Cymerwch olwg ar rai straeon llwyddiant go iawn.
Cefnogaeth i mewn i addysg, hyfforddiant a chyflogaeth
Darllenwch ein straeon go iawn am gael cyngor a chefnogaeth i ddod o hyd i’r cyfleoedd cywir.

Abby's careers adviser helped her find her path to working with animals.

Roedd cymorth pwrpasol wedi galluogi Frankie i ddechrau ei gyrfa ddelfrydol.

Doedd gan Amelia ddim syniad beth roedd hi eisiau ei wneud ar ôl iddi adael yr ysgol, ond fe wnaeth cymorth gyrfaoedd ei helpu i fynd i goleg milwrol.

Fe wnaeth cynghorydd gyrfa Jack ei helpu i wneud cais am gwrs mecaneg yn y coleg.

Helpodd cynghorydd gyrfaoedd Josh ef i wneud cais am brentisiaeth a dechrau ei yrfa mewn peirianneg.

Cafodd Gabrielle ei hysbrydoli ar ôl i ddiagnosis prin atal ei chynlluniau gyrfa.

Yn dilyn cymorth gan gynghorydd gyrfa, mae Olivia yn ffynnu mewn prentisiaeth peirianneg.

Rhoddodd cyngor gyrfa hyder i Taylor-Ann wneud cais am ei chwrs coleg delfrydol ar ôl iddi adael yr ysgol o ganlyniad i fwlio.

Daeth Connor o hyd i’w brentisiaeth ddelfrydol gyda chwmni lleol ar ôl mynychu digwyddiad yn ei ysgol.

Ar ôl cael addysg yn anodd, cafodd Ffion lwyddiant pan wnaeth ei chynghorydd gyrfa ei helpu i ddod o hyd i leoliad gwaith.

Fe wnaeth Alex, sy’n 17 oed, oresgyn gorbryder i barhau â’i gynlluniau gyrfa.

Roedd cael cyngor yn help i Samiha gyda’i gyrfa.

Mae Will o Gaerdydd, sy’n 19 oed, yn rhannu ei stori i ddangos nad yw ei fyddardod wedi’i atal rhag mynd ar drywydd ei uchelgias i ddilyn gyrfa ym maes meddygaeth.

Roedd cael cyngor yn help i Tobi symud ymlaen a symud i fyny gyda’i gynlluniau gyrfa.

Llwyddodd Taylor i gael prentisiaeth peirianneg gyda Wales & West Utilities oherwydd ei hoffter o bynciau STEM.
Cymraeg yn y gweithle
Darllenwch ein straeon am fanteision dysgu a defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.

Mae James yn un o'n Cynghorwyr Gyrfa. Dewch i wybod beth yw prif awgrymiadau James i ddysgu Cymraeg.

Mae Lauren yn Gynghorydd Gyrfa sy'n dysgu Cymraeg. Dewch i wybod sut mae hi'n cael 'mlaen.

Mae Luisa yn Gydlynydd Dysgu a Datblygu gyda Gyrfa Cymru. Dewch i wybod prif awgrymiadau Luisa i ddysgu'r Gymraeg.

Mae Nathalie yn rhannu ei phrofiadau o ddysgu Cymraeg a'i hawgrymiadau ar gyfer dysgwyr eraill.

Darganfyddwch sut a pham mae’r Gymraeg yn bwysig i fusnes, cymuned a chwsmeriaid Dewi.
Cyflogwyr
Darganfyddwch sut mae cyflogwyr yn ymwneud ag ysgolion ac yn cefnogi myfyrwyr i ddarganfod mwy am fyd gwaith.

Mae BBC Studios a BBC Cymru Wales wedi bod yn gweithio gydag Ysgol Uwchradd Willows yng Nghaerdydd ers pedair blynedd. Maent yn bartner gwerthfawr ysgol ac yn trefnu gwahanol weithgareddau ar gyfer disgyblion.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithio ledled Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Maent yn ysbrydoli pobl ifanc i archwilio cyfleoedd ym maes gofal iechyd a’r GIG.

Mae Canolfan S4C Yr Egin yn ganolfan greadigol a digidol yn Sir Gaerfyrddin. Maent yn hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, ac yn amlygu’r ffaith ei bod yn sgìl gwerthfawr i gyflogwyr.

Catrin Leader yw Arweinydd Addysg Bute Energy. Mae hi wedi cefnogi llawer o ysgolion ar draws Powys a de Cymru.

Wrth reoli ei busnes bach, mae Rosie yn cefnogi ysgolion ac yn hyrwyddo pa mor bwysig yw rhoi yn ôl i’r gymuned.

Mae Gwenno Williams yn gweithio i Gyngor Sir Gwynedd. Mae hi’n frwd dros hyrwyddo gyrfaoedd yn y sector gofal cymdeithasol.

Mae Morlais yn brosiect ynni adnewyddadwy sy’n canolbwyntio ar ynni’r llanw. Maent yn gweithio gydag ysgolion i dynnu sylw dysgwyr at swyddi a chyfleoedd i bobl leol.

Fel cefnogwr Cymru sero net, mae Viridor wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi gweithlu’r dyfodol.

Cwmni gwresogi a phlymio ym Mhontardawe yw Westward Energy Services. Maen nhw wedi cefnogi pobl ifanc trwy brofiad gwaith, gan gynnig sgiliau gwaith defnyddiol.
Straeon go iawn ar wefan Cymru’n Gweithio
Cymerwch olwg ar ragor o straeon go iawn ar wefan Cymru'n Gweithio: