Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Dysgu Cymraeg

Eisiau dysgu Cymraeg? Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Roedd mwy nag 20,000 o bobl yn dysgu Cymraeg yn 2026.

(Ffynhonnell: Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, 2026)

Sut alla i ddysgu Cymraeg?

P'un ai ydych chi newydd ddechrau neu eisiau gwella eich Cymraeg, mae yna lawer o opsiynau ar gael i chi.

Efallai y bydd cost ar gyfer rhai o'r cyrsiau isod.

Profiadau bywyd go iawn o ddysgu Cymraeg

Mae rhai o'n gweithwyr yn dysgu Cymraeg. Dewch i wybod mwy am eu profiadau.

Stori James

Mae James yn un o'n Cynghorwyr Gyrfa. Dewch i wybod beth yw prif awgrymiadau James i ddysgu Cymraeg.

Stori Lauren

Mae Lauren yn Gynghorydd Gyrfa sy'n dysgu Cymraeg. Dewch i wybod sut mae hi'n cael 'mlaen.

Stori Luisa

Mae Luisa yn Gydlynydd Dysgu a Datblygu gyda Gyrfa Cymru. Dewch i wybod prif awgrymiadau Luisa i ddysgu'r Gymraeg.

Stori Nathalie

Mae Nathalie yn rhannu ei phrofiadau o ddysgu Cymraeg a'i hawgrymiadau ar gyfer dysgwyr eraill.

Stori Dewi

Darganfyddwch sut a pham mae’r Gymraeg yn bwysig i fusnes, cymuned a chwsmeriaid Dewi.

Pam ddylwn i ddysgu Cymraeg?

Mwynhewch y manteision

Mae gan lawer o lefydd yng Nghymru draddodiad cryf o siarad Cymraeg. Gall dysgu a siarad Cymraeg eich:

  • Helpu i ystyried ac ymgysylltu â'ch cymuned leol
  • Mwynhau teledu, radio, cerddoriaeth a llenyddiaeth Gymraeg

Dyma beth ddywedodd aelod o staff Gyrfa Cymru am eu profiad nhw o ddysgu Cymraeg:

Dechreuais i ddysgu Cymraeg yn fy mhedwardegau mewn dosbarthiadau nos i oedolion. Mae'r hyn a ddechreuodd fel dysgu ychydig eiriau wedi datblygu i ddeall y rhan fwyaf o sgyrsiau. Mae'r Gymraeg wedi bod yn ddefnyddiol ar gyfer fy ngwaith  bob dydd, ond mae hefyd wedi fy helpu i gysylltu â phobl a diwylliant, cwrdd â dysgwyr eraill, ymuno â digwyddiadau lleol ac ar-lein, a sgwrsio â siaradwyr Cymraeg. Mae'r iaith bellach yn rhan bwysig o fy mywyd."


Sam, Caerffili

Gwneud i'r Gymraeg weithio i chi

Gallai siarad hyd yn oed ychydig o Gymraeg arwain at fwy o gyfleoedd gwaith oherwydd:

  • Mae rhai swyddi a hysbysebir yng Nghymru yn aml yn gofyn am y Gymraeg fel sgil hanfodol neu ddymunol
  • Rhaid i bob sefydliad sector cyhoeddus yng Nghymru ddarparu gwasanaethau Cymraeg. Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn annog gweithwyr i ddysgu Cymraeg drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus
  • Bydd angen i bobl siarad neu fod yn barod i ddysgu lefel ‘cwrteisi’ sylfaenol o’r Gymraeg i gael swyddi gyda Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn annog pob aelod o staff i ddysgu drwy raglenni hyfforddi

Roedd y Gymraeg yn sgil gyffredin iawn a ofynnwyd amdani mewn dros 25,500 o hysbysebion swyddi yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf."

(Lightcast, Ebrill 2024 - Mawrth 2026)

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Poster Rhyddhau eich potensial gyda’r Gymraeg Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..

Cymorth i gyflogwyr

Mae rhai o'r ffyrdd y gall cyflogwyr gael mynediad at gymorth i'w gweithwyr sydd eisiau dysgu Cymraeg yn cynnwys:

  • Mae Gwasanaethau Cymraeg Gwaith yn helpu i feithrin sgiliau Cymraeg yn y gwaith gyda hyfforddiant hyblyg a ariennir yn llawn
  • Mae Helo Blod yn cynnig cyfieithu a chyngor Cymraeg am ddim i fusnesau
  • Mae’r Cynnig Cymraeg yn cydnabod sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau Cymraeg. Dysgwch fwy ar wefan Comisiynydd y Gymraeg

Gwyliwch y fideo

Cymraeg yn y gweithle

Gwyliwch y fideo i wybod mwy am y Gymraeg yn y gweithle a sut mae'n yn cael ei gweld fel sgil allweddol.


 

 

Dangos trawsgrifiad

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Chwilio am Gwrs

Defnyddiwch ein chwiliad cyrsiau i ddod o hyd i gwrs sy'n iawn i chi. Mae'n cynnwys cyrsiau rhan-amser, cyrsiau byrion a dysgu yn y gymuned. (Saesneg yn unig)

Dysgu o bell ac ar-lein

Dewch o hyd i ddarparwyr dysgu o bell ac ar-lein sy'n cynnig cyrsiau rhad ac am ddim a rhai y telir amdanynt. Gwybod am fanteision ac anfanteision astudio ar-lein a gweld ai dyma'r opsiwn iawn i chi.