Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Celtic Horizons

Rebecca Quinn a Tryon Mapp, Celtic Horizons

Mae Celtic Horizons wedi cael cydnabyddiaeth am y gwaith mae’n ei wneud mewn ysgolion er mwyn ysbrydoli pobl ifanc i gael gyrfa yn y diwydiant adeiladu. Rebecca Quinn, Cynorthwyydd Profiadau Cwsmeriaid yn Celtic Horizons, sy’n adrodd yr hanes:

Cymryd rhan

“Mae’n hynod bwysig paratoi pobl ifanc ar gyfer y byd gwaith a dyna pam rydym wedi ymuno â Chyfnewidfa Addysg Busnes Gyrfa Cymru.”

“Mae gan fusnesau adeiladu yng Nghymru lawer o waith i’w wneud er mwyn newid delwedd y diwydiant. Mae technoleg yn rhan hanfodol o ddatblygu ffyrdd newydd o adeiladu ac mae’n rhaid i ni rannu hynny gyda gweithlu’r dyfodol.”  “Mae gennym 171 o aelodau staff yn amrywio o seiri coed, plymwyr i staff gweinyddol a rheoli. Rydym yn gofalu am 6,000 o gartrefi yn Ne Cymru. Mae gennym lawer o wybodaeth i’w rhannu ac rydym yn fwy na pharod i gefnogi ysgolion yr ardal.”  “Roeddem yn falch o ennill gwobr aur yng Ngwobrau Partneriaid Gwerthfawr 2018 a’r Wobr am Gyfraniad Eithriadol yn 2019 am ein gwaith gydag ysgolion a rhoddodd hynny hwb gwirioneddol i’n staff.” 

Gweithio gydag ysgolion 

“Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi rhoi sawl sgwrs yn ystod gwasanaethau boreol ac wedi cynnal sawl gweithdy mewn ysgolion uwchradd yn ardaloedd Caerffili a Chaerdydd gan edrych ar amrywiaeth o sectorau sgiliau, er enghraifft gosod teils, paentio ac addurno, gwaith coed, gwaith trydanol a phlymio.”

“Un o’n prif nodau yw cefnogi ysgolion addysg arbennig a phlant sy’n ymddwyn yn heriol drwy fod yn fentor cadarnhaol ar eu cyfer a’u helpu i gael lleoliadau gwaith.” “Rydym yn herio’r stereoteipiau yn y diwydiant adeiladu drwy hyrwyddo cydraddoldeb a helpu merched i gael gwaith drwy ddarparu lleoliadau gwaith a chynnal sgyrsiau arbennig mewn ysgolion o dan ein prosiect ‘Menywod yn y diwydiant Adeiladu’.” “Roedd ysgolion cynradd ac uwchradd yn llawn canmoliaeth i’n deunyddiau dysgu sy’n galluogi disgyblion feddwl am y gwahanol grefftau tra’n ystyried mathemateg, gwyddoniaeth, siapiau, maint a chyfathrebu.”

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol 

“Rwy’n hynod falch o fod yn rhan o’r berthynas waith gyda Gyrfa Cymru sy’n ein galluogi i estyn llaw i bobl ifanc a sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r cyfleoedd gyrfa.”

“Byddwn yn parhau i gynnig lleoliadau gwaith a diwrnodau blasu, a rhannu ein gwybodaeth am brentisiaethau a’r sgiliau sydd eu hangen i gael gwaith.” “Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi’r prosiect ‘Menywod yn y diwydiant Adeiladu’ a rhannu’r neges nad rhywbeth i fechgyn yn unig yw’r diwydiant adeiladu!”

Roeddem wedi trefnu llawer o weithgareddau ar gyfer 2020 fel rhan o’n partneriaeth Dosbarth Busnes ac mae’n drueni bod hynny wedi cael ei ohirio oherwydd y pandemig. Edrychwn ymlaen at weithio eto gydag ysgolion pan ddaw pethau’n ôl i drefn a gobeithio y gallwn ymweld â mwy fyth o ysgolion yn Ne Cymru.”


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Gweithio gydag ysgolion

Gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru fe allwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc, a chael budd i'ch busnes.

Stori HSBC

Mae Kim Jones, Rheolwr Manwerthu’r Gangen yn HSBC Llandrindod, yn annog cyflogwyr i gymryd rhan yng Nghyfnewidfa Addysg Busnes Gyrfa Cymru.

Stori Gallt y Glyn

Mae Elin Aaron yn rhedeg bwyty a thŷ llety teuluol bach wrth odre’r Wyddfa ac mae’n credu mewn cefnogi ysgolion lleol. Dyma’i hanes...

Stori Anik

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg, dyma stori Anik Cartwright sy’n dangos sut mae’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr benywaidd.