Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Meddwl am adael cwrs? Tri chwestiwn allweddol i'w gofyn

Efallai dy fod yn cael amheuon am dy cwrs/pwnc ac efallai dy fod yn ystyried gadael dy fan astudio. Y peth pwysig yw peidio â rhuthro i benderfyniad y gallet ti ei ddifaru yn hwyrach.

Edrycha ar 3 chwestiwn allweddol y dylet ti fod yn eu gofyn i ti dy hun cyn i ti wneud unrhyw benderfyniadau.

1.    Pam ydw i'n cael amheuon am y cwrs?

Gall dod o hyd i’r prif reswm pam wyt ti'n cael amheuon dy helpu i ddod o hyd i ateb. Edrycha ar y rhesymau cyffredin dros feddwl am adael cwrs:

Mae fy syniad am yrfa wedi newid

Efallai bod dy syniad am yrfa wedi newid am dy fod wedi gweld nad yw'r cwrs yn addas i ti neu am dy fod wedi meddwl am syniad gyrfa newydd. Rho amser i dy hun i ystyried pob opsiwn gyrfa cyn gwneud penderfyniad. Dylet ti:

  • Roi cynnig ar y Cwis Paru Gyrfa i baru dy sgiliau a dy ddiddordebau â syniadau gyrfa. Gall hyn roi mwy o syniadau gyrfa i ti
  • Edrych ar Wybodaeth am Swyddi i ddysgu pa gymwysterau sydd eu hangen arnat ar gyfer dy syniad gyrfa newydd. Efallai y bydd y cwrs rwyt ti’n ei ddilyn yn dal i adael i ti ddilyn llwybr gyrfa newydd
Mae'r cwrs yn rhy hawdd

Os yw'r gwaith yn rhy hawdd, dylet siarad â'th Athro, Tiwtor neu Darlithydd yn gyntaf. Dyweda wrthyn nhw sut wyt ti'n teimlo. Efallai eu bod am weld y math o waith rwyt ti'n ei wneud cyn rhoi gwaith mwy heriol i ti.  Efallai y gelli di symud i gwrs lefel uwch lle bo'n berthnasol neu gael tasgau ychwanegol, mwy heriol.

Mae'r cwrs yn rhy anodd i fi

Siarada gyda dy Tiwtor, Athro neu Ddarlithydd. Mae nhw yna i dy gefnogi ac am sicrhau dy fod yn llwyddo ar eu cwrs. Byddan nhw'n gallu cynnig cefnogaeth i ti ddeall y gwaith neu feddwl am opsiynau eraill i'th helpu.

Mae'n bosibl y gelli di ostwng lefel neu gymryd llai o fodiwlau neu bynciau. Cofia, os byddi di'n cymryd llai o fodiwlau neu bynciau ac yn mynd yn rhan amser, gallai hyn effeithio ar unrhyw gyllid rwyt ti’n ei dderbyn. Edrych ar Cyllido eich astudiaethau am fwy o wybodaeth.

Dydw i ddim yn setlo yn yr Ysgol/Coleg/Prifysgol

Mae yna wahanol resymau pam nad yw pobl bob amser yn setlo mewn amgylchedd newydd sef:

  • Bod campws yr ysgol, coleg neu brifysgol yn rhy fawr neu'n rhy fach
  • Pryderon am arian neu bryderon iechyd meddwl
  • Ddim yn mwynhau’r cwrs
  • Sylweddoli bod yr amgylchedd newydd ddim yn addas 
  • Ddim yn cyd-dynnu ag eraill ar y cwrs

Gall teimlo'n ansefydlog mewn amgylchedd newydd wneud i ti deimlo'n anhapus. Ond mae 'na ffyrdd o wella dy sefyllfa. Dylet ti:

  • Roi amser i ti dy hun. Mae hon yn bennod newydd yn dy fywyd a bydd gennyt lawer ar dy feddwl felly rho amser i ti dy hun i addasu
  • Gofio pam ddewisaist ti'r cwrs yn yn lle cyntaf. Bydd hyn yn dy helpu i ganolbwyntio ar dy nod a'th nod terfynol, boed hynny’n symud ymlaen i addysg bellach neu uwch neu yrfa benodol
  • Restru manteision ac anfanteision. Meddylia sut bydd aros ar y cwrs neu adael y cwrs yn effeithio arnat ti. Ystyria beth fyddet ti'n ei wneud pe baet yn gadael. Cofia, ar gyfer rhai gyrfaoedd mae mwy nag un ffordd o gymhwyso. Ymchwilia i dy syniadau gyrfa a ffyrdd o gymhwyso ar Wybodaeth am Swyddi 
  • Ystyried bob opsiwn. Os nad wyt ti’n meddwl dy fod yn y lle iawn, hola beth yw dy opsiynau eraill cyn i ti wneud dy benderfyniad terfynol. Gallet ti ystyried:

Os wyt ti yn y brifysgol ac yn ansicr os wyt ti’n dilyn y cwrs cywir. Edrycha ar Changing or leaving your course ar ucas.com (dolen Saesneg).
 

Rwy'n poeni am gyllid a chost astudio

Mae'n naturiol i boeni am gost addysg. Ond mae'n bwysig cofio bod cymorth ariannol ar gael i fyfyrwyr. Fe ddylet:

Gallet ystyried swydd ran amser i helpu ariannu dy gyfnod mewn addysg. Ond gwna’n siŵr nad wyt ti’n aberthu dy waith cwrs. Bydd angen i ti sicrhau bod gennyt amser i astudio ac adolygu ar gyfer yr arholiadau. Edrych ar Cael Swydd am gyngor a chymorth i ddod o hyd i waith.

Dwi’n delio gyda materion personol

Mae gan lawer o bobl faterion personol sydd weithiau’n gallu effeithio ar sut a ble mae nhw'n astudio. Gall faterion personol olygu rhesymau iechyd, cyfrifoldebau gofalu neu ddyletswydd teuluol. Beth bynnag y rhesymau dylet wybod y gall dy ysgol, coleg a dy brifysgol gynnig cymorth i ti.

Siarada gyda’r ysgol, coleg neu'r brifysgol am yr hyn sy'n digwydd, gallant ond dechrau dy helpu pan fyddant yn gwybod beth wyt ti’n ei wynebu. Gan ddibynnu ar dy amgylchiadau a pholisïau’r sefydliadau addysg efallai y byddant yn gallu:

  • Caniatau amser ychwanegol i ti gwblhau a chyflwyno gwaith
  • Cynnig cyfle i gymryd blwyddyn allan a dychwelyd y flwyddyn ganlynol

2. Beth yw fy opsiynau?

Gallet wneud penderfyniadau gwell pan fyddi di'n gwybod beth yw’r holl opsiynau. Bydd yn hyderus dy fod yn gwneud y penderfyniadau cywir drwy ymchwilio'n llawn i dy syniadau. Edrycha ar y dewisiadau sydd ar gael i ti:

Opsiynau yn 18

Cewch wybod pa ddewisiadau gyrfa sydd gennych ar ôl ichi adael yr ysgol neu'r coleg.


3. Pwy all fy nghefnogi gyda fy nghamau nesaf?

Gyrfa Cymru

Gallwn drafod dy opsiynau gyda ti a'th gefnogi gyda chymryd y cam nesaf. Cysyllta â ni i drafod dy opsiynau gyda Chynghorydd Gyrfa.

Dy ysgol, coleg neu brifysgol

Siarada gyda dy Athro, Tiwtor neu Ddarlithydd am sut wyt ti’n teimlo. Mae nhw am i ti lwyddo felly mae'n gwneud synnwyr i siarad â nhw. Gallet ti siarad â nhw os wyt ti'n ystyried:

  • Newid cwrs
  • Gadael ysgol/coleg/prifysgol

Gall Gwasanaethau Myfyrwyr mewn coleg a phrifysgol a chymorth bugeiliol yn yr ysgol dy gefnogi hefyd gydag unrhyw faterion personol.

Os nad wyt ti'n siŵr beth i ddweud, ceisia ysgrifennu neu gofnodi'r cwestiynau sydd gennyt, a sut wyt ti'n teimlo, i wneud yn siwr dy fod yn barod a ddim yn anghofio unrhyw beth.

Sefydliadau cymorth eraill

Gallet ti hefyd gysylltu a sefydliadau sy'n gallu helpu, fel:

  • Meic - Llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc
  • Samariaid – sy’n darparu cymorth emosiynol i unrhyw un sy’n profi gofid emosiynol (dolen Saesneg) 

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Gwneud cais i'r brifysgol

Beth sydd angen ichi ei wybod am wneud cais i brifysgol, dyddiadau cau, y cais, profion derbyn a rhagor. 

Cyllid ar gyfer prifysgol

Cyllid prifysgol, gan gynnwys benthyciadau a grantiau Cyllid Myfyrwyr Cymru am ffioedd dysgu a chostau byw, sut mae ymgeisio ac ad-dalu. 


Cefnogaeth i rieni