Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori HSBC

Staff HSBC

Mae Kim Jones, Rheolwr Manwerthu’r Gangen yn HSBC Llandrindod, yn annog cyflogwyr i gymryd rhan yng Nghyfnewidfa Addysg Busnes Gyrfa Cymru. 

Mae’r Gyfnewidfa Addysg Busnes yn rhoi cyfle i gyflogwyr weithio gydag ysgolion i ddatblygu rhaglenni cyffrous i ddisgyblion sy’n cyfoethogi’r cwricwlwm. Maen nhw’n chwilio am gyflogwyr a phartneriaid gwerthfawr sy’n fodlon gweithio gydag ysgolion yn y dyfodol.

Cymryd rhan 

"Cwrddodd rhai o fy nghydweithwyr yn HSBC â Jacky Jones, cynghorydd ymgysylltu â busnes o Gyrfa Cymru, wrth arddangos yn y Sioe Frenhinol.

“Roedd clywed am y gwaith sy’n cael ei wneud mewn ysgolion yn yr ardal yn gyffrous ac roedd HSBC eisiau bod yn rhan o hynny. 

“Daeth Jacky draw i’r gangen i drafod manteision bod yn rhan o’r Gyfnewidfa Addysg Busnes dros baned.  

“Rhannodd Jacky fanylion y gwaith roedd Gyrfa Cymru yn ei wneud mewn ysgolion lleol a pha gyfleoedd oedd ar gael inni fel cyflogwr.

“Fel rheolwr manwerthu’r gangen, roeddwn i’n awyddus iawn i HSBC weithio gydag ysgolion lleol i godi ymwybyddiaeth am yrfaoedd yn y diwydiannau gwasanaethau ariannol, llwybrau at yrfaoedd gyda’r banc a’r prentisiaethau sydd ar gael. 

“Roedden ni hefyd eisiau cynnig gweithdai ar gyllid a rheoli arian, o drafod cyfrifon banc i forgeisi.

“Byddai cyfle gan fy nhîm i wneud gwahaniaeth yn y gymuned leol, a byddai ysgolion yn elwa o’r profiad ymarferol a’r arbenigedd y byddai ein staff yn dod gyda nhw i addysg pobl ifanc yn y dosbarth.

"Cofrestrodd HSBC gyda’r Gyfnewidfa Addysg Busnes ac mae wedi bod yn wych."

Gweithgareddau addysg busnes mewn ysgolion 

“Ers cofrestru gyda’r Gyfnewidfa Addysg Busnes rydyn ni wedi dewis cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau hwyl, gwahanol. 

“Rydyn ni wedi beirniadu cyflwyniadau Menter Bagloriaeth Cymru gan ddisgyblion a chynnal ffug gyfweliadau yn Ysgol Calon Cymru. 

“Rydyn ni wedi cymryd rhan mewn ‘Diwrnod Carousel’ yn Ysgol Uwchradd y Drenewydd ac wedi arddangos yn nigwyddiad hynod lwyddiannus Dewiswch Eich Dyfodol ar gyfer disgyblion a rhieni ar Faes y Sioe Frenhinol.

“Nid yn unig ein bod ni’n mwynhau ein hamser yn gweithio gyda’r gymuned, ond rydyn ni hefyd yn cael cyfarfod busnesau a sefydliadau o’r un anian â ni.

Jacky yw ein prif gyswllt yn Gyrfa Cymru hyd heddiw ac mae’n cysylltu â ni i gynnig cyfleoedd lleol ac yn gymorth gwych trwy gydol y broses.” 

Gobeithion ar gyfer y dyfodol 

“Mae fy nhîm a minnau wedi mwynhau gweithio mewn ysgolion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae rhagor o weithgareddau ar y gweill gydag Ysgol Calon Cymru, Llanfair-ym-muallt ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ysbrydoli gweithlu’r dyfodol unwaith eto pan fydd ysgolion yn ailagor.”

“Rydyn ni’n bwriadu datblygu ein cyflwyniadau a’n gweithdai ymhellach ac yn ystyried ffyrdd o ymgysylltu â phobl ifanc yn y digwyddiadau Dewiswch Eich Dyfodol mawr.

Rydw i’n annog cyflogwyr a sefydliadau eraill sy’n ystyried gweithio gydag ysgolion i gysylltu â Gyrfa Cymru a chofrestru ar gyfer y Gyfnewidfa Addysg Busnes.”

 


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Gweithio gydag ysgolion

Gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru fe allwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc, a chael budd i'ch busnes.

Cyfnewidfa Addysg Busnes

Dolen uniongyrchol i'r gronfa ddata sy'n rhestru cyflogwyr sydd â diddordeb mewn gweithio gydag ysgolion.

Stori Gallt y Glyn

Mae Elin Aaron yn rhedeg bwyty a thŷ llety teuluol bach wrth odre’r Wyddfa ac mae’n credu mewn cefnogi ysgolion lleol. Dyma’i hanes...