Mae pandemig COVID-19 yn parhau i greu ansicrwydd ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020-21. Daliwch i wirio'r wybodaeth ddiweddaraf gan:
- Eich ysgol neu coleg
- Cymwysterau Cymru am ddiweddariad coronafeirws
- Cyllid Myfyrwyr Cymru
Rydych wedi dod i'r amser yn eich bywyd ysgol neu goleg lle rydych yn meddwl am eich camau nesaf a sut i wneud y penderfyniadau sy'n gywir i chi.
A ydych chi'n flwyddyn 11?
Efallai eich bod yn ystyried mynd i'r coleg, aros yn y 6ed dosbarth, dod o hyd i brentisiaeth neu hyfforddeiaeth, cael swydd neu ddechrau busnes eich hun.
A ydych chi'n flwyddyn 12/13 neu yn y coleg?
Efallai eich bod yn ystyried mynd i'r brifysgol, gwneud prentisiaeth, dilyn cwrs yn y coleg, ystyried hunangyflogaeth, cael swydd neu yn meddwl am gymryd blwyddyn i ffwrdd.
Rydym yma i helpu. Lle bynnag yr ydych arni, gallwn eich helpu i ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael i chi. Byddwn yn eich helpu i Symud Ymlaen, Symud i Fyny!
Edrychwch ar yr opsiynau sydd ar gael
Gweld y fideos ac archwilio eich opsiynau

Edrychwch ar yr hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdano mewn ymgeiswyr, a chael syniadau ar sut i gael swydd.

Dysgwch fwy am beth yw prentisiaeth a sut i ddod o hyd i brentisiaethau.

A oes gennych chi'r rhinweddau i reoli eich hun?

Dewch i wybod mwy am yr hyn sy'n gysylltiedig â blwyddyn i ffwrdd a phethau i'w hystyried.
Archwilio eich syniadau gyrfa
Siarad gyda chynghorydd am eich opsiynau
Mae'n bwysig eich bod yn cael yr holl wybodaeth a'r gefnogaeth sydd ar gael i wneud y dewis cywir.