Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Anik

Anik Cartwright, Peiriannydd Gwasanaeth Maes yn SPTS

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg, dyma stori Anik Cartwright sy’n dangos sut mae’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr benywaidd.

“Rwy’n gweithio i SPTS Technologies fel Peiriannydd Gwasanaeth Maes. Mae ein pencadlys yng Nghasnewydd. Rydym yn gweithgynhyrchu cyfarpar a ddefnyddir i droi haenellau lled-ddargludo yn sglodion. Fy swydd yw gosod, cynnal ac atgyweirio cyfarpar SPTS ar safleoedd ledled Gogledd Ewrop.” 

Gweithio gydag ysgolion 

“Dros y 5 mlynedd diwethaf rwyf wedi cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau gydag ysgolion ac rwyf wedi mynychu ffeiriau gyrfaoedd prysur. Rwyf wedi cynnal teithiau o amgylch safle SPTS, gan gynnwys diwrnodau STEM a diwrnodau “dod â’ch plentyn i’r gwaith” ac wedi bod yn rhan o’r broses o gynnal arbrofion siambr wactod gyda phobl ifanc.”

“Rwyf wedi cael sgwrs â sawl person ifanc am fy ngwaith fel peiriannydd ac rwyf wedi rhannu fy llwybr gyrfa gyda’r gobaith y byddant yn ystyried peirianneg fel gyrfa yn y dyfodol.”

“Credaf yn gryf y dylai peirianwyr benywaidd weithio gydag ysgolion fel bod pobl ifanc yn gallu gweld nad yw’r swyddi yn rhai ar gyfer dynion yn unig. Rwy’n Llysgennad STEM ers dechrau 2019 er mwyn rhannu’r neges hon.” 

“Mae’n beth da bod menywod ifanc yn gallu gweld ei bod yn bosibl dal swyddi cyfartal mewn diwydiant sy’n cael ei weld fel un i ddynion yn bennaf. Mae hefyd yn creu meddylfryd i bawb nad dim ond cymryd rhan ym maes peirianneg y mae merched ond y gallant hefyd gael swyddi llwyddiannus sy’n talu’n dda.”

Cyngor i beirianwyr benywaidd y dyfodol 

“Peidiwch â bod yn elyn pennaf chi eich hun. Fel menywod, rydym yn rhoi gormod o bwysau a straen arnom ni ein hunain i brofi ein gallu pan fyddwn eisoes yn fwy na galluog.”

“Peidiwch â rhoi’r ffidl yn y to. Cymerodd bron i 5 mlynedd o geisiadau, diwrnodau asesu a chyfweliadau i mi gael gyrfa yn y maes STEM. Roedd y 5 mlynedd honno yn werth pob ymdrech i gyrraedd ble rwyf fi heddiw gyda SPTS Technologies.”

Gobaith ar gyfer y dyfodol 

“Bydd peirianwyr y dyfodol yn gweithio gyda’r dechnoleg ddiweddaraf ac yn cyfrannu at ddatblygu cynnyrch newydd a fydd yn gwella bywydau pob un ohonom.”

Rwy’n gobeithio na fydd mor anarferol i fenywod weithio fel peirianwyr. Mae angen i ferched gydnabod eu bod yr un mor fedrus â bechgyn o ran astudio pynciau STEM a chael gyrfa lwyddiannus mewn peirianneg.”


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Gweithio gydag ysgolion

Gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru fe allwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc, a chael budd i'ch busnes.

Stori HSBC

Mae Kim Jones, Rheolwr Manwerthu’r Gangen yn HSBC Llandrindod, yn annog cyflogwyr i gymryd rhan yng Nghyfnewidfa Addysg Busnes Gyrfa Cymru.

Stori Gallt y Glyn

Mae Elin Aaron yn rhedeg bwyty a thŷ llety teuluol bach wrth odre’r Wyddfa ac mae’n credu mewn cefnogi ysgolion lleol. Dyma’i hanes...

Stori Celtic Horizons

Mae Celtic Horizons wedi cael cydnabyddiaeth am y gwaith mae’n ei wneud mewn ysgolion er mwyn ysbrydoli pobl ifanc i gael gyrfa yn y diwydiant adeiladu.