Mae Nyth yn rhoi cyngor diduedd am ddim ar arbed ynni a gwelliannau sy’n arbed ynni i gartrefi sy’n agored i niwed. Mae ei raglen budd i’r gymuned yn mynd y tu hwnt i hyn ac yn darparu budd i gymunedau Cymru.
Nodau cyffredin
Mae Nyth wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ag Ysgol Clywedog, Wrecsam ers pedair blynedd. Roedd yr athrawon yno yn awyddus i roi gwell dealltwriaeth i’r myfyrwyr o’r hyn mae’n ei olygu i ymuno â’r byd gwaith.
Roedd hyn yn cyd-fynd ag amcan Nyth i wella sgiliau cyflogaeth mewn addysg, codi ymwybyddiaeth o bynciau STEM a chwalu’r myth mai dim ond gyrfaoedd ym maes peirianneg sydd ar gael gyda Nwy Prydain.
Amrywiaeth o gymorth a gweithgareddau
Meddai Lesley Lloyd, cynghorydd cyswllt busnes Gyrfa Cymru:
“Dros y pedair blynedd diwethaf, mae Nyth yn gweithio gyda phob grŵp blwyddyn yn Ysgol Clywedog gan gynnal gwahanol sesiynau sgiliau cyflogadwyedd, hyfforddiant i swyddogion, sgyrsiau mewn gwasanaethau boreol a rhaglen wobrwyo presenoldeb a chydnabyddiaeth.
Goresgyn rhwystrau
“Ni lwyddodd y pandemig i’w rhwystro chwaith. Yn ystod yr argyfwng, llwyddodd y rheolwr ymgysylltu â chymunedau, Michelle Symonds, i gynnal sesiynau ar-lein i fyfyrwyr Blynyddoedd 10 ac 11 er mwyn eu helpu i ennill cymwysterau Gwasanaethau Cwsmeriaid Agored Cymru.
“Cafodd cynlluniau llawer o fyfyrwyr eu hatal oherwydd y coronafeirws, ond roedd sesiynau rhagorol Michelle yn gyfle iddyn nhw barhau i wella eu CV er mwyn gwneud cais am swydd neu le yn y brifysgol yn y dyfodol.”
Dysgu “sgiliau hanfodol” ar gyfer y byd gwaith
Meddai Ross Kirwan, pennaeth Nyth:
“Rydym mor falch o weld gwaith caled athrawon a myfyrwyr Ysgol Clywedog a’n tîm Buddiannau Cymunedol yn cael ei gydnabod drwy’r wobr hon gan Gyrfa Cymru.
“Yn ystod cyfnod a fu’n heriol i bawb, bu’n hyfryd gweld y genhedlaeth nesaf yn ymdrechu’n galed i ddysgu sgiliau hanfodol a fydd o fudd iddynt pan fyddant yn ymuno â’r byd gwaith.
“Yn ogystal â helpu i sicrhau bod cartrefi ledled Cymru yn parhau i fod yn gysurus drwy gydol y flwyddyn, rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth â chymunedau lleol ledled y wlad i ddarparu’r buddiannau ychwanegol a ddaw yn sgil ein gwaith gyda chynllun Nyth.”
Enillodd Nyth (a reolir gan Nwy Prydain) y wobr ‘y Berthynas Barhaus Orau gydag Ysgol’ yng Ngwobrau Partneriaid Gwerthfawr 2021.