Mae Wynne Construction yn brif gontractwr blaenllaw. Mae’n cyflogi 50 o bobl. Mae’r cwmni’n ymrwymedig i gefnogi pobl ifanc yn ogystal â hyrwyddo’r maes adeiladu a’r amgylchedd adeiledig ledled Cymru.
Ymgysylltu â phobl ifanc yn ystod y pandemig
Meddai Martin Webber, cynghorydd cyswllt busnes Gyrfa Cymru:
“Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â disgyblion wedi bod yn andros o her o ganlyniad i bandemig y coronafeirws. Ond hyd yn oed gyda chyfyngiadau Covid, roedd Wynne Construction yn benderfynol o gefnogi pobl ifanc cymaint â phosibl.
“Fe wnaeth Wynne Construction greu ffyrdd amgen o ymgysylltu â disgyblion. Cynhaliodd ffug gyfweliadau, cymerodd ran mewn fideos sy’n cynnig awgrymiadau ar gyfer cyfweliad ac fe wnaeth gyflwyniadau rhithwir. Cynhaliodd weithdy rhithwir hefyd a chreu fideo i ysgolion lleol ar sut i osod brics.”
Enillydd y wobr ‘Y Cymorth Mwyaf Arloesol i Ysgolion’ 2021
Meddai Alison Hourihane, rheolwr gwerth cymdeithasol Wynne Construction:
“Rydym yn ymroddedig i addysgu ac i annog y garfan nesaf o weithwyr yng Nghymru. Rydym wrth ein bodd o gael ein cydnabod am ein gwaith gydag ysgolion.
"Ein nod yw creu ysgolion modern sy’n addas ar gyfer y dyfodol, a defnyddio Wynne Futures Foundation i greu brwdfrydedd ac ennyn diddordeb yn y diwydiant ymhlith y myfyrwyr y byddwn yn eu gweld. Mae gweithgareddau megis ffug gyfweliadau a gweithdai yn enghreifftiau gwych o hyn.
"Mae tîm Wynne yn llawn haeddu’r clod am y llwyddiant hwn ar ôl gweithio mor galed yn ystod y pandemig i sicrhau bod modd parhau i gynnal y digwyddiadau hyn yn ddiogel.”