Esiampl CV - Jack
Mae’n ddefnyddiol pan ydych eisiau:
- Pwysleisio sgiliau a llwyddiannau perthnasol i’r swydd honno
- Mae gennych sgiliau trosglwyddadwy
- Eich bod yn gwneud cais am swydd sydd angen sgiliau technegol a phroffesiynol penodol iawn a chymwysterau sydd gennych
Jack Neill
5 Star Close, Trecastell, CT11 1QQ
Ffôn: 07777 777444
E-bost: jackneill @ examplemail.com
Proffil Personol
Llawer o hunan-gymhelliant gyda phrofiad helaeth o Reoli Ansawdd, Iechyd a Diogelwch a Rheolaeth. Sgiliau trefnu a rhyngbersonol ardderchog a’r gallu i ddylanwadu a chymell eraill. Aelod effeithiol o dîm sy’n gyflym i ddeall gwybodaeth newydd ac yn awyddus i gymryd her newydd.
Sgiliau Proffesiynol
Rheoli Ansawdd
- Hyddysg a phrofiadol mewn Rheoli Ansawdd ac Archwilio ac mewn amrywiaeth o amgylcheddau
- Sicrhau cydymffurfiaeth â phob safon ansawdd
- Gweithredu polisi gwelliant parhaus
- Ysgrifennu a pharatoi llawlyfrau gweithdrefnau
- Cynnal archwiliadau mewnol
- Treialu ac archwilio cynnyrch
Iechyd a Diogelwch
- Profiad fel Cynrychiolydd Iechyd a Diogelwch
- Sicrhau diogelwch cyffredinol staff
- Gwirio offer ac adeiladau gan sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau iechyd a diogelwch
- Cofnodi pob digwyddiad a damwain fel y digwyddant
- Asesu risg a chynnig datrysiadau ymarferol
Rheolaeth
- Goruchwylio a rheoli staff. Cyfweld, recriwtio a hyfforddi staff
- Cydlynu gydag adrannau eraill a chwsmeriaid allanol
- Sicrhau deunyddiau newydd a threfnu treialon ar y safle ac oddi ar y safle
- Rhoi gwybodaeth dechnegol i gwsmeriaid, myfyrwyr a sefydliadau ymchwil
- Cynllunio cynhyrchu, a sicrhau fod pob proses yn rhedeg yn llyfn
Hanes Cyflogaeth
Arolygydd Ansawdd, Savers, 2012-presennol
Technegydd Ansawdd, Conductors, 2009-2012
Rheolwr Ansawdd, Templates Cyf, 2004-2009
Llwyddiannau
- Datblygu proses lanhau newydd
- Rheoli cyllideb yr Adran Ansawdd yn effeithiol
- Gweithredu polisi gwelliant parhaus (TQM)
- Cyflwyno Rheoli Ansawdd (SPC) ar y safle
- Cyfrifol am gyflwyno gwelliannau parhaus i gynnyrch a phrosesau presennol
- Cynrychiolydd Iechyd a Diogelwch yr Adran Peirianneg Cynhyrchu
Addysg/Cymwysterau
HNC Rheolaeth Gwastraff, 2003-2004
BTEC Tystysgrif Genedlaethol, 2000-2003
C G Sicrwydd Ansawdd, 2002-2003
Cyrsiau Proffesiynol
Iechyd a Diogelwch: NEBOSH
Rheolaeth: Prince 2 Rheolaeth Prosiect
Hyfforddiant Cyfrifiadurol: Microsoft Word, Excel a Access
Ansawdd: Archwilio Mewnol
Diddordebau
DIY a pysgota.
Geirda
Ar gael ar gais.
Dogfennau
Gweld mwy

Sicrhewch fod eich CV cystal ag y gall fod. Cewch wybod beth i'w gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CV, a lawrlwytho ein Canllaw i lunio CV.

Mae'r CV hwn yn tynnu sylw at sgiliau, cryfderau a rhinweddau personol.

Mae’r CV yma’n rhoi sylw i hanes cyflogaeth a sgiliau, gan gychwyn gyda’r swydd ddiweddaraf.