Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Mae fy mhlentyn yn yr ysgol

Bydd angen i'ch plentyn wneud penderfyniadau am eu dysgu a'u camau nesaf. Mae ein Cynghorwyr Gyrfa ar gael i'w helpu nhw.

Mae gan Gyrfa Cymru Gynghorwyr Gyrfa sy'n gysylltiedig â phob ysgol brif ffrwd a phob ysgol arbennig a gynhelir. Rydym hefyd yn gysylltiedig â lleoedd a fynychir gan bobl ifanc sy'n cael eu haddysgu mewn man arall. Bydd Cynghorwyr Gyrfa hefyd yn mynd i unrhyw ddigwyddiadau ysgol fel nosweithiau rhieni a nosweithiau agored.

Sut gall Gyrfa Cymru helpu

Mae ein Cynghorwyr Gyrfa yno i'ch cefnogi chi a'ch plentyn. Gallan nhw wneud hyn drwy:

Gynnig cyfweliad gyrfaoedd

Bydd eich plentyn yn cael cynnig cyfweliad gyrfa. Nid oes rhaid iddyn nhw fynd, ond dylid eu hannog.

Gall cynghorwyr gefnogi pobl ifanc ag anghenion ychwanegol i wneud ceisiadau a, lle bo angen, gallan nhw nodi anghenion cymorth parhaus ac eirioli ar ran eich plentyn.

Byddan nhw’n siarad â'ch plentyn am:

  • Eu sgiliau a'u cryfderau
  • Yr opsiynau sydd ar gael iddyn nhw
  • Eu syniadau gyrfa
  • Sut y gallan nhw eu helpu i gynllunio eu camau nesaf ar ôl yr ysgol

Bydd cyfweliad gyrfaoedd hefyd yn helpu'ch plentyn gyda:

  • Chymhelliant - helpu'ch plentyn i baratoi ar gyfer newid a mynd i'r afael ag unrhyw rwystrau posibl
  • Gwneud penderfyniadau - cefnogi'ch plentyn i wneud penderfyniadau gwybodus
  • Hunan ymwybyddiaeth - datblygu ymwybyddiaeth eich plentyn o'u diddordebau, eu hanghenion a'u galluoedd
  • Ymwybyddiaeth o gyfle - datblygu gwybodaeth eich plentyn am y farchnad lafur
  • Ceisiadau - helpu'ch plentyn i weithredu
  • Cydnerthedd - cefnogaeth i reoli anawsterau a delio â chyfnodau pontio

Edrychwch ar Cyfarfod Cynghorydd Gyrfa gyda'ch plentyn i'w helpu nhw i baratoi'n well ar gyfer cyfweliad.

Mynychu cyfarfodydd cynllunio pontio

Gall Cynghorwyr Gyrfa fynychu cyfarfodydd cynllunio pontio i drafod Cynllun Datblygu Unigol eich plentyn neu eu Datganiad  Anghenion Addysgol Arbennig. Gallan nhw amlinellu opsiynau a chefnogi eich plentyn gyda'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Dysgwch fwy am y Cynllun Datblygu Unigol a sut y gallwch baratoi ar gyfer yr adolygiad yn Adolygiad Cynllun Datblygu Unigol.

Sut alla i gefnogi fy mhlentyn?

Mynd i gyfarfodydd adolygu a nosweithiau rhieni

Edrychwch ar rai cwestiynau defnyddiol y gallech eu gofyn mewn cyfarfod i adolygu’r Cynllun Datblygu Unigol.

Mae mynd i'r cyfarfodydd hyn yn golygu y byddwch:

  • Yn meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf am y gefnogaeth a'r ddarpariaeth y mae eich plentyn yn ei dderbyn ar hyn o bryd
  • Yn ymwybodol o gynnydd eich plentyn yn yr ysgol ac a oes unrhyw bryderon
  • Yn gallu cefnogi'ch plentyn yn llawn gyda'u camau nesaf

Archwilio gyrfaoedd ac opsiynau

Ein prif gynghorion:

  • Gwnewch yn siŵr bod eich gwybodaeth yn gyfredol. Defnyddiwch Swyddi Dyfodol Cymru i ddysgu mwy am y farchnad swyddi, y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw a thueddiadau cyflogaeth
  • Anogwch eich plentyn i feddwl am yr holl opsiynau sydd ar gael. Edrychwch ar Gwybod beth yw eich opsiynau gyda'ch plentyn
  • Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwneud defnydd llawn o'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw. Edrychwch ar Pwy sy'n gallu fy helpu gyda'ch plentyn
  • Dangoswch sianel  YouTube Fy Nyfodol iddyn nhw er mwyn gwylio fideos am wahanol yrfaoedd ac opsiynau
  • Anogwch nhw i ddatblygu eu sgiliau drwy addysg, hobïau, profiad gwaith a swyddi rhan amser
  • Os ydyn nhw'n nerfus am ddod i gwrdd â Chynghorydd Gyrfa, gofynnwch iddyn nhw edrych ar Beth yw cyfweliad gyrfa? a gwylio’r fideo ar y dudalen

Gall ein hoffer eich helpu chi'ch dau i ddechrau meddwl am syniadau gyrfa. Ewch i:

Opsiynau ar ôl ysgol

Archwilio’r opsiynau sydd ar gael gyda'ch plentyn. Maen nhw’n cynnwys:


Efallai i chi hefyd hoffi