Mae mwy nag un llwybr y gallai eich plentyn ei gymryd o'r ysgol i gyflogaeth. Bydd gwybod am y gwahanol lwybrau yn eich helpu i'w cefnogi ar eu taith i yrfa y byddant yn ei mwynhau.
Gyda llai na 5 TGAU gradd A* i C (neu gyfwerth) gallai'ch plentyn ystyried:
- Hyfforddiant Twf Swyddi Cymru+
- Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2)
- Coleg a 6ed dosbarth - cyrsiau galwedigaethol fel BTEC
- Cael Swydd
- Hunangyflogaeth
- Gwirfoddoli
Gydag o leiaf 5 TGAU gradd A* i C (neu gyfwerth) yn ychwanegol at yr opsiynau uchod, gallai eich plentyn hefyd ystyried:
- Coleg neu 6ed dosbarth - Safon Uwch, BTEC, cymwysterau Lefel 3 eraill
- Prentisiaeth (Lefel 3)
Gallai eich plentyn ystyried:
- Coleg - cyrsiau sylfaen, BTEC a chyrsiau galwedigaethol eraill
- Prifysgol - Addysg Uwch
- Dysgu o bell ac ar-lein
- Prentisiaeth uwch
- Prentisiaeth gradd
- Cael Swydd
- Hunangyflogaeth
- Blwyddyn i ffwrdd
- Gwirfoddoli
Rydym yma i helpu
Mae llawer o lwybrau posibl i yrfa lwyddiannus. Gallwn eich helpu chi a'ch plentyn i archwilio'r un gorau iddyn nhw.
Rydym yn cynnig cefnogaeth wyneb yn wyneb mewn canolfannau gyrfa, llyfrgelloedd, ysgolion, colegau a lleoliadau cymunedol.
Gallwn hefyd weithio gyda chi a'ch plentyn drwy sgwrs ar-lein, galwad fideo neu dros y ffôn.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Mynnwch awgrymiadau ar gyfer sgyrsiau gyrfa a syniadau gyrfa sy'n gysylltiedig â sgiliau, diddordebau a hoff bynciau eich plentyn.

Cyfle i gael awgrymiadau i gefnogi'ch plentyn i wneud penderfyniadau gyrfa da.

Dysgwch beth yw gwaith cynghorydd gyrfa, y gwahanol ffyrdd rydyn ni'n cefnogi'ch plentyn a'r manylion sydd gennym amdanynt.