Cymerwch olwg ar ein canllaw ar sut i gael prentisiaeth.
Dod o hyd i brentisiaethau gwag
Y prif lefydd i ddod o hyd i brentisiaethau gwag yw:
- Chwilio am Brentisiaethau
- Dod o hyd i gyflogwyr sy'n cynnig prentisiaethau ac ymweld â gwefannau cyflogwyr yn uniongyrchol i chwilio
- Prentisiaethau gradd a Prentisiaethau lefel uwch
- Gwefannau swyddi ar-lein
- Trwy ofyn i'ch cysylltiadau a rhwydweithio. Gallai hyn arwain at fwy o gyfleoedd i ddod o hyd i brentisiaethau
- Mynd i ddigwyddiadau'r cyflogwr a diwrnodau agored. Bydd rhai cyflogwyr yn cynnal eu diwrnodau agored recriwtio eu hunain
Beth sydd ei angen arnoch i wneud cais am brentisiaeth
Cyn i chi wneud cais bydd angen:
- CV wedi'i ysgrifennu'n dda neu ffurflen gais. Bydd eich cais am brentisiaeth yn un ymhlith llawer o rai eraill. Cyflwynwch y CV neu'r cais gorau posibl
- Y cyfarwyddiadau a’r wybodaeth am y broses ymgeisio am brentisiaeth (gallai hyn fod yn y disgrifiad swydd neu ar wefan y cwmni). Mae rhai cyflogwyr yn rhoi llawer o awgrymiadau a gwybodaeth i chi i'ch helpu i ysgrifennu eich CV neu gais
- E-bost neu lythyr cais. Mae hyn yn bwysig wrth i chi gyflwyno eich hun i'r cyflogwr mewn e-bost neu lythyr cais
Cysylltu â ni os hoffech gael rhywfaint o help gyda'ch CV, cais neu lythyr eglurhaol.
Paratoi ar gyfer cyfweliadau ac asesiadau
Byddwch yn barod am asesiadau a chyfweliadau:
- Os yw’r brentisiaeth yr ydych yn gwneud cais amdani yn cael ei hasesu, gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd rhai profion ymarfer. Gall y cyflogwr gynnig profion ymarfer neu awgrymiadau ar eu gwefan eu hunain
- Os cewch gynnig cyfweliad am brentisiaeth, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymarfer eich technegau cyfweld cyn y cyfweliad
Dod o hyd i brentisiaethau yng Nghymru
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Archwiliwch ein rhestr o gwmnïau mwy sy'n cynnig prentisiaethau yng Nghymru. Mae ystod eang o brentisiaethau gwag yn cael eu hysbysebu ar wahanol adegau o'r flwyddyn.
Defnyddiwch y dolenni i ddysgu am y cyfleoedd prentisiaeth a allai fod ar gael gan Ddarparwyr Hyfforddiant hyd a lled Cymru.
Mae prentisiaeth yn swydd lle rydych chi'n ennill cymwysterau cydnabyddedig tra byddwch chi'n gweithio. Dysgwch am gymhwysedd, cyflog, gwybodaeth am hyfforddiant a'r amrywiaeth o brentisiaethau sydd ar gael.
Cymorth i gynllunio eich gyrfa. Eich syniadau a'ch dewisiadau chi.
Dysgwch am y cymorth sydd ar gael i'ch helpu chi i gael gwaith os ydych chi’n anabl neu os oes gennych chi gyflwr iechyd.