Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori DTCC

Staff DTTC yn sefyll o flaen baner y cwmni

Drwy ddatblygu partneriaeth werthfawr gydag ysgolion yn Wrecsam, gall DTCC ddiogelu eu busnes ar gyfer y dyfodol, cefnogi economi Cymru a chodi proffil ei fusnes.

Nid yw ymgysylltu â chyflogwyr erioed wedi bod mor bwysig. Mae partneriaethau rhwng busnesau ac ysgolion yn rhoi'r ysbrydoliaeth, y cymhelliant, y wybodaeth a'r profiadau sydd eu hangen ar bobl ifanc i'w helpu i gyflawni eu potensial.

Gweithio gydag ysgolion

Mae Kerry Jenkins, Uwch Ddadansoddwr, Cysoni a Chefnogi Prif Fenthyciadau a Llog, Gweithrediadau Busnes Byd-eang wedi bod yn cefnogi’r bartneriaeth ochr yn ochr â Christine Lovelady, Arweinydd Safle ar gyfer DTCC Wrecsam, sy’n dweud wrthym am DTCC a gwerth ei bartneriaethau ag ysgolion:

“Mae Swyddfa Wrecsam yn ganolfan weithrediadau bwysig i DTCC, yn darparu gwasanaeth prosesu gwarannau a thrafodion i’r sector cyllid.

“Rydym yn awyddus i gael effaith gadarnhaol ar addysg a rhoi rhywbeth yn ôl i bobl ifanc yn y gymuned leol. Rydym felly wedi gwneud adduned i gefnogi gweithgareddau addysg busnes ym mhob ysgol yn Wrecsam ac mae ein staff yn gweithio’n agos gydag Ysgol Uwchradd Rhosnesni fel Partner Gwerthfawr Ysgol.

“Mae ein menter Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol yn canolbwyntio ar wella addysg (STEM) a chefnogi’r economi leol. Nid oes gwell ffordd o wneud hynny na gweithio gydag ysgolion.

“Roeddem yn falch iawn o gael ein henwebu am y Wobr Cyfraniad Eithriadol yng Ngwobrau Partneriaid Gwerthfawr Gyrfa Cymru yn 2019 am ein gwaith gydag ysgolion ac rydym yn edrych ymlaen at gryfhau ein partneriaethau ymhellach o fis Medi ymlaen.”

Partner Gwerthfawr Ysgol

Fel cyswllt ar gyfer addysg gyrfaoedd yn Ysgol Uwchradd Rhosnesni, mae Angela Taylor yn hynod o ddiolchgar i DTCC am ei gefnogaeth.

“Mae DTCC wedi cefnogi nifer o’n gweithgareddau cyswllt busnes dros y blynyddoedd diwethaf.

“Mae ei staff wedi rhoi cymhelliant i’n disgyblion ac wedi cefnogi'r bobl ifanc dalentog sydd gennym.

“Gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru, mae DTCC wedi cynnal nifer o weithdai ac wedi gwneud sawl cyflwyniad ar wahanol bynciau, yn amrywio o sgiliau cyfweld i frandio personol.

“Mae datblygu partneriaeth gyda DTCC wedi golygu bod ein disgyblion yn fwy ymwybodol o’r byd gwaith, y cyfleoedd sydd ar gael iddynt a’r sgiliau y mae cyflogwyr eu heisiau.

Byddem yn annog pob ysgol i greu partneriaethau gwerthfawr gyda chyflogwyr lleol i ddarparu rhaglen cysylltu â busnesau amrywiol a hwyliog.”

Os hoffech wybod mwy am y fenter Partner Gwerthfawr Ysgol cysylltwch â’ch Cynghorydd Cyswllt Busnes rhanbarthol ar cyswlltcyflogwr@gyrfacymru.llyw.cymru neu 0800 028 4844.


Archwilio

Cynllun Partner Gwerthfawr Ysgol

Mae’r cynllun Partner Gwerthfawr Ysgol yn rhoi cydnabyddiaeth i gyflogwyr sy'n mynd ati i gefnogi ysgolion unigol drwy weithgareddau cysylltu â chyflogwyr Gyrfa Cymru.

Gweithio gydag ysgolion

Gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru fe allwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc, a chael budd i'ch busnes.

Stori RWE

RWE Renewables yn dod yn bartner gwerthfawr ysgol drwy gefnogi gweithgareddau addysg busnes ym Mhort Talbot, gan dynnu sylw at gyfleoedd yn y sector ynni adnewyddadwy yn y dyfodol.