Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Opsiynau i raddedigion

Rydych chi wedi pasio eich gradd – beth nesaf?

Mynnwch help i benderfynu beth i'w wneud ar ôl i chi raddio trwy archwilio'r opsiynau. Dewch o hyd i gyngor ymarferol a chysylltiadau defnyddiol i'ch cefnogi yn eich camau gyrfa nesaf.

Cyflogaeth

Gwefannau swyddi

Chwiliwch am swyddi ar wefannau swyddi penodol i raddedigion. Defnyddiwch ein rhestr o wefannau swyddi cyffredin a, dewch o hyd i ba gyflogwyr sy'n recriwtio nawr.

Gwefannau swyddi i raddedigion

Gweld ein rhestr o wefannau swyddi i raddedigion. Cael mynediad at gynlluniau recriwtio graddedigion a chyfleoedd profiad gwaith.

Gwefannau Swyddi

Defnyddiwch ein rhestr o wefannau swyddi poblogaidd i'ch helpu i chwilio am swydd.

Cyflogwyr yn recriwtio nawr

Canfod cyflogwyr sy’n recriwtio nawr.  Dechreuwch ymchwilio am swydd yma.

Cymorth i ymgeisio am swyddi

Byddwch yn wynebu cystadleuaeth pan fyddwch yn gwneud cais am swyddi i raddedigion a swyddi cyffredinol. Nid yw ennill gradd yn llwybr awtomatig i gael swydd.

Mae'n bwysig eich bod yn ymdrechu i greu CV neu gais cryf a pharatoi'n dda ar gyfer cyfweliadau.

Dewch o hyd i gyngor ymarferol, awgrymiadau a help ar:

Hunangyflogaeth

Efallai bod gennych chi syniad gwych, neu rydych chi'n hoffi'r hyblygrwydd y gall hunangyflogaeth ei gynnig.

Dysgwch a allai hunangyflogaeth fod yn opsiwn addas i chi:

Astudiaeth Ôl-raddedig

Ydych chi eisiau mynd â'ch astudiaethau ymhellach? Efallai y byddwch yn ystyried gradd Meistr, Doethuriaeth, diploma ôl-raddedig, neu gymwysterau proffesiynol. Gallech astudio llawn amser neu ran-amser gan gyfuno astudio â chyflogaeth.

Chwilio am gyrsiau Ôl-raddedig

Chwilio am gyrsiau ôl-raddedig drwy ddefnyddio UCAS (Dolen Saesneg yn unig).

Cyn mynd ymlaen i astudiaeth bellach:

  • Dysgwch a fydd astudio ôl-raddedig yn gwella eich rhagolygon gwaith. Defnyddiwch gwybodaeth am swyddi i ddysgu mwy am ofynion mynediad ar gyfer swyddi, ac archwiliwch wefannau swyddi i nodi swyddi sy'n gofyn am gymwysterau ôl-raddedig
  • Myfyriwch a oes gennych y cymhelliant i wneud astudiaeth bellach
  • Ystyriwch oblygiadau ariannol gwneud astudiaethau pellach

Cyllid ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig

Archwiliwch yr opsiynau cyllido sydd ar gael ar gyfer amrywiaeth o gyrsiau gwahanol yng Nghymru. Mae rhywfaint o gyllid yn benodol ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig yn y brifysgol, a gall cyllid arall gefnogi gyda chymwysterau proffesiynol, neu astudiaeth gyffredinol arall.

Cyllid ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig

Dewch o hyd i’r cymorth ariannol a allai fod ar gael i chi ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig mewn prifysgolion, gan gynnwys cyrsiau meistr a doethuriaeth.

Cyfrifon Dysgu Personol

Bydd Cyfrif Dysgu Personol yn eich galluogi i astudio cyrsiau rhan-amser hyblyg wedi'u hariannu'n llawn o gylch eich cyfrifoldebau presennol.

ReAct+

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi’u teilwra a allai gynnwys cymorth ariannol, hyfforddiant sgiliau a Chymorth Datblygu Personol er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r pethau sy'n eich rhwystro rhag cael swydd.

Cynyddwch eich profiad gwaith a bywyd

Gall cymryd blwyddyn allan, gwirfoddoli, neu wneud interniaeth wella eich cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol. Rydych chi'n ennill sgiliau newydd. Gall cyflogwyr weld eich sgiliau a'ch cymhelliant. Gall y profiadau hyn hefyd eich helpu i ganolbwyntio ar ba yrfaoedd y mae gennych ddiddordeb ynddynt.

Archwiliwch rai o'r opsiynau.

Blwyddyn i ffwrdd

Cewch wybod a ydy blwyddyn i ffwrdd yn addas i chi, a gweld ein rhestr o bethau i'w hystyried. Darllenwch enghreifftiau o sut mae treulio blwyddyn i ffwrdd. 

Gwirfoddoli

Gweld sut y gall gwirfoddoli gynyddu eich sgiliau, profiad a chyfleoedd gwaith tra rydych chi’n helpu eraill. 

Interniaethau

Math o brofiad gwaith yw interniaethau i fyfyrwyr yn y brifysgol neu raddedigion. Maen nhw'n ffordd wych o gael profiad sy'n berthnasol i'ch gradd.


Rhoi cynnig ar gwisiau gyrfa a phersonoliaeth

Os nad ydych chi'n siŵr pa yrfaoedd sy'n gweddu i'ch sgiliau a'ch cryfderau, rhowch gynnig ar y Cwis Paru Gyrfa a’r Cwis Buzz.