Mae dechrau yn y coleg neu'r chweched dosbarth yn gam cyffrous, ond gall hefyd deimlo'n heriol i chi ac i'ch plentyn. Gallwch helpu eich plentyn i ymgyfarwyddo ag amgylchedd newydd a mwy o annibyniaeth.
Fel rhiant neu ofalwr, gall eich cefnogaeth wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Annog a chefnogi
Mae'r coleg a'r chweched dosbarth yn aml yn wahanol iawn i'r ysgol. Efallai y bydd eich plentyn yn teithio i le newydd, yn dilyn amserlen wahanol bob dydd, yn rheoli gwaith cwrs a therfynau amser yn annibynnol ac yn gwneud ffrindiau newydd.
Gallwch helpu drwy:
- Holi'n rheolaidd sut mae pethau'n mynd a gwrando ar unrhyw bryderon sydd ganddynt
- Helpu nhw i drefnu eu hamser a chadw golwg ar derfynau amser pwysig
- Cefnogi nhw i gymryd rhan mewn clybiau, gwirfoddoli neu weithgareddau cyfoethogi
- Atgoffa nhw y gall gymryd amser i ymgyfarwyddo ag amgylchedd newydd
Mae'n arferol i ddysgwyr fod angen ychydig wythnosau, neu hyd yn oed yn hirach, i deimlo'n hyderus ac yn gyfforddus.
Os nad yw eich plentyn yn siŵr a yw wedi gwneud y dewis cywir, anogwch nhw i ofyn am gyngor cyn gynted â phosibl drwy:
- Siarad â’r Athro neu’r Tiwtor
- Cysylltu â gwasanaethau dysgwyr / myfyrwyr yn y coleg
- Trefnu apwyntiad gyda chynghorydd gyrfa
- Edrych ar ein tudalen Aros. Paid rhoi’r gorau iddi i gael mwy o gyngor ac arweiniad
Eu helpu i gael profiadau gwaith gwerthfawr
Mae llawer o gyrsiau'n annog neu'n ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr gael profiad gwaith. Gall hyd yn oed leoliad byr roi profiad defnyddiol a dealltwriaeth o fyd gwaith. Gall helpu eich plentyn i ddatblygu sgiliau yn y gweithle, magu hyder, archwilio diddordebau gyrfa a chryfhau ceisiadau am le mewn prifysgol, prentisiaeth neu swydd.
Gallwch eu cefnogi drwy:
- Eu hannog i siarad â thiwtoriaid am gyfleoedd
- Eu helpu i ddod o hyd i gyflogwyr lleol
- Awgrymu eu bod yn siarad â theulu, ffrindiau neu gysylltiadau yn y gymuned
- Eu cefnogi i greu CV a llythyr cais er mwyn holi am brofiad gwaith
Rhannwch eich profiadau
Fel rhiant neu ofalwr, gallwch fod yn un o'r dylanwadau mwyaf ar benderfyniadau a hyder eich plentyn. Gall siarad am eich profiadau eich hun eu helpu i ddeall bod heriau'n rhan arferol o ddysgu a gweithio.
Gallech drafod:
- Ymgyfarwyddo ag amgylcheddau newydd
- Gweithio gyda gwahanol fathau o bobl
- Rheoli cyfrifoldebau a chadw at derfynau amser
- Goresgyn anawsterau
- Magu hyder drwy brofiadau newydd
Annogaeth i archwilio eu dyfodol
Gall bod â nod i weithio tuag ato helpu dysgwyr i gadw eu cymhelliant. Anogwch eich plentyn i feddwl am yr hyn maen nhw am ei wneud. Gallai hyn gynnwys:
- Astudiaeth bellach neu gyrsiau lefel uwch yn y coleg neu'r chweched dosbarth
- Prifysgol
- Prentisiaeth
- Cyflogaeth
- Hunangyflogaeth
Defnyddiwch ein hamrywiaeth o adnoddau i'w helpu i archwilio cyfleoedd a syniadau am yrfaoedd:
Cefnogwch eu lles
Gall dechrau mewn lle newydd deimlo'n llethol ar adegau. Gall ychydig o sicrwydd wneud gwahaniaeth mawr. Atgoffwch eich plentyn ei bod yn arferol i deimlo'n nerfus am newid a bod y rhan fwyaf o ddysgwyr yn wynebu heriau wrth ymgyfarwyddo ag amgylchedd newydd, ond bydd eu hyder yn cynyddu a gallant ofyn am help.
Os ydynt yn cael trafferth, mae cymorth ar gael drwy:
- Wasanaethau cymorth i fyfyrwyr sy'n cynnig cymorth gyda lles, cwnsela, dysgu, arian neu faterion ymarferol
- Gyrfa Cymru sy'n darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd diduedd i'w helpu i archwilio eu hopsiynau a'u camau nesaf – cysylltwch â ni
- Meic sy'n cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am ddim ac yn gyfrinachol i blant a phobl ifanc 25 oed ac iau yng Nghymru
- Mind sy'n darparu gwybodaeth a chymorth iechyd meddwl, gan gynnwys help i ddod o hyd i wasanaethau lleol
Yma i'ch helpu
Gall Gyrfa Cymru helpu eich plentyn i archwilio ei opsiynau, deall ei gamau nesaf a gwneud penderfyniadau gwybodus am ei yrfa.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Sicrhewch fod gwybodaeth, adnoddau ac awgrymiadau gyda chi i helpu'ch plentyn i wneud penderfyniadau gyrfa a dysgu mwy am y gefnogaeth a gynigir gennym wrth i'ch plentyn fynd o addysg i gyflogaeth.
Cymorth i gynllunio eich gyrfa. Eich syniadau a'ch dewisiadau chi.
Deallwch lefelau cymhwyster a pham maen nhw'n bwysig. Dysgwch am gymwysterau, gan gynnwys NVQ, TGAU, BTEC, Safon Uwch, graddau a HND.
Archwilio opsiynau ariannu ar gyfer cyrsiau yng Nghymru.