Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Opsiynau ar ôl colli swydd

Ar fin colli eich swydd a ddim yn siŵr beth i'w wneud nesaf? Gallwn ni eich helpu.

Gall golli eich swydd, sy'n cael ei alw'n diswyddo weithiau, achosi straen, ond gall hefyd arwain at gyfleoedd newydd, fel ailhyfforddi, gweithio i chi'ch hun, neu yrfa newydd.

Cael cefnogaeth

Os ydych chi'n wynebu cael eich diswyddo, gallwn eich helpu gyda chyngor cyfredol ar gyllid ReAct+, cyrsiau a chefnogaeth swyddi.

Beth yw cael eich diswyddo?

Mae diswyddo yn fath o golli swydd pan fydd angen i'ch cyflogwr leihau maint y gweithlu. Efallai:

  • Na fydd eich swydd yn bodoli mwyach
  • Bydd yr adran lle’r ydych chi’n gweithio yn cau
  • Mae mwy ohonoch yn gwneud yr un gwaith nag sydd ei angen ar eich cyflogwr nawr
  • Mae’r cwmni'n cau oherwydd ei fod yn cael ei ddiddymu neu am resymau eraill

Cymorth ariannol drwy ReAct+

Os ydych chi wedi dod yn ddi-waith yn ystod y 6 mis diwethaf neu os ydych chi o dan rybudd diswyddo cyfredol, gallai ReAct ariannu hyd at £1500 tuag at hyfforddiant i’ch helpu i ddychwelyd i’r gwaith. Efallai y cewch help hefyd gyda chostau teithio a gofal plant pan fyddwch yn gwneud cwrs.

I wneud cais am gyllid ReAct ar gyfer hyfforddiant, cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad.

Mae ReAct+ yn rhaglen grant sy'n adeiladu ar lwyddiant rhaglenni blaenorol ac yn cyfrannu at y Gwarant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru. Dylai cyflogwyr a hoffai wneud cais am gymorth recriwtio a hyfforddiant gysylltu â Busnes Cymru ar 03000 6 03000.

Help gyda chynllunio gyrfa

Gallwn eich cefnogi gyda'ch cynllunio gyrfa. Trefnwch apwyntiad gydag un o'n Cynghorwyr Gyrfa. Gallan nhw eich helpu i deimlo'n fwy hyderus ynglŷn â'ch camau nesaf a gallen nhw eich helpu i lunio cynllun wrth gefn os oes angen.

Pethau i’w hystyried wrth wneud cynlluniau gyrfa:

  • Beth yw eich blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol? Ai boddhad yn eich swydd? Ai tâl/cyflog? Ai cydbwysedd gwaith/bywyd? Ai aros yn lleol? Neu rywbeth arall?
  • Meddyliwch am y sgiliau sydd gennych y gallech eu defnyddio mewn swyddi eraill. Mae gennych sgiliau trosglwyddadwy o bob swydd rydych chi wedi'i wneud, ac o brofiadau bywyd. Rhowch gynnig ar ein prawf personoliaeth Cwis Buzz i ddeall mwy am eich cryfderau, neu mynnwch olwg ar Sgiliau a Chryfderau ar gyfer sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw. Cysylltwch â ni am fwy o gymorth i nodi eich sgiliau trosglwyddadwy
  • Oes swydd neu yrfa rydych chi eisiau dilyn? Defnyddiwch Gwybodaeth am Swyddi i ddysgu beth yw hanfodion y swydd, gan gynnwys cyflogau, llwybrau i mewn, a chymwysterau sydd eu hangen
  • Ddim yn siŵr pa yrfaoedd sydd o ddiddordeb i chi? Rhowch gynnig ar ein Cwis Paru Gyrfa. Atebwch gwestiynau am eich hoffterau a'ch diddordebau i ddod o hyd i swyddi a allai fod yn addas i chi
  • Dysgwch pa swyddi y mae galw amdanyn nhw yn eich ardal chi, neu yng Nghymru. Cymerwch olwg ar Swyddi Dyfodol Cymru i ddysgu mwy am yrfaoedd sy'n tyfu yng Nghymru
  • A oes unrhyw hyfforddiant a allai eich helpu i fynd yn ôl i'r gwaith? Defnyddiwch Chwilio am Gwrs i archwilio hyfforddiant a chyrsiau. (Os ydych chi'n hawlio budd-daliadau, gwiriwch gyda'r Ganolfan Waith yn gyntaf cyn dechrau cwrs. Fel arfer gallwch wneud rhywfaint o astudiaeth ran-amser heb iddo effeithio ar eich budd-daliadau a gall rhai cyrsiau fod am ddim, neu wedi'u hariannu)

Help gyda CVs, ceisiadau a chyfweliadau

Oes CV gyda chi? Ydych chi'n hyderus ynglŷn â llenwi cais am swydd neu fynd i gyfweliad? Mynnwch help i cael swydd:

Cefnogaeth Chwilio am Swydd

Ydych chi'n gwybod ble i ddod o hyd i swyddi? Mae yna lawer o ffyrdd o chwilio am swyddi gan gynnwys:

Cymorth lles

Os ydych chi wedi colli eich swydd, efallai y byddwch chi'n profi amrywiaeth o emosiynau, fel pryder, dicter a straen. Neu efallai y byddwch yn teimlo'n rhyddhad os ydych chi wedi bod yn meddwl am newid gyrfa.

Sut bynnag rydych chi'n teimlo, gall diswyddo ddod fel sioc pan fydd yn digwydd. Gall fod yn anodd canolbwyntio a gwneud cynlluniau.

Dyma gyngor i'ch helpu i weithio drwyddo a symud ymlaen:

  • Cofiwch mai'r swydd sy’n cael ei ddileu, nid chi
  • Siaradwch â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo am sut rydych chi'n teimlo, yn enwedig os yw'n eich atal rhag symud ymlaen
  • Os nad yw’r straen diswyddo yn lleihau, siaradwch â'ch meddyg teulu
  • Mae'n bendant yn werth siarad â Chynghorydd Gyrfa yn Gyrfa Cymru am eich cynlluniau gyrfa. Gallwn ni helpu os nad oes gennych chi unrhyw gynlluniau, cynlluniau amwys neu gynlluniau pendant

Cymorth gyda chyllid

Trefnwch eich hun yn ariannol cyn gynted ag y byddwch yn cael gwybod eich bod chi’n colli eich swydd. Gall fod yn anoddach gwneud penderfyniadau gyrfa da os mai arian yw eich ffocws, yn lle dod o hyd i'r yrfa gywir.

Camau i'w hystyried:

Byddwch yn ymwybodol o’ch hawliau

Dysgwch am eich hawliau yn ystod diswyddo:

Eich opsiynau

Cael Swydd

Cymorth gyda'ch CV, ffurflenni cais, datganiadau personol, cyfweliadau, canfod swyddi, cysylltu â chyflogwyr a mwy.

Prentisiaethau

Mae prentisiaethau yn ffordd wych o ennill cymwysterau tra byddwch chi’n gweithio ac yn ennill cyflog. Chwiliwch am brentisiaethau yn eich ardal chi, dysgwch am brentisiaethau a lefelau prentisiaeth, a mynnwch gyngor ar sut i wneud cais.

Gwirfoddoli

Gweld sut y gall gwirfoddoli gynyddu eich sgiliau, profiad a chyfleoedd gwaith tra rydych chi’n helpu eraill. 

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Gwefannau Swyddi

Defnyddiwch ein rhestr o wefannau swyddi poblogaidd i'ch helpu i chwilio am swydd.

Bwletin Swydd

Defnyddiwch ein bwletin swydd i gael mynediad at gannoedd o swyddi gwag byw ledled Cymru.