Gall gweithio dramor dros yr haf fod yn ffordd o ennill arian, cael profiad a gweld gwledydd eraill ar yr un pryd.
Mae cyflogwyr fel arfer yn recriwtio ar gyfer swyddi tymhorol dros yr haf rhwng mis Mawrth a chanol yr haf.
Gwiriwch wefannau swyddi yn rheolaidd oherwydd bydd swyddi gwag newydd yn cael eu hychwanegu yn ddyddiol gyda rhai swyddi tymhorol yr haf yn cael eu hysbysebu am gyfnod byr.
Gwnewch eich ymchwil os ydych chi’n bwriadu teithio. Darllenwch am y wlad a'u gofynion teithio cyn i chi gynllunio teithio. Dysgwch fwy am Cyngor teithio tramor ar - Foreign travel advice GOV.UK (www.gov.uk) (dolen Saesneg yn unig)
Dod o hyd i swyddi tymhorol dramor
(Mae llawer o'r dolenni ar y dudalen yma yn Saesneg yn unig)
Safleoedd swyddi cyffredinol ar gyfer swyddi tymhorol dramor
Dewch o hyd i ystod eang o swyddi dramor ar y gwefannau hyn:
Gwersylloedd haf dramor
Gwnewch gais i wersylloedd haf:
Cynrychiolwyr gwyliau a mwy
- Mae gweithredwyr teithiau a chwmnïau teithio yn recriwtio cynrychiolwyr gwyliau tymhorol i weithio ledled y byd
- Mae amrywiaeth eang o swyddi ar gael gyda gweithredwyr teithiau gan gynnwys cynrychiolwyr gwyliau, staff cegin, cynnal clybiau plant, nanis, gwaith sba a hyfforddwyr chwaraeon
Cymerwch olwg ar gwmnïau teithio a gweithredwyr teithiau ar gyfer swyddi cynrychiolwyr gwyliau a mwy:
Llongau mordeithio a fferïau
Llongau mordeithio
Y swyddi sydd ar gael ar longau mordeithio yw swyddi adloniant, manwerthu, gofal plant, cadw tŷ a glanhau, bwyd a diod, ffotograffiaeth, chwaraeon a ffitrwydd.
Dyma rai cwmnïau mordeithiau i gychwyn arni:
Chwiliwch am fwy o swyddi ar y wefan All Cruise Jobs.
Fferïau
Gall cwmnïau fferi hefyd hysbysebu am swyddi haf:
Nanis ac Au Pairs
Chwiliwch am swyddi dramor fel nani neu au pair a darganfod mwy am y swyddi:
Chwilio am swyddi yn ddiogel
Mae mwy o bobl yn cael eu targedu gan sgamiau swyddi ar-lein felly cofiwch gadw golwg am sgamiau swyddi pan fyddwch yn chwilio am swyddi ar wefannau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i osgoi sgamiau swyddi ar y wefan JobsAware.
I gael rhagor o wybodaeth am ddod o hyd i waith gyda chwmnïau teithio cofrestredig ewch i:
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Dod o hyd i swyddi haf tymhorol yng Nghymru a’r DU.
Defnyddiwch ein rhestr o wefannau swyddi poblogaidd i'ch helpu i chwilio am swydd.
Darganfyddwch 6 ffordd i ddod o hyd i swyddi ar-lein
Cewch wybod beth mae asiantaethau recriwtio yn ei wneud, ble mae dod o hyd iddynt, a pham mae'n werth cofrestru.
Dysgwch sut i greu eich CV, dysgwch beth i'w gynnwys yn eich CV, edrychwch ar ein templedi CV am ddim, a lawrlwythwch ein Canllaw i ysgrifennu CV.
Awgrymiadau ar sut i lunio cais er mwyn cael cyfweliad.
Darganfyddwch sut i wneud cyfweliad da gan ddefnyddio techneg STAR a chael cyngor cyfweliad ac awgrymiadau paratoi.
Gwnewch argraff gyntaf dda yn eich e-bost neu lythyr eglurhaol gyda'n cymorth ni.