Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Swyddi tymhorol dros yr haf - Cymru a'r DU

Mae cyflogwyr fel arfer yn recriwtio ar gyfer swyddi tymhorol dros yr haf rhwng mis Mawrth a chanol yr haf.

Mae swydd haf yn ffordd wych o feithrin profiad a rhoi
hwb i'ch CV.

Archwiliwch ystod eang o syniadau am swyddi haf ar draws gwahanol sectorau ar y dudalen hon. Mae swyddi gwag newydd yn cael eu hychwanegu drwy'r amser, felly gwiriwch wefannau swyddi yn rheolaidd a gwnewch gais yn gynnar.

Gwefannau sector penodol i gychwyn eich chwiliad

(Mae llawer o'r dolenni ar y dudalen yma yn Saesneg yn unig.)

Meysydd awyr

Meysydd awyr o fewn pellter cymudo i rai rhannau o Gymru:

Swyddi arlwyo

Mae gwestai, bwytai, tafarndai, parciau a chaffis yn aml yn recriwtio staff ychwanegol yn ystod yr haf.

  • Mae’r cwmnïau mwy yn hysbysebu swyddi gwag ar eu gwefan, ac mae llawer o gyflogwyr yn defnyddio gwefannau arlwyo a rhai chyffredinol fel Caterer.com
  • Yn aml, gall cwmnïau roi hysbyseb yn y ffenestr, felly cofiwch edrych pan fyddwch yn mynd heibio
  • Mae mynd i fwytai a thafarndai lleol a rhoi eich CV hefyd yn ffordd dda o ddod o hyd i waith

Dyma rai o'r prif fwytai/cadwyni tafarndai i gychwyn arni:

Mannau arlwyo eraill yn cynnwys:

Swyddi gofal plant

Mae cynghorau lleol a sefydliadau eraill yn cynnal Cynlluniau Chwarae’r Haf yn aml. I ddod o hyd i gyngor, ewch i'n tudalen Swyddi'r Cyngor

Weithiau bydd swyddi fel Nani neu Au Pair ar gael dros yr haf

Ambell i asiantaethau i’ch rhoi ar ben ffordd:

Sinemâu

Cymerwch olwg ar y sinemâu adnabyddus ond peidiwch ag anghofio bod yna sinemâu annibynnol bach allan yno hefyd.

Rhai o'r sinemâu mwy:

Adeiladu, llafurio a thirlunio

Chwiliwch am swyddi adeiladu, llafurio a thirlunio ar safleoedd swyddi ar-lein megis Totaljobs, Indeed, Reed a Dod o hyd i swydd

Mae cwmnïau adeiladu hefyd yn defnyddio asiantaethau recriwtio i hysbysebu gwaith tymhorol. Cysylltwch ag asiantaethau recriwtio yn eich ardal neu defnyddiwch Agency Central i ddod o hyd i asiantaeth recriwtio gyfagos.

Fel arfer, bydd angen i chi fod â Cherdyn Iechyd a Diogelwch CSCS i weithio ar safleoedd adeiladu. I gael gwybod ble y gallwch gael cymorth gyda hyn cysylltwch â ni neu cysylltwch â’ch Canolfan Waith leol.

Swyddi tymhorol y cyngor

Mae gan gynghorau amrywiaeth o swyddi tymhorol a allai gynnwys torri glaswellt, cynnal a chadw parciau a thir, cynlluniau chwarae, achubwr bywydau a mwy. I ddod o hyd i gyngor, ewch i'n tudalen Swyddi'r Cyngor.

Gwyliau

Gwefannau swyddi i ddod o hyd i waith mewn gwyliau:

Sefydliadau celfyddydau a hanesyddol

Dechreuwch arni gyda’r gwefannau canlynol:

Parciau a chyrchfannau gwyliau

Gallech weithio ym maes arlwyo, yn glanhau neu'n trefnu adloniant i westeion, gan gynnwys clybiau i blant. Isod mae rhestr o rai o’r parciau a’r cyrchfannau gwyliau sydd ar gael ledled y Deyrnas Unedig:

I gael rhagor o wybodaeth am barciau gwyliau ewch i Safle Swyddi Cymdeithas Parciau Gwyliau a Chartrefi Prydain

Gwestai

Mae gwestai yn recriwtio ar safleoedd swyddi cyffredinol megis Indeed, Reed a Dod o hyd i swydd.

Dyma rai ffyrdd o gael swydd haf mewn gwesty:

  • Mynd mewn i westai a gofyn am swyddi gwag
  • Edrych ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol gwestai gan bod llawer yn recriwtio y ffyrdd hyn

Dyma restr o rai o’r gwestai yng Nghymru fel man cychwyn:

Safleoedd swyddi gwestai:

Gallwch ddod o hyd i westai cyfagos drwy chwilio am restr o westai. Yna gallwch gysylltu â’r gwestai neu ddod o hyd i swyddi gwag ar eu gwefannau. Dyma enghreifftiau o’r rhestrau:

Parciau a gerddi cenedlaethol

P'un a ydych chi'n hoffi'r syniad o ddangos i ymwelwyr ble i fynd, o weithio gyda phlanhigion neu o gadw'r ardal yn daclus, os ydych chi'n hoffi swyddi awyr agored edrychwch ar y gwefannau hyn:

Manwerthu

Bydd rhai siopau yn prysuro yn ystod yr haf. Enghreifftiau o siopau a allai brysuro ac a fydd angen staff dros yr haf yw siopau DIY, canolfannau garddio, siopau twristiaeth a masnachwyr adeiladu

Chwiliwch am swyddi gwag ar safleoedd swyddi ar-lein, neu ewch i’ch siopau lleol i gael rhagor o wybodaeth

Dyma enghreifftiau o siopau:

Swyddi chwaraeon, gweithgareddau a gwersylloedd haf

Dyma ystod o wefannau i ddod o hyd i swyddi haf egnïol:

Safle swyddi hamdden cyffredinol:

Parciau thema

Gallech fod yn dangos i gwsmeriaid ble i fynd, yn gweini bwyd a diod, yn glanhau ac yn clirio neu'n gyfrifol am reid. Cymerwch olwg ar y swyddi mewn parciau thema:

Asiantaethau staffio a recriwtio

Mae asiantaethau recriwtio yn hysbysebu amrywiaeth eang o swyddi tymhorol gan gynnwys casglu ffrwythau, llafurio, staff bar a llawer mwy.

Cysylltwch ag asiantaethau recriwtio yn eich ardal neu defnyddiwch Agency Central i ddod o hyd i asiantaeth recriwtio gyfagos.

Chwilio am swydd yn ddiogel

Cofiwch gadw golwg am sgamiau swyddi pan fyddwch yn chwilio am swyddi ar wefannau. Mae mwy o bobl yn cael eu targedu gan sgamiau swyddi ar-lein. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i osgoi sgamiau swyddi ar y wefan JobsAware.

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Gwefannau Swyddi

Defnyddiwch ein rhestr o wefannau swyddi poblogaidd i'ch helpu i chwilio am swydd.

Creu CV

Dysgwch sut i greu eich CV, dysgwch beth i'w gynnwys yn eich CV, edrychwch ar ein templedi CV am ddim, a lawrlwythwch ein Canllaw i ysgrifennu CV.

Technegau cyfweld

Darganfyddwch sut i wneud cyfweliad da gan ddefnyddio techneg STAR a chael cyngor cyfweliad ac awgrymiadau paratoi.