Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Mae fy mhlentyn wedi gadael addysg

Os yw'ch plentyn wedi gorffen eu haddysg ac yn pendroni ynghylch eu camau nesaf, gall ein Cynghorwyr Gyrfa eu helpu nhw.

Sut y gall Cymru'n Gweithio helpu

Mae Cymru'n Gweithio, sy'n cael ei ddarparu gan Gyrfa Cymru a'i hariannu gan Lywodraeth Cymru, yno i gefnogi'ch plentyn gyda'u hopsiynau. Gallan nhw wneud hyn drwy:

Gynnig cyfweliad gyrfaoedd

Gall eich plentyn drefnu apwyntiad i siarad â Chynghorydd Gyrfa Cymru'n Gweithio. 

Gallan nhw siarad â nhw dros y ffôn, yn bersonol, ar alwad fideo neu drwy sgwrs ar-lein. Gall ein Cynghorwyr Gyrfa eu helpu nhw:

  • I ystyried syniadau gyrfa
  • Gweld pa fath o waith fyddai'n addas iddyn nhw
  • Cyfeirio at sefydliadau eraill fel cymorth cyflogaeth os mai dyna'r opsiwn gorau
Cefnogaeth ymarferol er mwyn dod o hyd i swyddi a gwneud cais amdanyn nhw

Gall ein Cynghorwyr helpu eich plentyn i ymuno â’r farchnad lafur a gallan nhw gefnogi gyda:

  • Mynediad i raglenni cymorth gan ddefnyddio Canfod Cymorth
  • Chwilio a gwneud cais am swyddi
  • Chwilio am waith a chofrestru ar gyfer ein bwletin swydd
  • Ysgrifennu CV
  • Ymarfer cwestiynau cyfweliad

Sut alla i gefnogi fy mhlentyn?

Os nad yw'ch plentyn yn siŵr beth i'w wneud nawr eu bod nhw wedi gadael addysg, anogwch nhw i siarad am eu syniadau a'u hopsiynau gyrfa a manteision siarad â Chynghorydd Gyrfa. Anogwch nhw i drefnu apwyntiad i siarad â ni. Os ydyn nhw'n nerfus am ddod i gwrdd â Chynghorydd Gyrfa, gofynnwch iddyn nhw edrych ar Beth yw cyfweliad gyrfa a gwylio’r fideo ar y dudalen. Dylech:

  • Gwnewch yn siŵr bod eich gwybodaeth yn gyfredol. Defnyddiwch Swyddi Dyfodol Cymru i ddysgu mwy am y farchnad swyddi, y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw a thueddiadau cyflogaeth
  • Anogwch eich plentyn i feddwl am yr holl opsiynau sydd ar gael. Edrychwch ar Gwybod beth yw eich opsiynau gyda'ch plentyn
  • Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwneud defnydd llawn o'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw. Edrychwch ar Pwy sy'n gallu fy helpu gyda'ch plentyn
  • Dangoswch sianel YouTube Fy Nyfodol iddyn nhw er mwyn gwylio fideos am wahanol yrfaoedd ac opsiynau
  • Anogwch nhw i ddatblygu eu sgiliau drwy addysg, hobïau, profiad gwaith a swyddi rhan amser

Gall ein hoffer eich helpu chi'ch dau i ddechrau meddwl am syniadau gyrfa. Ewch i:

Opsiynau ar ôl gadael addysg

Gallwn gefnogi'ch plentyn gyda'u camau nesaf. Mae'r opsiynau sydd ar gael yn cynnwys:

Twf Swyddi Cymru+

Os ydych plentyn rhwng 16 ac 19 oed, â diddordeb mewn gweithio ond nad yw'n barod eto, yna gallen nhw ddilyn y rhaglen Twf Swyddi Cymru+.

Mae hyn yn cynnig cyfle i bobl ifanc ennill sgiliau a chymwysterau sy’n seiliedig ar waith mewn canolfan hyfforddi neu gyda chyflogwr lleol. Maen nhw hefyd yn ennill profiad gwaith gwerthfawr a hyd yn oed swydd â thâl mewn rhai achosion.

Gall pobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol gael cymorth i'w galluogi i gwblhau eu hyfforddiant. Gall Cynghorydd Gyrfa drafod yr anghenion hyn gyda'ch plentyn a, gyda'u caniatâd nhw, rhannu'r rhain gyda'r darparwr. Os oes gan eich plentyn Gynllun Datblygu Unigol gallen nhw rannu hyn gyda'r darparwr.

Siaradwch â'ch plentyn am fod yn hyfforddai ar Twf Swyddi Cymru+ Byddwch yn hyfforddai.

Cyflogaeth a chymorth chyflogaeth

Cyflogaeth

Yn 16 oed, gall eich plentyn chwilio am waith os maen nhw’n barod. Gallen nhw ymgeisio am swyddi sydd yn:

  • Llawn amser (tua 37 awr yr wythnos)
  • Rhan amser (gwaith am ran o ddiwrnod neu ran o wythnos)

Gall y cyflogwr wneud newidiadau i'w helpu nhw os oes angen, fel cael offer i'w helpu i wneud y gwaith neu gael cyllid i dalu am gludiant i'r gwaith.

Gallai'ch plentyn wneud cais am gyllid i'w cefnogi i gael gwaith. Dysgwch fwy am Mynediad at Waith  ar gov.uk.

I drafod dechrau gweithio gyda'ch plentyn dangoswch y dudalen Dechrau gweithio iddyn nhw.

Cymorth cyflogaeth

Dysgwch sut y gall Cymru'n Gweithio gynnig cymorth arbenigol.

Yr asiantaethau cymorth cyflogaeth yng Nghymru yw:

  • Elite- De, Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Agoriad- Gogledd Cymru

Gwyliwch fideo gan Engage To Change (Saesneg yn unig) ar YouTube i ddysgu mwy am Cymorth Cyflogaeth a Interniaethau â Chymorth. Mae nifer o asiantaethau cymorth cyflogaeth ar draws Cymru. Maen nhw’n helpu pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol i ddod o hyd i waith ac i gadw’r gwaith.

Prentisiaethau

Mae prentisiaethau yn ffordd o gael profiad gwaith, cael cyflog ac ennill cymwysterau. Mae gwahanol lefelau o brentisiaethau o Brentisiaeth Sylfaen lle mae pobl yn gweithio tuag at gymhwyster lefel 2 i brentisiaethau lefel gradd. Dysgwch fwy am Brentisiaethau. Archwiliwch yr opsiwn hwn gyda'ch plentyn drwy edrych ar Byddwch yn brentis.

Dod o hyd i brentisiaethau ar Chwilio am Brentisiaethau.

Gwirfoddoli

Os yw person ifanc eisiau gweithio ond ddim yn barod ar gyfer cyflogaeth â thâl eto, fe allen nhw wirfoddoli. Gall hyn helpu i ddatblygu sgiliau a hyder yn ogystal â darparu profiad gwaith defnyddiol.

Mae gwirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn pob math o brosiectau a gweithgareddau. Gall faint o amser y mae person yn ei dreulio yn gwirfoddoli amrywio o wirfoddoli unwaith i ymrwymiad rheolaidd bob wythnos.

Gallwch ddysgu mwy am wirfoddoli ar Gwirfoddoli, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) a Volunteering Matters Cymru.


Efallai i chi hefyd hoffi