

  • Mynd mewn i westai a gofyn am swyddi gwag
  • Edrych ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol gwestai gan bod llawer yn recriwtio y ffyrdd hyn

Dyma restr o rai o’r gwestai yng Nghymru fel man cychwyn:

Safleoedd swyddi gwestai:

Gallwch ddod o hyd i westai cyfagos drwy chwilio am restr o westai. Yna gallwch gysylltu â’r gwestai neu ddod o hyd i swyddi gwag ar eu gwefannau. Dyma enghreifftiau o’r rhestrau:


Parciau a gerddi cenedlaethol

P'un a ydych chi'n hoffi'r syniad o ddangos i ymwelwyr ble i fynd, o weithio gyda phlanhigion neu o gadw'r ardal yn daclus, os ydych chi'n hoffi swyddi awyr agored edrychwch ar y gwefannau hyn:


Manwerthu

  • Bydd rhai siopau yn prysuro yn ystod yr haf. Enghreifftiau o siopau a allai brysuro ac a fydd angen staff dros yr haf yw siopau DIY, canolfannau garddio, siopau twristiaeth a masnachwyr adeiladu
  • Chwiliwch am swyddi gwag ar safleoedd swyddi ar-lein, neu ewch i’ch siopau lleol i gael rhagor o wybodaeth

Dyma enghreifftiau o siopau:


Swyddi chwaraeon, gweithgareddau a gwersylloedd haf

Dyma ystod o wefannau i ddod o hyd i swyddi haf egnïol:

Safle swyddi hamdden cyffredinol:


Dysgu Saesneg fel ail iaith (ESOL)

Meddyliwch am ddysgu Saesneg fel ail iaith neu iaith dramor dros yr haf:


Parciau thema

Gallech fod yn dangos i gwsmeriaid ble i fynd, yn gweini bwyd a diod, yn glanhau ac yn clirio neu'n gyfrifol am reid. Cymerwch olwg ar y swyddi mewn parciau thema:


Asiantaethau staffio a recriwtio

Mae asiantaethau recriwtio yn hysbysebu amrywiaeth eang o swyddi tymhorol gan gynnwys casglu ffrwythau, llafurio, staff bar a llawer mwy.

Cysylltwch ag asiantaethau recriwtio yn eich ardal neu defnyddiwch Agency Central i ddod o hyd i asiantaeth recriwtio gyfagos.


Chwilio am swydd yn ddiogel

Cofiwch gadw golwg am sgamiau swyddi pan fyddwch yn chwilio am swyddi ar wefannau. Mae mwy o bobl yn cael eu targedu gan sgamiau swyddi ar-lein. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i osgoi sgamiau swyddi ar y wefan JobsAware.


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Gwefannau Swyddi

Defnyddiwch ein rhestr o wefannau swyddi poblogaidd i'ch helpu i chwilio am swydd.

Creu CV

Dysgwch sut i greu eich CV, dysgwch beth i'w gynnwys yn eich CV, edrychwch ar ein templedi CV am ddim, a lawrlwythwch ein Canllaw i ysgrifennu CV.

Technegau cyfweld

Darganfyddwch sut i wneud cyfweliad da gan ddefnyddio techneg STAR a chael cyngor cyfweliad ac awgrymiadau paratoi.