Busnes Elin yn cynorthwyo ysgolion lleol.
Mae Elin Aaron yn rhedeg bwyty a thŷ llety teuluol bach wrth odre’r Wyddfa, sy’n boblogaidd ymhlith trigolion yr ardal a thwristiaid. Mae Elin yn cyflogi dau aelod o staff llawn amser a naw aelod o staff rhan amser yng Ngallt y Glyn, ac mae’n credu mewn cefnogi ysgolion lleol. Dyma’i hanes...
Cymryd rhan
“Dw i’n cofio Gyrfa Cymru (neu sefydliad tebyg) pan oeddwn i yn Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon, flynyddoedd maith yn ôl.
“Penderfynais gysylltu â Gyrfa Cymru i gael rhywfaint o gyngor ynghylch dod o hyd i staff a chyflogi prentisiaid, gan fy mod eisiau tyfu fy musnes.
“Daeth John Edwards, Cynghorydd Cyswllt Busnes o Gyrfa Cymru sy’n gweithio yng Ngwynedd ac Ynys Môn, draw i ’ngweld i, a rhoddodd wybod imi am y cymorth sydd ar gael i gyflogwyr.
Gweithio gydag ysgolion
“Soniodd John am y gwahanol weithgareddau ymgysylltu â busnes sy’n digwydd mewn ysgolion. Roeddwn i eisiau bod yn rhan o hyn, felly ymunais â’r Gyfnewidfa Addysg Busnes.
“Cefais fod yn ‘ddraig’ am y diwrnod, a chael cyfle i feirniadu syniadau busnes ardderchog disgyblion blwyddyn 12 Ysgol Brynrefail fel rhan o’u cymhwyster Bagloriaeth Cymru.
“Dw i hefyd wedi cyflwyno gweithdai yn Ysgol Brynrefail fel rhan o Ddiwrnod Sgiliau Byd Gwaith. Gofynnais i’r disgyblion gynllunio pitsa arbennig. Roedd ganddyn nhw syniadau gwreiddiol a beiddgar iawn ac roeddwn i wrth fy modd yn gweld dychymyg pobl ifanc ar waith.
“Mae rhoi cyflwyniadau mewn ysgolion yn newydd imi a dw i wedi bod yn nerfus. Wedi dweud hynny, dw i’n ddiolchgar am y profiadau gwerthfawr dw i wedi’u cael gan Gyrfa Cymru. Dw i’n cael hwyl, dw i’n cael syniadau newydd a dw i bellach yn cyflogi disgyblion o Ysgol Brynrefail fel staff tymhorol.
Cyngor i eraill sy’n berchen ar fusnesau bach
“Dw i’n credu ei bod yn bwysig i berchnogion busnesau bach greu perthynas gyda’u hysgolion lleol.
“Hoffwn weithio mwy gydag ysgolion a dangos i bobl ifanc fod yna gymaint o amrywiaeth yn perthyn i redeg eich busnes bach eich hun. Ydy, mae’n waith anodd, ond mae hefyd mor bleserus.
“Does yr un busnes, hyd yn oed yng nghanol y cyfnod rhyfedd sydd ohoni gyda Covid-19, wedi’i ynysu oddi wrth gymdeithas. Rhaid i bob busnes, bach a mawr, wneud ei ran i ddatblygu a sicrhau dyfodol llwyddiannus a llewyrchus i’r gymuned.
“Dw i’n meddwl bod yn rhaid meithrin pobl ifanc i gredu y gallan nhw lwyddo’n lleol – does dim angen iddyn nhw symud o’r ardal i fyw ac fe allan nhw wneud beth bynnag maen nhw’n dymuno’i wneud yma.
“Trwy greu perthynas ag ysgolion lleol, dw i’n cyfathrebu gyda chwsmeriaid presennol, darpar gwsmeriaid a gweithlu posibl. Mae’n gwneud y cwmni’n fwy cyfeillgar; gobeithio.
Mi fuaswn i’n annog busnesau bach eraill i wneud yr un peth trwy gysylltu gyda Chynghorwyr Cyswllt Busnes Gyrfa Cymru.”
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru fe allwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc, a chael budd i'ch busnes.

Mae Kim Jones, Rheolwr Manwerthu’r Gangen yn HSBC Llandrindod, yn annog cyflogwyr i gymryd rhan yng Nghyfnewidfa Addysg Busnes Gyrfa Cymru.