Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Griffiths

Gweithiwr Griffiths yn sefyll o flaen fan waith

Mae Griffiths yn gweithio mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru i godi ymwybyddiaeth o yrfaoedd yn y diwydiannau Peirianneg Sifil ac Adeiladu.

Wedi’i leoli yn y Fenni, mae Griffiths yn un o brif gontractwyr peirianneg sifil a rheilffyrdd sy’n gweithio ledled Cymru, canolbarth Lloegr a de-orllewin Lloegr ac mae ganddo dros 1,000 o staff.

Gweithio gydag ysgolion

Mae Mandy Evans, Swyddog Cyswllt Cymunedol yng Ngogledd Cymru, yn rhannu ei phrofiad o gefnogi gweithgareddau byd gwaith mewn ysgolion: “Fel cwmni, mae Griffiths yn ymrwymedig i’r cymunedau y mae’n gweithio ynddyn nhw. Yn unol â Chanllawiau Buddion Cymunedol Llywodraeth Cymru a Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, rydym yn defnyddio ein harbenigedd a’n hadnoddau i gefnogi’r gwaith o ddatblygu cymunedau cydlynol yn yr ardaloedd ble rydym yn gweithio neu wedi ein lleoli.

“Cefais gyfle i gyfarfod â John Edwards, un o gynghorwyr cyswllt busnes Gyrfa Cymru, ychydig flynyddoedd yn ôl a chytunodd i gefnogi’r gweithgareddau addysg busnes a drefnwyd ar gyfer ysgolion Gwynedd ac Ynys Môn.

“Mae’r gweithgareddau’n amrywio. Un diwrnod gallwn fod yn cynnal sesiynau rhyngweithiol mewn ffeiriau gyrfaoedd a’r diwrnod canlynol gallwn fod yn cynnal ffug gyfweliadau ac yn cynnig lleoliadau gwaith.

“Drwy’r rhaglen Trac, rwyf wedi gweithio gyda grwpiau bach o ddisgyblion sy’n wynebu rhwystrau. Rydym yn darparu gweithgareddau hwyliog i ddatblygu sgiliau gweithio fel tîm y disgyblion a’u gallu i ddatrys problemau, gan feithrin sgiliau cyflogadwyedd hanfodol.

“Rwyf wrth fy modd yn gweithio gydag ysgolion. Yn wir, dyma yw uchafbwynt fy swydd fel Swyddog Cyswllt Cymunedol Gogledd Cymru.”

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Yn 2018, cafodd Griffiths Wobr Aur Partneriaid Gwerthfawr ac mae wedi parhau i gefnogi mwy a mwy o weithgareddau addysg busnes dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Mae’r cyfyngiadau presennol yn sgil Covid-19 yn her, ond rydym wedi addasu a byddwn yn parhau i weithio gydag ysgolion lleol mewn ffordd arloesol a digidol.

“Yn ddiweddar fe wnaethom sefydlu Rhwydwaith Gweithwyr Cymraeg ar draws y cwmni ac rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno yn y digwyddiad digidol Dewiswch eich Dyfodol – Cymraeg yn y Gweithle. Byddaf yn rhannu ein hamcanion i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y diwydiant adeiladu, gyda disgyblion ledled Cymru.”

Neges i weithlu’r dyfodol

“Mae swydd i bawb yn y diwydiant adeiladu. Ceir gwahanol lwybrau i’r diwydiant adeiladu ac rwy’n gobeithio y bydd athrawon a rhieni yn ymuno â ni i gynorthwyo disgyblion i ddysgu am y cyfleoedd sydd ar gael.”


Archwilio

Gweithio gydag ysgolion

Gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru fe allwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc, a chael budd i'ch busnes.

Cyfnewidfa Addysg Busnes

Dolen uniongyrchol i'r gronfa ddata sy'n rhestru cyflogwyr sydd â diddordeb mewn gweithio gydag ysgolion.