Enillodd Eleri Jenkins y wobr ‘Cyfraniad Personol Eithriadol’ yng Ngwobrau Partneriaid Gwerthfawr 2021.
Mae wedi bod yn cefnogi gweithgareddau Gyrfa Cymru ers iddi ymuno â’r bwrdd iechyd yn 2017. Mae’n ganddi angerdd tuag at sicrhau bod pobl ifanc yn gwybod am yr ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael yn GIG Cymru.
Ymrwymiad i bobl ifanc
Mae Ms Jenkins wedi cyfrannu at amrywiol ddigwyddiadau Gyrfa Cymru, gan gynnwys Cymraeg yn y Gweithle ac Wythnos Darganfod Gyrfa. Mae hefyd wedi annog ei chydweithwyr o’r bwrdd iechyd a sefydliadau eraill i gymryd rhan.
Er gwaethaf y pandemig, mae wedi bod yn ymrwymedig i godi ymwybyddiaeth o’r gyrfaoedd sy’n rhoi llawer o foddhad sydd ar gael gyda GIG Cymru a’r holl fanteision a ddaw yn sgil siarad Cymraeg.
Hyrwyddo’r Gymraeg
Meddai Rhian Thomas, cynghorydd cyswllt busnes Gyrfa Cymru:
“Mae Eleri wedi gwneud swm sylweddol o waith i gefnogi Gyrfa Cymru. Mae’n frwdfrydig iawn ynglŷn â chodi ymwybyddiaeth pobl ifanc o fanteision siarad Cymraeg, yn arbennig mewn lleoliadau iechyd a gofal.
“Bu’n rhan o’r Wythnos Darganfod Gyrfa gyntaf a chyfrannodd yn helaeth at y digwyddiad digidol Cymraeg yn y Gweithle diweddaraf. Yn ogystal â chysylltu â chydweithwyr a byrddau iechyd eraill i gymryd rhan, llwyddodd hefyd i gynnwys Gyrfa Cymru yn y Fforwm Rhanbarthol Mwy na Geiriau.
Ymestyn cyrhaeddiad
“Deilliodd y Fforwm o gynllun Llywodraeth Cymru i gryfhau a datblygu gwasanaethau Cymraeg yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n cwmpasu ardal Cwm Taf Morgannwg, gan gynnwys y bwrdd iechyd lleol, colegau lleol, awdurdodau lleol, y Fenter Iaith a’r Mudiad Meithrin.
“Drwy gymryd rhan ym Mwy na Geiriau cawsom blatfform i hyrwyddo ein gwaith i ystod eang o randdeiliaid. Bu hyn o gymorth i greu cysylltiadau â sefydliadau newydd na fyddem o bosibl wedi cael y cyfle i gysylltu â nhw fel arall.”
Codi ymwybyddiaeth
Meddai Eleri Jenkins:
“Mae gweithio gyda Gyrfa Cymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi galluogi’r bwrdd iechyd i hyrwyddo gyrfaoedd nad yw pobl ifanc yn ymwybodol ohonynt o bosibl. Rwyf wedi gallu egluro pa mor bwysig yw sgiliau Cymraeg yn y sector iechyd. Gobeithio fy mod wedi ysbrydoli’r rhai sy’n dysgu Cymraeg i ddatblygu eu sgiliau gan wybod y byddan nhw’n werthfawr yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”
Beth nesaf?
Mae Eleri bellach yn gweithio fel rheolwr gwasanaethau Cymraeg yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae’n gobeithio parhau i weithio gyda Gyrfa Cymru, gan hyrwyddo’r Gymraeg a chodi ymwybyddiaeth o gyfleoedd gyrfa digidol.