Fel cefnogwr Cymru sero net, mae Viridor wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi gweithlu’r dyfodol.
Mae Viridor yn dargyfeirio o leiaf 95% o wastraff gweddilliol De Cymru o safleoedd tirlenwi. Mae’r cwmni hefyd yn cynhyrchu trydan ar gyfer y Grid Cenedlaethol. Maent hefyd yn gwaredu deunyddiau crai o ansawdd uchel, sydd, yn eu tro, yn cael eu hailgylchu.
Gweithio gydag ysgolion
Eamonn Scullion yw swyddog canolfan ymwelwyr a buddion cymunedol Viridor. Mae’n siarad ag ysgolion am effaith tirlenwi. Mae ei sgyrsiau yn annog pwysigrwydd lleihau gwastraff, ailddefnyddio ac ailgylchu.
Mae Viridor wedi cynorthwyo 46 o ddigwyddiadau mewn 30 o ysgolion ledled Cymru yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Mae’r gweithgareddau hyn yn rhoi gwybodaeth i ddisgyblion am yrfaoedd a phrentisiaethau yn yr economi sero net.
Mae’r gweithgareddau y mae Eamonn wedi’u cyflawni yn cynnwys y canlynol:
- Digwyddiadau Gyrfa Cymru fel y Ffair Brentisiaethau a Dewiswch Eich Dyfodol
- Gweithio gyda phwyllgor eco ysgol
- Ymweliadau â safle ar gyfer profiadau byd gwaith – gan gynnwys ymweliadau gan unedau cyfeirio disgyblion ac ysgolion arbennig
- Cynorthwyo digwyddiadau fel diwrnodau peirianneg mewn ysgolion
- Siarad â disgyblion Blwyddyn 8 cyn dewis eu pynciau TGAU
- Cynnal sgwrs ysgogiadol â disgyblion Blwyddyn 10
- Siarad â disgyblion Blwyddyn 12 am fanteision prentisiaethau
Mathau eraill o gefnogaeth
Mae Eamonn hefyd yn gweithio mewn ysgolion cynradd. Mae’n cynorthwyo ysgol gynradd yn y Barri sy’n cymryd rhan yng Ngwobr Ansawdd Gyrfa Cymru.
Yn ystod yr ymweliad ag Ysgol Gynradd High Street, soniodd am brosiect y gallent ei roi ar waith. Nod y prosiect fyddai eu gwneud yn fwy ymwybodol o’r gwastraff y maen nhw’n ei gynhyrchu, a’u haddysgu am sut i leihau, ailgylchu ac ailddefnyddio. Byddai’r prosiect yn gorffen ag ymweliad â’u safle o’r radd flaenaf ym Mae Caerdydd.
Ennill Gwobr
Ym mis Ionawr 2025, enillodd Viridor y Wobr Partner Gwerthfawr am Gefnogwr Gorau’r Agenda Sero Net.
“Mae’n anrhydedd mawr i ni ennill y wobr hon heddiw. Mae’n fraint gweithio gyda phobl ifanc, ac yn bwysicaf oll, dangos iddyn nhw sut beth yw llenwi’r bwlch rhwng yr hyn y maen nhw am ei wneud a’i gyflawni.
Mae hefyd yn ymwneud â dangos iddyn nhw fod Cymru yn le lle gall eu dyfodol ddigwydd. Mae yna lawer o gyfleoedd ar gael yn yr ardal leol.”
Eamonn Scullion, Swyddog Canolfan Ymwelwyr a Buddion Cymunedol Viridor
Archwilio

Gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru fe allwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc, a chael budd i'ch busnes.

Dysgwch sut y gallwn eich cefnogi i weithio gydag ysgolion er budd dysgwyr a'ch sefydliad.

Mae’r Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr yn ffordd i Gyrfa Cymru gydnabod a diolch i’r busnesau a fu’n gweithio gyda ni ac yn rhan hanfodol o gefnogi ysgolion a phobl ifanc i ymgysylltu â’r byd gwaith.