Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Eich plentyn ym Mlynyddoedd 10 ac 11

Mae penderfynu beth i'w wneud ar ôl blwyddyn 11 yn gam mawr i'ch plentyn. Bydd bod yn ymwybodol o'u hopsiynau a'n gwasanaethau yn eich helpu i'w cefnogi.

Dewisiadau a phenderfyniadau

Ym mlynyddoedd 10 ac 11 bydd eich plentyn yn brysur yn gweithio tuag at eu cymwysterau cyntaf. Yn ystod y cyfnod hwn mae angen iddynt feddwl am yr hyn y maent am ei wneud ar ôl blwyddyn 11 ac ymchwilio i'w hopsiynau.

Ar ôl blwyddyn 11, gallai'ch plentyn benderfynu:

Dysgwch fwy am lwybrau a throedffyrdd.

Bydd canlyniadau eich plentyn yn dylanwadu ar yr hyn y gall ei wneud. Mae gennym wybodaeth i'ch helpu os yw eich plentyn ar fin cael eu canlyniadau.

Ffyrdd rydym yn cefnogi eich plentyn

Cynghorwyr gyrfa

Nod ein cynghorwyr gyrfa yw:

  • Annog eich plentyn i feddwl am feysydd gyrfa a allai fod o ddiddordeb iddyn nhw
  • Cefnogi eich plentyn i wneud penderfyniadau gwybodus ac effeithiol am beth i wneud ar ôl blwyddyn 11

Os oes gan eich plentyn anghenion dysgu ychwanegol a bod ganddo Gynllun Datblygu Unigol gall yr ysgol ofyn i’r ymgynghorydd fynychu’r adolygiad blynyddol.

Cymorth ym mhob blwyddyn

Blwyddyn 10

Efallai bydd eich plentyn yn cymryd rhan mewn sesiwn grŵp gyda chynghorydd. Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar wybodaeth am y farchnad lafur (GML). Ffeithiau am dueddiadau swyddi presennol ac yn y dyfodol yw GML.

Bydd gwybodaeth yn y sesiwn hon yn eu helpu i gwblhau gweithgaredd o'r enw 'gwirio gyrfa'. Arolwg yw gwiro gyrfa sy'n helpu'r cynghorydd gyrfa i ganfod pa gymorth unigol sydd ei angen ar eich plentyn.

Blwyddyn 11

Pan fydd eich plentyn ym Mlwyddyn 11 bydd eu cynghorydd gyrfa yn cysylltu â nhw.

Bydd sesiynau grŵp yn canolbwyntio ar yr hyn y gall eich plentyn wneud ar ôl Blwyddyn 11.

Gellir cynnig arweiniad a chyfweliadau hyfforddi i’ch plentyn os mae’n:

  • Ansicr am yr hyn y maent am wneud
  • Chwilio am brentisiaeth
  • Angen anogaeth i gyflawni eu potensial
  • Bwriadu cael swydd ar ôl gadael ysgol
  • Diffyg hyder neu gymhelliant
  • Afrealistig am eu cam nesaf
  • Disgybl ag anghenion dysgu ychwanegol

Os yw'ch plentyn yn bwriadu cael swydd neu ddechrau hyfforddiant sy’n seiliedig ar waith, byddan nhw’n gweld ei gynghorydd gyrfa yn ystod tymor y Pasg. Bydd eu cynghorydd yn eu cyfeirio at raglen Twf Swyddi Cymru+ neu'n rhoi cymorth iddynt i ddod o hyd i waith neu brentisiaeth.

Os nad yw eich plentyn yn unrhyw un o'r categorïau hyn, byddant yn cael cynnig sesiynau grŵp neu gymorth digidol.

Rydym yma bob amser i helpu. Cysylltwch â ni os hoffech chi neu'ch plentyn siarad â chynghorydd. Os ydych chi’n trefnu cyfarfod gyda Chynghorydd Gyrfa, dysgwch sut i helpu’ch plentyn i gael y gorau o'r sesiwn honno.

Digwyddiadau cyflogwr

Mae ein Partneriaeth Addysg Busnes yn cynnig digwyddiadau cyflogwyr i bob ysgol uwchradd ac ysgol arbennig i gefnogi'r cwricwlwm. Gallai gweithgareddau gynnwys un cyflogwr neu sawl cyflogwr. Efallai y byddan nhw'n cael eu cynnal wyneb yn wyneb neu'n ddigidol.

Bydd y gweithgareddau a'r grwpiau blwyddyn sy'n cymryd rhan yn amrywio o ysgol i ysgol.

Os ydych chi'n angerddol am eich swydd neu'ch diwydiant beth am gael gwybod am ein Partneriaeth Addysg Busnes? Gallech archwilio ffyrdd o rannu eich profiad a’ch brwdfrydedd gyda disgyblion i ysbrydoli eu syniadau gyrfa.

Amser i siarad

Mae myfyrio ar bynciau y mae eich plentyn yn eu mwynhau ym mlynyddoedd 10 ac 11 yn ddefnyddiol. Bydd hyn yn eu helpu i adnabod beth sy'n eu hysgogi a sut maent yn hoffi dysgu.

Mae llawer o bosibiliadau y gallant eu hystyried ar gyfer eu cam nesaf. Atgoffwch nhw fod mwy nag un llwybr i yrfa lwyddiannus. Sgwrsiwch am yr holl ddewisiadau eraill a beth sy'n iawn iddyn nhw.


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Darpariaeth addysg a hyfforddiant ôl-16 Cymru

Os ydych yn 16 oed neu’n hŷn a’n awyddus i barhau â'ch addysg a'ch hyfforddiant, mae amrywiaeth o ddarpariaethau y gallech chi ddewis o’u plith, gan gynnwys colegau, ysgolion, darparwyr hyfforddiant, a phrifysgolion.