Beth nesaf ar ôl eich gradd. Archwilio eich opsiynau, dod o hyd i gyngor ymarferol a dolenni defnyddiol i'ch cefnogi gyda'ch camau nesaf.
Cyflogaeth
Dod o hyd i swyddi
Gallai safleoedd swyddi i raddedigion fod yn fan cychwyn da ond cofiwch y gellir hysbysebu cyfleoedd i raddedigion mewn mannau eraill hefyd.
Gweld ein rhestr o wefannau swyddi i raddedigion. Cael mynediad at gynlluniau recriwtio graddedigion a chyfleoedd profiad gwaith.
Defnyddiwch ein rhestr o wefannau swyddi poblogaidd i'ch helpu i chwilio am swydd.
Canfod cyflogwyr sy’n recriwtio nawr. Dechreuwch ymchwilio am swydd yma.
Darganfyddwch sut i ddefnyddio Facebook, X, TikTok a LinkedIn i ddod o hyd i swyddi yn eich ardal chi.
Darganfyddwch 6 ffordd i ddod o hyd i swyddi ar-lein
Cyngor i ddod o hyd i swyddi, a gwneud cais am swyddi sydd heb eu hysbysebu.
Gwneud cais am swyddi
Byddwch yn wynebu cystadleuaeth pan fyddwch yn gwneud cais am unrhyw swydd mae'n bwysig gwybod beth yw’ch sgiliau a'ch cryfderau a'r hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdano mewn ymgeiswyr.
Bydd cymorth cyflogaeth ar gael i'ch helpu i gael gwaith os ydych yn anabl neu os oes gennych gyflwr iechyd.
Ydych chi'n meddwl tybed 'pa sgiliau sydd gen i?' neu 'beth yw fy nghryfderau?' Yma few gewch gyngor i'ch helpu i wybod mwy.
Dysgu am y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw i wella'ch siawns o gael swydd.
Dod o hyd i ffyrdd gwahanol o ddatblygu eich sgiliau a'ch cryfderau.
Mae'n bwysig creu CV neu gais effeithiol. Bydd hyn yn eich helpu i baratoi'n dda ar gyfer cyfweliadau.
Dod o hyd i awgrymiadau ar gyfer:
- Creu CV
- Ysgrifennu cais
- Ysgrifennu datganiad personol
- Llythyrau cais ac e-byst
- Paratoi ar gyfer asesiadau a gwneud profion ymarfer
- Technegau cyfweliad
Hunangyflogaeth
Efallai bod syniad gwych gennych chi neu efallai eich bod chi’n hoffi’r hyblygrwydd y gall hunangyflogaeth ei gynnig.
Dysgwch fwy am hunangyflogaeth:
- Y camau cyntaf i hunangyflogaeth - edrychwch i weld a allai hunangyflogaeth fod yn iawn i chi a ble i gael mwy o wybodaeth
- Syniadau Mawr Cymru - cymorth i hunangyflogaeth os ydych chi'n 25 oed neu iau
Astudiaeth ôl-raddedig
Efallai y byddwch yn ystyried gradd Meistr, PhD, diploma ôl-raddedig, neu cymwysterau proffesiynol. Gallech chi astudio’n llawn amser neu’n rhan amser drwy astudio a gweithio ar yr un pryd.
Chwilio am gyrsiau ôl-raddedig drwy ddefnyddio UCAS (Dolen Saesneg yn unig).
Cyn mynd ymlaen i astudiaeth bellach:
- Dysgwch a fydd astudio ôl-raddedig yn gwella eich rhagolygon gwaith. Defnyddiwch gwybodaeth am swyddi i ddysgu mwy am ofynion mynediad ar gyfer swyddi. Archwiliwch wefannau swyddi i nodi swyddi sy'n gofyn am gymwysterau ôl-raddedig
- Myfyriwch a oes gennych y cymhelliant i wneud astudiaeth bellach
- Ystyriwch oblygiadau ariannol gwneud astudiaethau pellach
Cyllid i fyfyrwyr ôl-raddedig
Archwiliwch yr opsiynau cyllido sydd ar gael ar gyfer ystod o wahanol gyrsiau yng Nghymru. Mae peth cyllid yn benodol ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig yn y brifysgol, a gall cyllid arall gefnogi gyda chymwysterau proffesiynol, neu astudiaeth gyffredinol arall.
Dewch o hyd i’r cymorth ariannol a allai fod ar gael i chi ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig mewn prifysgolion, gan gynnwys cyrsiau meistr a doethuriaeth.
Bydd Cyfrif Dysgu Personol yn eich galluogi i astudio cyrsiau rhan-amser hyblyg wedi'u hariannu'n llawn o gylch eich cyfrifoldebau presennol.
Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.
Profiad gwaith a bywyd
Gall cymryd blwyddyn allan, gwirfoddoli, neu wneud interniaeth wella eich cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol. Byddwch yn ennill sgiliau newydd, sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr. Gall y profiadau hyn hefyd eich helpu i ganolbwyntio ar ba yrfaoedd y mae gennych ddiddordeb ynddynt.
Cewch wybod a ydy blwyddyn i ffwrdd yn addas i chi, a gweld ein rhestr o bethau i'w hystyried. Darllenwch enghreifftiau o sut mae treulio blwyddyn i ffwrdd.
Gweld sut y gall gwirfoddoli gynyddu eich sgiliau, profiad a chyfleoedd gwaith tra rydych chi’n helpu eraill.
Math o brofiad gwaith yw interniaethau i fyfyrwyr yn y brifysgol neu raddedigion. Maen nhw'n ffordd wych o gael profiad sy'n berthnasol i'ch gradd.
Rhowch gynnig ar ein cwisiau
Os nad ydych chi'n siŵr pa yrfaoedd sy'n gweddu i'ch sgiliau a'ch cryfderau, rhowch gynnig ar y Cwis Paru Gyrfa a’r Cwis Buzz.